Tocynnau rhodd
Ydych chi'n chwilio am anrheg ddifyr ac anarferol? Beth am anfon eich teulu a ffrindiau i’r Carchar?! Mae tocynnau rhodd ar gael i’w prynu yng Ngharchar Rhuthun ar gyfer pob categori. Gellir prynu tocynnau o siop y Carchar pan fydd ar agor neu trwy gysylltu â’r tîm dros e-bost pan fydd y Carchar ar gau.
Mae pob tocyn yn ddilys am y tymor cyfan a ddangosir arno. Ni ellir cyfnewid tocynnau am eu gwerth ariannol na’u defnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall. Mae’r tocynnau’n ddilys ar gyfer yr hyn a nodir arnynt yn unig, ni ellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw bryniant arall, a byddwn yn eu cadw ar ôl i chi eu defnyddio.
Carchar Rhuthun yw’r ennillwyr o’r wobr Trysor Cudd Visit Wales 2023.
Amseroedd agor
Mae Carchar Rhuthun ar gau ar gyfer ymweliadau dyddiol gan y cyhoedd ar gyfer tymor yr hydref/gaeaf, ond mae’n parhau i fod ar agor ar gyfer:
- ymweliadau grŵp
- teithiau ysgol
- archwiliadau paranormal
- llogi ystafell
- ffilmio ar gyfer teledu, ffilm a’r cyfryngau
- a digwyddiadau amrywiol sydd ar y gweill
Ar gyfer ymholiadau ac archebu lle, cysylltwch â ni.
Byddwn yn cyhoeddi ein dyddiad agor ar gyfer tymor 2025 cyn gynted ag y caiff ei gadarnhau; yn y cyfamser dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau.
Rhestr prisiau
Os ydych yn talu’r pris llawn i fynd i Garchar Rhuthun neu Nantclwyd y Dre, cewch 20% oddi ar bris mynediad i’r safle arall wrth ddangos eich derbynneb. Mae hyn yn ddilys am y tymor cyfan.
- Oedolyn: £9.00
- Plant 5 i 16 oed: £7.00
- Plentyn dan 5 oed: am ddim
- Tocyn teulu - 2 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £25.00
- Tocyn teulu - 1 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £16.00
- Pris grŵp - o leiaf 15 o bobl: £7.50 y pen (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
- Grŵp ysgol: £5.00 y plentyn (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
- 1 gofalwr yn dod gydag ymwelydd anabl: am ddim
Cysylltu â ni
Stryd Clwyd
Rhuthun
LL15 1HP
Ar gyfer pob ymholiad, ffoniwch 01824 708281 neu anfonwch e-bost at gaol.reception@denbighshire.gov.uk.
Cyfryngau cymdeithasol
Manylion am Garchar Rhuthun
Carchar Rhuthun ydi un o’r adeiladau mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru a’r unig garchar yn null Pentonville a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd ar agor i’r cyhoedd fel atyniad treftadaeth. Ers yr ail-agoriad ym mis Mai 2002, ar ôl gwaith adfer gwerth dwy filiwn o bunnoedd, gall pobl sbïo i mewn i bob twll a chornel a dysgu am fywyd tu mewn i system carchardai oes Fictoria. Dewch i weld sut roedd y carcharorion yn byw o ddydd i ddydd: beth gawsant i fwyta, pa waith a wnaethant a pha gosbau a ddioddefwyd ganddynt. Archwiliwch y celloedd yn cynnwys y gell gosbi, y gell'dywyll' a'r gell gondemniad. Dysgwch am 'Houdini' Cymru, a William Hughes, y person olaf i'w grogi yno.
Mae croeso i gŵn ar y safle hwn.
Rydym ni wedi cofrestru i gefnogi Maniffesto Kids in Museums sy’n golygu bod ein safle yn croesawu plant.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.