Tachwedd 2024
1 Tachwedd: Gwyliau Hanner Tymor
Dim sesiwn yr wythnos yma.
8 Tachwedd: Bwyta gofalgar
Bydd cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar amrywiaeth o fwydydd blasus a maethlon i ddatblygu arferion bwyta iach. Byddwn yn defnyddio ein synhwyrau ac yn arbrofi gydag eitemau newydd, a bydd cyfle i chi ddod â’ch hoff fwyd i’w rannu gydag eraill.
Gwaith cartref: tynnwch lun o’r ymennydd, gan ychwanegu gwybodaeth bersonol, symbolau neu liwiau sy’n ein cynrychioli ni. (Peidiwch â nodi eich enw ar y llun!)
15 Tachwedd: ‘Dyfalu Pwy!’
Bydd y bobl ifanc yn dod â’u lluniau ymennydd i’r sesiwn ac yn eu rhoi ar y bwrdd i’w rhannu â gweddill y grŵp. Byddwn yn edrych ar luniau ein gilydd ac yn dyfalu pwy mae’r lluniau’n eu cynrychioli. Yna, byddwn yn trafod pam ein bod yn tybio pa lun sy’n cynrychioli pob unigolyn ac yn trafod y ddelweddaeth a ddefnyddiwyd i ffurfio ein lluniau.
22 Tachwedd: Symudiadau ac anadlu ystyriol
Bydd pobl ifanc yn dysgu am dechnegau anadlu a sut gallwn reoli ein hunain mewn sefyllfaoedd emosiynol. Byddwn yn rheoli ein corff ac yn dysgu sut i gadw’n heini drwy’r symudiadau syml hyn.
29 Tachwedd: Sesiwn ymgynghori grŵp
Bydd pobl ifanc a’r tîm LHDT+ yn gweithio gyda’i gilydd i ddewis gweithgareddau ar gyfer y tymor nesaf ac yn nodi’r adnoddau angenrheidiol. Byddwn yn trefnu sioe dalent. Byddwn yn dewis ffilm i’w gwylio ar noson ffilmiau ac yn dewis danteithion (mae’n rhaid i’r ffilm fod yn addas ar gyfer pobl dan 16 oed).