Sialens Ddarllen yr Haf

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn 'Crefftwyr Campus' sef Sialens Ddarllen yr Haf eleni, gyda gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn cychwyn o 6 Gorffennaf 2024 tan ddiwedd Medi.

Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Yr haf hwn, gall plant ymweld ag unrhyw Lyfrgell yn Sir Ddinbych i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf ‘Crefftwyr Campus’ gan danio eu dychymyg trwy rym darllen a mynegiant creadigol.

Mewn partneriaeth â Create, elusen gelfyddydol flaenllaw, a llyfrgelloedd cyhoeddus, mae'r Sialens eleni yn dathlu creadigrwydd plant a'u gallu i adrodd straeon. Bydd plant yn cael eu hannog i ddarganfod llyfrau a straeon newydd wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim, o gelf a chrefft i gerddoriaeth, dawns, a mwy.

Darlunnir gwaith celf bwrpasol y Sialens gan yr artist enwog Natelle Quek, gan ddod â thema 'Crefftwyr Campus' yn fyw. Trwy ddarllen llyfrau a chasglu cymhellion gall darllenwyr ifanc feithrin eu sgiliau meddwl creadigol dros wyliau'r haf, am fwy o fanylion gweler sianeli cyfryngau cymdeithasol Llyfrgelloedd Sir Ddinbych.