Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

Teuluoedd yn Gyntaf: Grŵp FRIENDS Resilience Gwasanaeth Pobl Ifanc

Mae’r Grŵp FRIENDS Resilience - Gwasanaeth Pobl Ifanc yn gwrs i helpu i ddysgu sgiliau gwytnwch.

Gall dysgu sgiliau gwytnwch helpu i wneud penderfyniadau lle cymeradwyir a lle gwrthodir.  Mae’r sgiliau gwytnwch yn eich helpu chi i ddysgu ymlacio, troi meddyliau annefnyddiol yn feddyliau defnyddiol.

Grŵp o bobl ifanc yn ymuno â dwylo

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau? 

Grŵp FRIENDS Resilience - dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr sy’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf a sydd â phlant rhwng 12 a 15 oed mae’r Gwasanaeth Pobl Ifanc.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth hon yn fuan.

Gwybodaeth am y lleoliad

Dyma gyfeiriad Canolfan Westbourne:

Wood Road
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1DZ

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan Westbourne.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae yna gyfleusterau toiledau i bobl anabl, ac mae’r ystafell lle bydd y cwrs ar y llawr gwaelod.

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac mae’n rhaid archebu lle i fod yn bresennol yn y grŵp.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n mynd i bob un o’r sesiynau i fanteisio i’r eithaf ar y grŵp.

Sut i gadw lle

Os ydych chi’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf ac yn awyddus i archebu lle, siaradwch â’ch Gweithiwr Teuluoedd yn Gyntaf.