Dementia: beth mae'r Cyngor yn ei wneud
Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia
Cymerodd Cyngor Sir Ddinbych ran yng Nghynllun Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia gan y Gymdeithas Alzheimer a chefnogodd ddatblygiad nifer o Gymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia ar draws y sir. Daeth y Gymdeithas Alzheimer ȃ’r cynllun hwn i ben ym mis Rhagfyr 2023.
Mewn ymateb i hyn, bu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’n gweithio’n agos ȃ Chynghorau Gwirfoddol Sirol, Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill i ddatblygu a sefydlu Cynllun Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Ddementia Gogledd Cymru (gwefan allanol) a lansiwyd ym mis Ionawr 2024.
Mae Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia yn cefnogi pobl sy’n byw ȃ dementia, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr trwy godi ymwybyddiaeth yn gyffredinol er mwyn cynyddu dealltwriaeth a galluogi unrhyw un sy’n byw ȃ dementia i barhau i fod yn rhan weithgar o’u cymuned leol. Mae Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia yn Sir Ddinbych wedi dod yn aelodau o Gynllun newydd Gogledd Cymru.
Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych: Cynllun Gweithredu Cryno
Mae Cynllun Gweithredu Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych yn nodi'r hyn y mae angen ei wneud a chan bwy, i wneud tyfu'n hŷn yn Sir Ddinbych gystal ag y gall fod.
Gwybodaeth ar gyfer staff Cyngor Sir Ddinbych
Cofiwch ddiweddaru eich cofnod iTrent pryd bynnag y byddwch yn cwblhau hyfforddiant – cyfrifoldeb y gweithiwr yw hyn ac mae'n sicrhau bod ein cofnodion yn gywir.
Canllaw hunanwasanaeth i weithwyr (ESS) (PDF, 941KB)
Mae sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ar gael o amrywiaeth o ffynonellau.