Harbwr y Rhyl: Ein gwasanaethau
Cyfleusterau Iard Gychod
![Harbwr y Rhyl: Cyfleusterau iard gychod](/cy/delweddau/hamdden-a-thwristiaeth/harbwr-y-rhyl/ein-gwasanaethau/harbwr-y-rhyl-cyfleusterau-iard-gychod.jpg)
Mae Harbwr Y Rhyl yn cynnig cyfleusterau codi allan a storio ar gyfer cychod hwylio a chychod pŵer gan ddefnyddio ein hoffer codi symudol ymsuddol. Ceir mynediad at ein iard ddiogel gysgodol drwy giât electronig sy'n defnyddio system ffob sy'n cael ei monitro. Mae ynni glannau a dŵr ffres ar gael drwy'r iard.
Parc Cychod
Parcio a lansio
![Harbwr y Rhyl: Parcio a Lansio](/cy/delweddau/hamdden-a-thwristiaeth/harbwr-y-rhyl/ein-gwasanaethau/harbwr-y-rhyl-parcio-a-lansio.jpg)
Mae'n pecyn Parcio a Lansio yn cynnig storio cychod ar drelars am 12 mis, gyda gwasanaeth lansio ac adfer diderfyn gan ein tractor. Yn ystod yr haf rydym yn gweithredu rhwng 08:00 - 20:00 (yn ddibynnol ar y llanw) ac mae mynediad ar gael 2.5 awr bob ochr i'r llanw uchel.
Parcio a Lansio.
Angorfeydd
![Harbwr y Rhyl: Angorfeydd](/cy/delweddau/hamdden-a-thwristiaeth/harbwr-y-rhyl/ein-gwasanaethau/harbwr-y-rhyl-angorfeydd.jpg)
Mae'n angorfeydd blaen a chefn ar gael syn 8 metr, 10 metr neu 12 metr - ac mae ychydig o ddocfeydd pontŵn hefyd ar gael. Sylwch os gwelwch yn dda mai Harbwr sy'n sychu yw Harbwr Y Rhyl, ac mae'r holl ddocfeydd ac angorfeydd yn sychu ar lanw isel.
Ffioedd angori
Cysylltu â ni
Swyddfa'r Harbwr
Lôn Trwyn Horton
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 5AX
Ffôn: 01824 708400
E-bost: rhyl.harbour@denbighshire.gov.uk