Adolygiad o Ddosbarthiadau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio 2024 

(wedi'i cwblhau)

Mae'r ymgynghoriad hwn yn nawr ar gau

Hysbysaf drwy hyn y cynhelir adolygiad, yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad hwn, yn unol ag Adran 18C (1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, fel ag y mewnosodwyd gan Adran 16 o Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.

Graham Boase

Prif Weithredwr

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn adolygu dosbarthiadau a mannau pleidleisio Sir Ddinbych.

Dosbarth pleidleisio yw ardal ddaearyddol a grëwyd drwy is-rannu ardal etholaethol, hynny yw etholaeth, ward dosbarth neu adran yn rhannau llai

Man pleidleisio yw adeilad neu ardal ble lleolir y gorsafoedd pleidleisio.

Gorsaf bleidleisio yw’r ystafell neu’r ardal yn y man pleidleisio lle bydd y pleidleisio’n digwydd

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Mae gennym ddyletswydd statudol (sy’n golygu bod yn rhaid i ni wneud hyn yn ôl y gyfraith) i adolygu ein dosbarthiadau pleidleisio a’n mannau pleidleisio o leiaf unwaith bob pum mlynedd.

Fel Cyngor, ein nod yw sicrhau:

  • Ein bod yn cynnal rhwydwaith o ddosbarthiadau pleidleisio, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio. Ein nod yw sicrhau bod gan y rhwydwaith hwn ddigon o gyfleusterau i hwyluso pobl i fwrw eu pleidlais pryd bynnag y cynhelir etholiad lleol neu genedlaethol.
  • Bod mannau pleidleisio yn hygyrch i bobl ag anableddau, cyn belled ag y bo’n ymarferol.
  • Dylai unrhyw newidiadau arfaethedig i’r dosbarthiadau pleidleisio a mannau pleidleisio presennol presennol allu dangos cefnogaeth eang o fewn y dosbarth pleidleisio.

Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi cydweithrediad perchnogion eiddo sy’n cynnig eu hadeiladau am y diwrnod fel bod gan etholwyr le cyfleus i bleidleisio.

Mae’n ymddangos bod y dosbarthau pleidleisio a’r mannau pleidleisio presennol yn cael derbyniad da o flwyddyn i flwyddyn gan yr etholwyr gydag ychydig iawn o gwynion am eu lleoliad a hygyrchedd

Dylai unrhyw newidiadau i ddobarthiau pleidleisio neu mannau pleidleisio cael cefnogaeth o leiaf 30 o etholwyr llywodraeth leol cofrestredig, yn unol â’r amcanion a amlinellwyd yn Adran 18D o Ddeddf Cynrychioli’r Bobl 1983.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?

Hoffem wybod beth yw eich barn am eich dosbarth pleidleisio a man pleidleisio.

Os hoffech wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer newidiadau i ddosbarthiadau pleidleisio, dylech ystyried y canlynol:

  • Ydi’r eiddo yn ddigon mawr ar gyfer nifer yr etholwyr a ddyrannwyd?
  • Ydi’r eiddo mewn lleoliad mor ganolog ag sy’n bosibl ar gyfer y dosbarth etholiadol mae’n ei wasanaethu?
  • A oes modd gwarantu y bydd y man pleidleisio ar gael i’w ddefnyddio yn y tymor hir?
  • A fydd y lleoliad yn hygyrch i bobl ag anableddau, lle bo’n ymarferol?

Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?

Bydd y safbwyntiau a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn cael eu hadrodd i gyfarfod o’r Cyngor ym mis Ionawr 2025 i lywio penderfyniadau’r Cyngor ar leoliad dosbarthiadau a mannau pleidleisio Sir Ddinbych.

Sut ellwch chi gymryd rhan?

Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd am rannu sylwadau am y dosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio presennol anfon eu hymateb at Swyddfa’r Gwasanaethau Etholiadol.

Lle bynnag bo’n bosibl, dylai sylwadau gynnwys awgrymiadau am eiddo amgen i’w defnyddio at ddibenion pleidleisio, o fewn yr un dosbarth etholiadol. Rhowch y cyfeiriad a’ch rhesymau dros eich awgrymiadau.

Cymerwch rhan yn ein harolwg

Gellir cwblhau ein harolwg ar-lein.

Mae'r arolwg hwn yn nawr ar gau

Gellir casglu copïau papur o'r arolwg a dychwelyd at:

Gwasanaethau Etholiadol, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw’r 15 Rhagfyr 2024.

Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?

Yn ystod yr adolygiad, bydd Swyddog Canlyniadau Gweithredol yn cyhoeddi ei argymhellion. Bydd y Cyngor yna’n ystyried argymhellion y Swyddogion Canlyniadau Gweithredol ynghyd ag unrhyw sylwadau eraill a wnaed.

Adborth

Dewch yn ôl ar gyfer y canlyniadau