Lleoliadau sy’n deall dementia
Cymunedau a rhwydweithiau sy'n deall dementia
Rhwydwaith Cymunedol Ymwybyddiaeth Dementia Sir Ddinbych
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (gwefan allanol) cydlynu cymunedau sy’n deall dementia drwy eu Rhwydwaith Cymunedol Ymwybyddiaeth Dementia Sir Ddinbych. Nod y Rhwydwaith hwn yw mynd ati'n rhagweithiol i arwain a hwyluso mentrau i wella ymwybyddiaeth o Ddementia yn Sir Ddinbych.
Mae'r rhwydwaith yn agored i bob:
- unigolyn
- sefydliad
- grŵp gwirfoddol a chymunedol
- busnes sy'n gweithredu yn Sir Ddinbych
- pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd a gofalwyr
ochr yn ochr â:
- chynrychiolwyr sefydliadau Trydydd Sector a mentrau cymdeithasol
- Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned
- Cyngor Sir Ddinbych
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
sydd â diddordeb mewn adeiladu mudiad ar gyfer newid.
Os ydych am ymuno â'r Rhwydwaith neu wneud awgrym ar gyfer agenda'r cyfarfod nesaf, anfonwch e-bost at: engagement@dvsc.co.uk neu ffoniwch 01824 702 441.
Cysylltiadau gyda chymunedau a rhwydweithiau eraill
Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru
Crëwyd Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru i alluogi cymunedau, sefydliadau, busnesau a grwpiau i rannu gwybodaeth, enghreifftiau o arfer da, ymchwil, a manylion gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol ledled Gogledd Cymru.
Ewch i dudalen Facebook Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru (gwefan allanol).
Cymuned sy'n deall dementia Dinbych
Ewch i dudalen Facebook Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Dinbych (gwefan allanol).
Cymuned sy'n deall dementia Llanelwy
Ewch i dudalen Facebook Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Esgobaeth Llanelwy (gwefan allanol).
Cymuned sy'n deall dementia Prestatyn
Ewch i dudalen Facebook Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Prestatyn (gwefan allanol).
Cymuned sy'n deall dementia Rhuddlan
Ewch i dudalen Facebook Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Rhuddlan (gwefan allanol).
Llyfrgelloedd Sir Ddinbych
Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych:
- mae’r holl staff wedi'u hyfforddi fel ffrindiau dementia
- cerdyn llyfrgell gofalwr sy’n gadael i chi gadw llyfr am chwe wythnos yn lle tair wythnos
- gwasanaeth llyfrgell cartref – cofrestrwch drwy ffonio 01824 705274 neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt
- casgliadau gan ofalwyr a llyfrau darllen da – gweler gwefan Reading Well (gwefan allanol)
- e-lyfrau ac e-gylchgronau ar gael
- grwpiau darllen dementia ar gyfer gofalwyr a’r rhai sy'n derbyn gofal, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr NEWCIS.
Hamdden Sir Ddinbych
Celfyddydau cymunedol (gwefan allanol) - yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.
Theatrau a sinemâu
Cynllun deiliaid cardiau hynt
Mae hynt yn gynllun cenedlaethol sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru i wneud pethau'n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio taith i'r theatr.
Os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, neu os ydych yn gofalu am rywun sydd â chyflwr fel hyn, yna mae Hynt yn berthnasol i chi. Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i docyn rhad ac am ddim i gymhorthydd personol neu ofalwr ym mhob un o'r theatrau a'r canolfannau celfyddydol sy'n cymryd rhan yn y cynllun.
Ewch i wefan hynt (gwefan allanol) i gael rhagor o wybodaeth.