Clefyd coed ynn

Dysgwch am glefyd coed ynn, gan gynnwys beth yw’r clefyd, sut mae’n effeithio ar goed yn Sir Ddinbych, beth sy’n cael ei wneud i ddelio ag ef a gan bwy.

Onnen aeddfed sy’n dangos arwyddion o wywo o fewn y goron (ardal o ddail coll a changhennau moel).

Beth ydi clefyd coed ynn?

Beth ydi clefyd coed ynn?

Mae clefyd coed ynn yn glefyd sy’n lladd hyd at 90% o un o’n coed mwyaf cyffredin, sef ynn (fraxinus excelsior). Mae’n cael ei achos gan ffyngau, hymenoscyohus fraxineus (enwir yn flaenorol fel ‘chalara’), sy’n deillio o Ddwyrain Asia lle mae’n cydfodoli gyda rhywogaethau coed ynn cynhenid.

Cyflwynwyd i’r DU yn 2012 gan blanhigyn â’r haint wedi’i fewnforio ac yna wedi lledaenu yn gyflym drwy symudiad sborau yn yr aer.

Nid oes unrhyw ffordd hysbys o atal iddo ledaenu na’i wella.

Beth yw’r symptomau?

Beth yw’r symptomau?

TPrif symptom clefyd coed ynn yw yn y corun (top y goeden), gan gynnwys colli dail, dail yn marw, brigau a changhennau’n marw. Mae coed sydd wedi’u heintio â’r clefyd yn gallu cael eu canfod yn haws yn yr haf pan mae dail ar y coed a phan ddylent gael corun iach.

Ar goed iau gellir gweld briwiau tywyll (siâp diemwnt) ar gyffyrdd canghennau ac ar waelod y boncyff. Wrth i’r haint ddatblygu mae’n lladd y rhisgl a’r boncyff gan arwain at farwolaeth y goeden.

Unwaith cânt eu heffeithio gan glefyd coed ynn, gall y coed fod yn fwy diamddiffyn i sgil-haint, er enghraifft ffwng melog. Gall hyn gyflymu eu dirywiad.

Yn y pen draw, wrth i goed ynn sydd â’r haint ddiryw a marw, gallent ddisgyn neu golli canghennau mawr.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau gan y Comisiwn Coedwigaeth:

Y Comisiwn Coedwigaeth: clefyd coed ynn (gwefan allanol)

Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r coed hyn?

Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r coed hyn?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am goed ar ei dir ac â dyletswydd gyfreithiol i gynnal a chadw’r priffyrdd a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Fodd bynnag, mae nifer o goed ger priffyrdd dan berchnogaeth breifat.

Mae gan berchnogion tir ddyletswydd gofal cyfreithiol o dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr (1957 a 1984) a’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974) a gallent fod yn atebol am unrhyw niwed neu ddifrod a achosir gan y coed dan eu perchnogaeth. Felly, cynghorir perchnogion tir i gomisiynu archwiliadau rheolaidd o’u coed er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr diogel.

Lle bod angen, o dan Adran 154(2) Deddf Priffyrdd 1980 mae gan y cyngor rym i roi hysbysiad i dirfeddiannwr yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud coeden beryglus yn ddiogel.

A yw’r coed wedi’u diogelu?

A yw’r coed wedi’u diogelu?

Cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar goed rhaid i chi wirio os ydynt wedi’u diogelu dan gyfraith ac os oes angen caniatâd gan yr awdurdod perthnasol. Os fydd coed ynn dan Orchmynion Diogelu Coed neu o fewn Ardal Gadwraeth, bydd angen cyflwyno cais ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Os ystyrir fod coeden mewn cyflwr peryglus, gall fod wedi’i eithrio o’r weithdrefn hon, fodd bynnag cynghorir unrhyw un sy’n cynnig cyflawni gwaith ar goeden ynn ar y sail hon, anfon e-bost at trees@denbighshire.gov.uk. Darganfyddwch fwy am goed dan Orchmynion Diogelu Coed ac Ardaloedd Cadwraeth:

Gorchmynion Cadw Coed

Efalla bydd angen Trwydded Torri Coed (Deddf Coedwigaeth 1967) os ydych yn cynnig torri nifer o goed i lawr. Yn ogystal â hynny, os yw’r coed o fewn ardal warchodedig, er enghraifft Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, byddwch angen caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gael caniatâd i dorri coed ar wefan CNC:

Cyfoeth Naturiol Cymru: cael caniatâd i dorri coed (gwefan allanol)

A oes rhywogaethau a warchodir yn bresennol?

A oes rhywogaethau a warchodir yn bresennol?

Gall goed gefnogi rhywogaethau a warchodir o dan gyfraith, megis adar sy’n nythu ac ystlumod. Os yw’r rhain yn bresennol, dylech geisio cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu Ecolegydd. Efallai bydd angen trwydded cyn dechrau ar unrhyw waith coed.

Cyfoeth Naturiol Cymru: cael caniatâd i dorri coed (gwefan allanol)

Gwaith ar goed gerllaw'r briffordd

Gwaith ar goed gerllaw'r briffordd

Mae clefyd coed ynn achosi i bren fynd yn frau, sy’n gwneud y broses o dorri coed i lawr neu dorri coed yn anrhagweladwy ac yn fwy peryglus. Oherwydd hyn, mae’n hynod o bwysig cael camau diogelu iawn mewn lle ac i’r gwaith gael ei gyflawni gan weithredwyr profiadol a chymwys.

Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a’r rhai sy’n cyflawni’r gwaith, dylai unrhyw waith coed ger priffyrdd gael y mesurau rheoli traffig angenrheidiol mewn lle. Rhaid i’r rhai sy’n cyflawni’r gwaith gysylltu â thîm Gwasanaethau Stryd Sir Ddinbych ar y cam cynllunio trwy anfon e-bost at: streetworks@denbighshire.gov.uk.

Beth yw ymateb Cyngor Sir Ddinbych?

Beth yw ymateb Cyngor Sir Ddinbych?

Mae tîm coed Cyngor Sir Ddinbych yn arolygu coed ynn sydd ar dir y cyngor ac yn monitro’r rhai ger priffyrdd neu ardaloedd eraill o bryder. Pan gaiff coed y Cyngor eu torri, gwneir pob ymdrech i gadw’r pren marw, sy’n gynefin pwysig ar gyfer nifer o rywogaethau, neu i ddefnyddio’r pren.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn plannu coed ar draws y sir fel rhan o’r prosiect Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ac wedi creu planhigfa ar gyfer tyfu coed o darddiad lleol, a fydd yn gwella bioamrywiaeth ar gyfer cynlluniau plannu coed i’r dyfodol.

Pan fydd coed mewn eiddo preifat yn cael eu torri, bydd y Tîm Coed yn annog plannu coed newydd yn eu lle.