Boddhad Cwsmeriaid: Canlyniadau
Os ydych chi wedi cysylltu â'r cyngor yn ddiweddar ar y ffôn efallai y gofynnwyd i chi drwy neges destun i gymryd rhan mewn arolwg cwsmeriaid. Rydym wedi derbyn dros 2,000 o ymatebion ers Medi 2016 ac rydym yn darllen pob un er mwyn deall yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda ac nid mor dda.
Mae'r mathau o welliannau a wnaethom hyd yn hyn yn seiliedig ar eich adborth yn cynnwys:
- Cysylltu'n rhagweithiol â chwsmeriaid gyda chefnogaeth galwadau i helpu gyda cheisiadau mwy cymhleth
- Gwella sgiliau Staff Gwasanaeth Cwsmeriaid wrth ddelio â chyswllt ffôn
- Yn ychwanegu mwy o wasanaethau i'r wefan felly nid oes angen i gwsmeriaid ffonio
Dyma rywfaint o’r adborth yr ydym wedi’i dderbyn:
Adborth cadarnhaol
- “O’r dechrau i’r diwedd cefais wasanaeth gwych, cafodd fy ymholiad ei drin yn gyflym a doedd dim rhaid i mi aros yn hir i bobl gysylltu â mi!”
- “Gwnaethoch waith campus iawn yn canfod yr wybodaeth yr oedd arnaf ei hangen mewn dim o dro, ac nid oedd yn drafferth i'r gweithredwr nac i’r adran y bu i mi gael ei throsglwyddo iddi o fewn eiliadau.”
- “Mae pob ymholiad rydym ni wedi ei wneud yn ddiweddar wedi ei drin yn fwy effeithlon na'r disgwyl. Diolch yn fawr.”
- “Bu iddyn nhw ddod at y pwynt yn syth, a chafodd popeth ei egluro’n glir.”
- “Ffoniais ddoe. Dywedwyd wrthyf y byddai rhywun yn ateb o fewn munud, a dyna ddigwyddodd. Roedd y ddynes ar ben arall y ffôn yn barod iawn i helpu. Eglurodd pryd y bydd y gwasanaeth yn dechrau a derbyniodd y taliad yn rhwydd. Rydw i’n hapus iawn.”
- “Doedd gen i ddim signal ffôn a bu i’r ymgynghorydd fy ffonio’n ôl a gwneud pethau’n haws i mi."
- “Ffoniais y dderbynfa i ddweud na chafodd y bin gwyrdd ei wagio, roedd y ddynes ar ben arall y ffôn yn gyfeillgar iawn a chafodd y bin ei wagio o fewn yr awr. Diolch i bawb am helpu.”
- "Cefais ateb prydlon i fy ymholiad ynglŷn â symud dodrefn heddiw. Datryswyd y broblem yn ddi-ffwdan"
- "Roeddwn ar y ffôn am ychydig funudau yn unig, roedd y ddynes y siaradais â hi yn ddymunol a rhoddodd ateb i fy ymholiad yn gyflym."
- "Siaradais â gwraig gymwynasgar a chwrtais iawn ynglŷn â symud ysgol ac roedd yn help mawr a ffoniodd yn ôl mewn ychydig funudau"
Adborth negyddol
- "Ffoniais ynglŷn â llygoden fawr wedi marw ar y palmant bore ddoe ac ni chafodd ei symud tan ganol bore heddiw."
- "Twll yn y palmant ac yn dal i aros iddo gael ei drwsio bythefnos yn ddiweddarach – mae’n beryglus a gallai achosi codwm!"
- "Cymerodd bron i 10 munud i gael trwodd dros y ffôn ond ar ôl mynd trwodd siaradais a rywun a helpodd"