Teuluoedd yn Gyntaf: Grŵp FRIENDS Resilience
Mae’r Grŵp FRIENDS Resilience yn gwrs i helpu i ddysgu sgiliau gwytnwch.
Mae dysgu sgiliau gwytnwch fel ychwanegu offer newydd i flwch offer. Mae sgiliau gwytnwch yn eich helpu i ddysgu i fod yn gryf, dewr a charedig.
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae cwrs Grŵp FRIENDS Resilience dim ond ar gyfer rhieni / gofalwyr sy’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf ac sydd â phlant rhwng 8 a 9 oed.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Mae hwn yn gwrs 10 wythnos, ac mae’r sesiynau’n cael eu cynnal o 4pm tan 5:15pm yng Nghanolfan Westbourne, y Rhyl, ar:
- Dydd Iau 7 Tachwedd 2024
- Dydd Iau 14 Tachwedd 2024
- Dydd Iau 21 Tachwedd 2024
- Dydd Iau 28 Tachwedd 2024
- Dydd Iau 5 Rhagfyr 2024
- Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024
- Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024
- Dydd Iau 9 Ionawr 2025
- Dydd Iau 16 Ionawr 2025
- Dydd Iau 23 Ionawr 2025
Gwybodaeth am y lleoliad
Dyma gyfeiriad Canolfan Westbourne:
Wood Road
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1DZ
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan Westbourne.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae yna gyfleusterau toiledau i bobl anabl, ac mae’r ystafell lle bydd y cwrs ar y llawr gwaelod.
Sut i gymryd rhan
Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac mae’n rhaid archebu lle i fod yn bresennol yn y grŵp.
Rydym ni’n argymell eich bod chi’n mynd i bob un o’r sesiynau i fanteisio i’r eithaf ar y grŵp.
Sut i gadw lle
Os ydych chi’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf ac yn awyddus i archebu lle, siaradwch â’ch Gweithiwr Teuluoedd yn Gyntaf.