Tocynnau rhodd
Yn chwilio am brofiad hwylus ac unigryw i’ch anwyliaid? Rhowch yr anrheg o fynediad i dŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre lle gallant gamu yn ôl mewn amser, ymgartrefu yn y tŷ tref â fframiau pren bob sut hwn, a’i brofi’n union fel yr oedd y teuluoedd a oedd yn byw yma’n ei wneud!
Mae talebau ar gael ar gyfer tocynnau o bob categori, a gallwch eu prynu o’r dderbynfa pan mae hi ar agor neu trwy gysylltu â’r tîm dros e-bost pan fydd ar gau.
Mae pob tocyn yn ddilys am y tymor cyfan a ddangosir arno. Ni ellir cyfnewid tocynnau am eu gwerth ariannol na’u defnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall. Mae’r tocynnau’n ddilys ar gyfer yr hyn a nodir arnynt yn unig, ni ellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw bryniant arall, a byddwn yn eu cadw ar ôl i chi eu defnyddio.
Beth am deithio mewn amser wrth gamu trwy saith oes Nantclwyd y Dre ac ymlacio yn hyfrydwch tawel Gardd yr Arglwydd?
Nantclwyd y Dre yw’r ennillwyr o’r wobr Trysor Cudd Visit Wales 2017, 2018 a 2023.
Amseroedd agor
Mae Nantclwyd y Dre ar gau ar gyfer ymweliadau dyddiol gan y cyhoedd ar gyfer tymor yr hydref/gaeaf, ond mae’n parhau i fod ar agor ar gyfer:
- ymweliadau grŵp
- teithiau ysgol
- archwiliadau paranormal
- llogi ystafell
- ffilmio ar gyfer teledu, ffilm a’r cyfryngau
- a digwyddiadau amrywiol sy’n cynnwys ein dathliadau ‘Nadolig drwy’r Oesoedd’ dros benwythnosau 7/8 ac 14/15 Rhagfyr 2024, gan roi cyfle i ymwelwyr brofi dros 500 mlynedd o’r Nadolig dan un to!
Ar gyfer ymholiadau ac archebu lle, cysylltwch â ni.
Byddwn yn cyhoeddi ein dyddiad agor ar gyfer tymor 2025 cyn gynted ag y caiff ei gadarnhau; yn y cyfamser dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau.
Prisiau
Os ydych yn talu’r pris llawn i fynd i Garchar Rhuthun neu Nantclwyd y Dre, cewch 20% oddi ar bris mynediad i’r safle arall wrth ddangos eich derbynneb. Mae hyn yn ddilys am y tymor cyfan.
- Oedolyn: £9.00
- Plant 5 i 16 oed: £7.00
- Plentyn dan 5 oed: am ddim
- Tocyn teulu - 2 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £25.00
- Tocyn teulu - 1 oedolyn a hyd at 3 plentyn: £16.00
- Pris grŵp - o leiaf 15 o bobl: £7.50 y pen (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
- Grŵp ysgol: £5.00 y plentyn (£50 ychwanegol yn ystod y tymor y bydd ar gau)
- 1 gofalwr yn dod gydag ymwelydd anabl: am ddim
Ymweld â’n gerddi
Mae tocynnau gardd yn unig ar gael am:
- Oedolyn: £4.00
- Plant 5 i 16 oed: £3.00
- Plentyn dan 5 oed: am ddim
Neu beth am brynu tocyn gardd?
Tocyn Gardd
Tocyn Gardd
Mae'r tocyn yn cynnwys:
- mynediad am ddim i erddi Nantclwyd y Dre yn ystod oriau agor 2024
- ffordd hawdd a chyfleus i gyrraedd y gerddi trwy gydol y tymor, gan gynnwys ein sesiynau gweithgaredd a chrefft gardd wythnosol
- hefyd yn cynnwys 20% oddi ar bris mynediad i dy Nantclwyd y Dre unrhyw adeg yn ystod yr oriau agor
Prisiau
- Teulu (4 person o leiaf 1 plentyn): £15
- Oedolyn: £10
Telerau ac amodau
- Mae Tocyn Gardd yn caniatáu mynediad am ddim ir ardd yn ystod oriau agor arferol (nid yw'n cynnwys digwyddiadau lle mae'n rhaid talu)
- Mae'r tocyn yn ddilys tan 30 Medi 2024
- Dim ond deiliad y tocyn all ddefnyddio'r tocyn ac ni ellir ei drosglwyddo i unrhyw ddefnyddiwr arall
- Bydd y tocyn yn caelei dynnu'n ôl os bydd yn cael ei gamddefnyddio
- Gellir cael tocyn newydd yn lle un sydd wedi ei golli neu ei ddifrodi (tâl o £1)
Er mwyn prynu Tocyn Gardd galwch heibio Nantclwyd Y Dre yn ystod oriau agor a byddwn n cyhoeddi eich tocyn, yn barod i'w ddefnyddio ar unwaith.
Manylion am Nantclwyd y Dre
Mae Nantclwyd y Dre yn cynnig cyfle unigryw i archwilio mwy na 500 mlynedd o hanes, o’r cyfnod canoloesol i’r 20fed ganrif. Camwch drwy saith oes y tŷ rhestredig Gradd I hwn sydd wedi’i adnewyddu’n hyfryd, wrth iddo ddatgelu bywydau ei breswylwyr. Dechreuwch eich taith ym 1435 a dysgu am sut wnaeth yr adeilad ehangu o fod yn dŷ gwehydd i fod yn dŷ tref cyfreithiwr o’r 17eg ganrif ac ysgol Fictoraidd i ferched ifanc.
Mae Gardd yr Arglwydd yn le hyfryd o dawel yng nghanol Rhuthun. Dewch â phicnic neu ewch am dro trwy wyrddni hardd, lliwiau llachar gyda golygfeydd o Fryniau Clwyd a Chastell Rhuthun yn gefndir.
Gall ymwelwyr ifanc fod yn “Archwilwyr Ifanc” gyda’n llwybrau a bagiau benthyg wedi’u dylunio’n arbennig i’w helpu i ddysgu mwy am hanes a natur Nantclwyd y Dre.
Mae ein camera ystlumod yn gyfle gwych i weld ein clwyd arbennig o ystlumod pedol lleiaf, ystlumod hirglust ac ystlumod lleiaf.
Os ydych chi’n chwilio am anrheg unigryw, mae ein siop yn llawn cynnyrch gan gynhyrchwyr lleol, gan gynnwys dewis o jamiau a siytni wedi’u gwneud gyda ffrwythau a gafodd eu cynaeafu o Ardd yr Arglwydd.
Mae Nantclwyd y Dre yn lleoliad unigryw a phersonol ar gyfer priodas, partneriaeth sifil neu i adnewyddu addunedau.
Mae croeso i gŵn ar y safle hwn.
Rydym ni wedi cofrestru i gefnogi Maniffesto Kids in Museums sy’n golygu bod ein safle yn croesawu plant.
Parcio
Dyma'r meysydd parcio agosaf:
Cysylltu â ni
Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 1DP
Ebost: treftadaeth@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 709822
Cyfryngau cymdeithasol
Llogi man cyfarfod hwn
Yn Nantclwyd y Dre mae gennym nifer o ystafelloedd ar gael i’w llogi sy’n darparu lleoliad unigryw ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau a gweithdai a chefndir hyfryd ar gyfer priodasau a seremonïau sifil (darllenwch fwy am briodi yn Nantclwyd y Dre). Yn anffodus, ni allwn ddarparu gwasanaeth arlwyo, ond mae’n bosibl defnyddio’r gegin a’r oergell.
Mae’r prisiau’n dechrau o £10 yr awr ac mae gennym fannau dan do sy’n gallu darparu ar gyfer hyd at 60 o bobl, a mwy ar gyfer digwyddiadau awyr agored. Cysylltwch â ni ar
treftadaeth@sirddinbych.gov.uk i drafod eich gofynion.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.