Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl
Yr hyn a ddymunwn
Sicrhau bod digon o dai o ansawdd da ar gael, gan fodloni anghenion holl drigolion Sir Ddinbych.
Yr hyn y bwriadwn ei wneud:
- Sicrhau bod tai o safon ar gael sy’n bodloni anghenion pobl ddiamddiffyn, a’u helpu i fyw bywydau annibynnol mewn llety addas cyhyd â phosibl.
- Atal digartrefedd a sicrhau bod unrhyw achosion o ddigartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn digwydd eto. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy’n gadael gofal.*
- Adnewyddu stoc tai’r Cyngor er mwyn sicrhau ei fod:
- Yn ddiogel ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda
- Lle bo modd, yn bodloni anghenion trigolion fel pobl ag anableddau, er enghraifft*
- Yn defnyddio ynni’n effeithlon ac wedi’u hinswleiddio’n dda.
- Darparu mwy o gartrefi i fodloni’r angen a’r galw lleol, gan gynnwys:
- 300 o dai fforddiadwy yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru
- 35 o gartrefi arbenigol drwy Gynlluniau Gofal Ychwanegol
- 170 o dai cyngor yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru
- Gweithio i leihau nifer y tai gwag yn Sir Ddinbych.
- Sicrhau bod ein trigolion yn cael gwybod am y dewisiadau a’r llwybrau tai sydd ar gael, yn ogystal â cheisio lleihau rhestr aros yr Un Llwybr Mynediad at Dai. Mae hynny’n cynnwys meithrin cyswllt â phobl sydd eisoes yn byw mewn tai cyngor, a’r rheiny ar incwm isel.
* Amcanion cydraddoldeb.