Cofrestru marwolaeth

Bydd yr Archwiliwr Meddygol (gwefan allanol) yn cyflwyno Tystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth (MCCD) i’r Cofrestrydd.

Mae’r Archwiliwr Meddygol yn craffu’n annibynnol ar holl farwolaethau na chânt eu hymchwilio gan y crwner. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn sicrhau bod achos marwolaeth cywir yn cael ei gofnodi, yn nodi unrhyw bryderon o ran y farwolaeth ei hun a ellir yna ei ymchwilio ymhellach gan y darparwr gofal neu’r Crwner os oes angen, a chymryd safbwyntiau’r galarwyr i ystyriaeth. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn cysylltu gyda’r perthynas agosaf cyn cyflwyno’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth i’r Cofrestrydd.

Os fydd y farwolaeth wedi digwydd yn Sir Ddinbch a’r Archwilydd Meddygol wedi cyflwyno’r MCCD, bydd y Swyddfa Gofrestru yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.

Pwy all gofrestru marwolaeth

Gweler isod y rhestr o unigolion a all gofrestru marwolaeth:

  • Perthynas neu bartner
  • Rhywun a oedd yn bresennol yn ystod y farwolaeth
  • Meddiannydd sefydliad cymunedol
  • Yr unigolyn sy’n trefnu’r angladd os nad oes perthnasau ar gael

I baratoi ar gyfer yr apwyntiad cofrestru marwolaeth, sicrhewch eich bod yn gwybod y wybodaeth a restrir isod. Efallai y bydd yn ddefnyddiol ysgrifennu hyn i lawr ymlaen llaw, neu gael dogfennau megis pasbort, tystysgrif geni a thystysgrif priodi (os yw’n gymwys) wrth law.

Manylion yr ymadawedig:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Enw cyntaf, enwau canol (os yw’n gymwys) a chyfenw
  • Unrhyw enwau eraill yr oedd yr ymadawedig yn cael eu galw neu enwau blaenorol
  • Enw cyn priodi (os yw’n gymwys)
  • Dyddiad a lleoliad geni
  • Swydd ac a oeddent wedi ymddeol
  • Cyfeiriad

Dywedwch Wrthym Unwaith

Pan rydych chi’n cofrestru marwolaeth yn un o’n Swyddfeydd Cofrestru gallwn ddarparu gwasanaeth o’r enw ‘dywedwch wrthym unwaith’ i roi gwybod i adrannau eraill y cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM a’r DVLA ynglŷn â’r farwolaeth ar eich rhan.

Bydd arnoch chi angen y dogfennau / yr wybodaeth ganlynol ynglŷn â’r ymadawedig:

  • Eu rhif yswiriant gwladol a’u dyddiad geni
  • Manylion unrhyw fudd-dal neu wasanaeth yr oedd yr ymadawedig yn ei dderbyn
  • Tystysgrif marwolaeth
  • Eu trwydded yrru neu rif eu trwydded yrru
  • Eu pasport neu rif eu pasport a’u tref/gwlad enedigol
  • Eu bathodyn parcio glas
  • Eu pas bws

Efallai y bydd arnom ni hefyd angen y manylion canlynol:

  • Manylion eu perthynas agosaf
  • Manylion gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • Manylion y person sy’n delio gyda’u stad

Mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth 'dywedwch wrthym unwaith' (gwefan allanol)

Ffioedd a thystysgrifau

Bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad yn y Swyddfa Gofrestru a dod â thystysgrif marwolaeth feddygol (gan ddoctor a oedd yn trin yr unigolyn a fu farw) efo chi os ydych chi wedi derbyn un. Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu’r wybodaeth ganlynol am yr unigolyn a fu farw. Cost Tystysgrif Marwolaeth yw £12.50.

Gwybodaeth am dderbyn copi o dystysgrif.