Gwelliannau i osodiad ffordd Pwll y Grawys (Dinbych)
Rydym yn edrych i ail-ddylunio cyffordd Pwll y Grawys yn Ninbych. Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn edrych i ail-ddylunio cyffordd Pwll y Grawys yn Ninbych.
Mae Rhaglen Grantiau Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru’n ariannu datblygiad y prosiect hwn sy’n cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau cerdded a beicio yn yr ardal
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Mae ardal Pwyll y Grawys yn Ninbych Uchaf (tuag at ochr ddeheuol y dref) gyda chyffordd brysur a llawer o fysys lleol yn gwneud defnydd ohoni yn ogystal â chysylltu Stryd y Bont/Stryd Fawr gyda Stryd Henllan a Ffordd y Ffair
Mae nifer o bryderon diogelwch wedi cael eu codi gan breswylwyr lleol a Chynghorwyr ynghylch y safle dros y blynyddoedd, ac rydym bellach mewn sefyllfa i ddechrau deall y pryderon hyn mewn mwy o fanylder gyda’r bwriad o ail-ddylunio’r gyffordd o bosib yn y dyfodol
Yn ystod ein hymgysylltiad cyhoeddus diwethaf ym mis Ebrill 2024, fe wnaethom lunio rhestr o brif faterion, a gyda’r prif faterion yma mewn golwg, mae gennym ddau ddyluniad posibl i bawb eu gweld.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Hoffem eich gwahodd i i fynychu sesiwn gwybodaeth i’r cyhoedd i siarad â’r swyddogion Diogelwch Ffyrdd ac ymgynghorwyr rheoli traffig arbenigol, neu i gymryd rhan yn ein harolwg ymgynghori byr.
Pa wahaniaeth a fydd yn ei wneud?
Fe fydd eich barn yn ein helpu ni i fireinio ein dau ddyluniad ymhellach, a chreu cynllun gwella diogelwch ffordd sydd yn gweithio i bawb.
Sut ellwch chi gymryd rhan?
Rydym ni’n cynnal dau ymgysylltiad cyhoeddus yn Neuadd y Dref, Dinbych:
- Dydd Mawrth 19 Tachwedd, 12.30pm - 7pm
- Dydd Mercher 20 Tachwedd, 9.30am – 12.30pm
Beth os nad ydw i’n gallu dod?
Os na fedrwch chi ddod i un o’r sesiynau galw heibio, peidiwch â phoeni.
Mae modd gweld deunyddiau’r ymgynghoriad ar-lein neu yn Llyfrgell Dinbych rhwng dydd Gwener 22 Tachwedd a dydd Sul 15 Rhagfyr 2024.
Fe fydd arolwg ar-lein yn cael ei ychwanegu at y dudalen we hon o ddydd Gwener 22 Tachwedd 2024.
Sut fyddwn ni'n rhoi adborth?
Adborth