Sir Ddinbych wyrddach

Gwyrddach

Yr hyn a ddymunwn

Bod yn sefydliad Di-garbon Net erbyn 2030 a chyfoethogi ein hasedau naturiol, eu cynnal a’u gwella er budd bioamrywiaeth. Rhaid inni hefyd liniaru ar effeithiau newid yn yr hinsawdd a gweithio gyda chymunedau i ymdopi â hynny.

Yr hyn y bwriadwn ei wneud:

  1. Cyflawni ein Strategaeth ar Hinsawdd a Natur a dod yn gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net erbyn 2030, gan gynnwys:
    • Cynyddu’r gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn adeiladu y mae’r cyngor yn berchen arnynt ac yn eu gweithredu
    • Lleihau allyriadau carbon o’n cadwyni cyflenwi
    • Gwrthbwyso allyriadau carbon drwy blannu coed a dulliau eraill
    • Ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael ar gyfer peillio a bywyd gwyllt
    • Creu mwy o ddolydd blodau gwyllt brodorol ledled y sir.
  2. Gwella cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff drwy:
    • Roi gwasanaeth gwastraff newydd ar waith
    • Defnyddio llai o blastig untro mewn ysgolion
  3. Cefnogi cymunedau i liniaru ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ac ymdopi â hwy drwy:
    • Ddarparu mwy o randiroedd a chyfleoedd i dyfu bwyd yn y gymuned
    • Gweithredu cynlluniau i leihau’r perygl o lifogydd ar yr arfordir a’r mewndir. Mae hynny’n cynnwys cefnogaeth i reolwyr tir ar lannau dyfrffyrdd
    • Annog rheoli rhostiroedd er mwyn lleihau’r perygl o danau gwyllt, gan weithio gyda pherchnogion tir, ffermwyr, cymunedau a chyrff statudol.
  4. Cynnal isadeiledd gwyrdd ein sir drwy:
    • Ddatblygu a gosod rhwydwaith cyhoeddus o fannau gwefru cerbydau trydan.
    • Ymchwilio i ffyrdd y gall y cyngor annog datblygiadau tai newydd i gynnwys mannau gwyrdd a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.