Cynghorau dinas, tref a chymuned

Mae gan Sir Ddinbych 37 cyngor dinas, tref a chymuned, sy’n cynrychioli cymunedau lleol. Mae’r cynghorau yn cynnwys aelodau etholedig, ac maent yn darparu nifer o wasanaethau, er enghraifft: 

  • arwyddion a hysbysfyrddau gwybodaeth cyhoeddus
  • seddau cyhoeddus
  • llochesi bws
  • cofebion rhyfel 
  • canolfannau cymunedol 

Dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer cynghorau dinas, tref a chymuned

Cynghorwyr dinas, tref a chymuned

Os ydych chi’n gynghorydd dinas, tref neu gymuned, ac yn chwilio am ddogfennau polisi, ewch i’r adran strategaethau, cynlluniau a pholisïau.

Siarter rhwng Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned Sir Ddinbych

Mae'r Siarter hon yn cynrychioli cytundeb cydfuddiannol rhwng dwy haen o lywodraeth leol. Mae’n amlinellu’r ffordd yr ydym ni’n bwriadu gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu a hyrwyddo anghenion a dyheadau lleol er budd cymunedau lleol, wrth gydnabod cyfrifoldebau’r naill a’r llall fel cyrff ymreolaethol statudol sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd.

Siarter rhwng Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned Sir Ddinbych