Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?

Beth yw Cyngor Sir Ddinbych?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn Gyngor Sir sy’n cwmpasu ardal Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fel awdurdod unedol, mae’n gyfrifol am ddarparu bron i bob swyddogaeth llywodraeth leol yn yr ardal.

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?

Y gwasanaethau allweddol sy'n cael eu darparu gan y Cyngor yw:

  • Tai Cyngor
  • Gwasanaethau Addysg
  • Cofrestru Etholiadol
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Cyfleusterau hamdden
  • Llyfrgelloedd
  • Cynllunio lleol
  • Trafnidiaeth leol
  • Parciau a mannau cyhoeddus
  • Rheoleiddio busnesau lleol
  • Cynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed
  • Gwasanaethau cymdeithasol
  • Gwastraff ac ailgylchu

Sut mae'r Cyngor yn cael ei redeg?

Mae'r gwaith o redeg y Cyngor o ddydd i ddydd a darparu ei wasanaethau yn cael ei wneud gan staff y Cyngor. Mae’r Cyngor yn cael ei rannu’n nifer o wahanol Wasanaethau, er enghraifftmae Gwastraff ac Ailgylchu a Phriffyrdd a Chynnal a Chadw yn ffurfio rhan o’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Mae pob gwasanaeth yn cael ei reoli gan Bennaeth Gwasanaeth sy’n gyfrifol am bob penderfyniad gweithredol o fewn eu gwasanaeth. Mae’r Penaethiaid Gwasanaeth yn adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredol a dau Gyfarwyddwr Corfforaethol, gyda’i gilydd mae’r rhain yn ffurfio’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

Mae 'aelodau etholedig' neu 'gynghorwyr' wedi cael eu hethol gan eu cymunedau i bennu a chraffu cyllideb y Cyngor, ei bolisïau a’i benderfyniadau strategol allweddol a chynrychioli buddiannau eu cymunedau. Disgwylir i Gynghorwyr fynychu cyfarfodydd y Cyngor llawn ac mae’n bosibl y cânt eu penodi i fod ar amryw o bwyllgorau eraill, er enghraifft, y Cabinet, Pwyllgorau Craffu neu’r Pwyllgor Cynllunio.

Byddwch yn gallu pleidleisio am eich Cynghorydd o leiaf unwaith bob pum mlynedd, pryd bynnag y caiff etholiad leol ei chynnal.