Mae coed yn bwysig am sawl rheswm yn cynnwys:
- Bioamrywiaeth
- tirwedd
- treftadaeth ddiwylliannol
- lleihau carbon
- cynhyrchu ocsigen
- atal llifogydd
- helpu i oeri ardaloedd adeiledig
Rydym yn cydnabod gwerth coed ac yn aml yn cyfeirio atynt fel asedau byw.
Bioamrywiaeth
Mae coed yn rhan o fioamrywiaeth a gallant ddarparu cartref i bob math o rywogaethau. Cyn gwneud gwaith ar goed, rydym yn sicrhau na fydd yn achosi unrhyw aflonyddwch neu unrhyw effaith negyddol arall ar fioamrywiaeth.
Darganfod mwy am fioamrywiaeth yn Sir Ddinbych
Cynnal a chadw coed
Dim ond os oes prawf bod problem amlwg i iechyd a diogelwch neu ddifrod i eiddo y byddwn yn tocio neu dorri coeden. Gwneir penderfyniadau er budd hirdymor y cyhoedd a’r goeden (coed).
Bydd yr holl goed sy’n eiddo’r Cyngor yn cael eu gadael i gyrraedd eu huchder a’u siâp naturiol oni bai eu bod nhw’n risg iechyd a diogelwch sylweddol.
Bydd iechyd coed gydag afiechydon yn cael ei monitro. Bydd pob coeden yn cael eu hasesu ar sail unigol a bydd coed gydag afiechydon yn cael eu torri i lawr os daw hi i’r pen.
Torri glaswellt o amgylch coed
Rydym yn cymryd camau i wella iechyd coed ar dir y cyngor. Fel rhan o’n hymrwymiad i fioamrywiaeth a mynd i’r afael â’r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac ecolegol, mae arnom eisiau defnyddio dull ysgafnach o dorri glaswellt yn ein parciau ac ardaloedd cymunedol.
Mae gwreiddiau’r coed sydd wedi eu hen sefydlu yn ein parciau a’n strydoedd yn y troedfeddi uchaf o bridd dan eu canghennau. Pan fydd peiriannau trwm (fel peiriant torri glaswellt) yn cael ei ddefnyddio ar y pridd hwn, neu pan fydd llawer o bobl yn cerdded arno, mae’r pridd yn cael ei gywasgu, sy’n ei gwneud yn anoddach i’r goeden amsugno’r ocsigen, dŵr a maetholion y mae arni eu hangen i dyfu.
I osgoi difrod i’r gwreiddiau o’r pridd cywasgedig hwn, ein bwriad yw torri’r glaswellt o amgylch y coed dim ond unwaith neu ddwy y flwyddyn yn defnyddio offer ysgafn. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i beidio â cherdded dros y gwreiddiau a rhoi amser i’r pridd ddod ato’i hun ac i’r goeden ffynnu. Bydd y glaswellt nad yw’n cael ei dorri yn tyfu yn ddolydd gwenyn, yn denu’r pryfed a mamaliaid bychan sydd mor bwysig i fioamrywiaeth. Rydym yn gofalu am goed sydd newydd eu plannu mewn ffordd wahanol, gan ddefnyddio tomwellt o amgylch y boncyff rhag i ddŵr gael ei golli ac i gadw rheolaeth ar y glaswellt a’r chwyn.
Rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth yn ein hymdrechion i amddiffyn a chadw’r planhigion a bywyd gwyllt yn ein hardaloedd gwyrdd a diolch i chi am eich help i ofalu am y coed sydd mor werthfawr i’n cymunedau. Os hoffech siarad ag aelod o’n tîm am hyn, e-bostiwch ni yn coed@sirddinbych.gov.uk.
Gorchmynion Cadw Coed
Mae Gorchmynion Cadw Coed yn ei gwneud yn drosedd i dorri i lawr, tocio neu ddifrodi coed penodol fel arall.
Dysgu mwy am Orchmynion Cadw Coed
Adrodd am broblem
Rydym yn sicrhau fod yr holl goed ar dir cyhoeddus yn cael eu cadw mewn cyflwr derbyniol ac nad ydynt yn risg i bobl nac eiddo.
Difrod i eiddo
Ni fydd coed sy’n eiddo i’r Cyngor ac sydd dan amheuaeth o achosi difrod i anheddau neu wasanaethau yn cael eu tocio na’u torri i lawr heb dystiolaeth derfynol a digonol fel adroddiad gan Beiriannydd Strwythurol neu Syrfëwr Siartredig. Mewn rhai achosion, gall fod yn angenrheidiol i ni gael barn ein Peiriannydd Strwythurol neu arbenigwr ein hun cyn i ni weithredu.
Ni fyddwn yn torri na thocio coed na thorri gwreiddiau coed sy’n achosi aflonyddwch i balmentydd, cyrbau, llwybrau gardd na waliau. Yn yr achosion hyn byddwn yn gofyn am atebion gan beiriannydd.
Coed peryglus
Os yw coeden y mae’r Cyngor yn berchen arni yn achosi risg canolig neu uchel i bobl neu eiddo, byddwn yn trefnu fod contractwr coed (tyfwr coed) yn gwneud y goeden yn ddiogel cyn gynted â phosib.
Pe bai’r Cyngor yn berchen ar goeden sydd wedi cael ei adnabod i fod yn beryglus, ond bod y risg i’r cyhoedd ddim yn uchel, yna bydd y goeden yn cael ei wneud yn ddiogel yn dibynnu ar raddfa’r risg wedi’i adnabod ar amser yr archwiliad.
Os yw’r goeden yn eiddo preifat bydd y perchennog yn cael ei hysbysu gan ofyn iddyn nhw wneud y goeden yn ddiogel o fewn amserlen briodol. Mae gan y Cyngor y pwerau o dan y Ddeddf Priffyrdd 1980 i sicrhau fod coed ar eiddo preifat ddim yn achosi perygl ar y ffordd gyfagos a bydd y rhain yn cael eu defnyddio pryd a phan fo hynny’n briodol. Gall y Cyngor gymryd camau gorfodi neu gyflawni’r gwaith ac adennill costau os oes angen.
Priffyrdd, ffyrdd a llwybrau troed
Byddwn yn gwneud gwaith i goed dan berchnogaeth y cyngor i sicrhau fod o leiaf 2.5 metr o le dros lwybr troed sy’n gysylltiedig â stryd, priffordd neu ffordd, a 3 metr pan fo hawl i feicio. Mae unrhyw waith angenrheidiol i atal rhwystrau ar lwybrau troed sy’n gysylltiedig â phriffyrdd oherwydd presenoldeb coeden sy’n eiddo’r Cyngor yn cael ei ystyried ar sail achos i achos.
Byddwn yn gwneud gwaith i goed y cyngor i gynnal llinellau gweld clir (lle bo’n ymarferol) ger cyffordd a mannau eraill (sy'n gysylltiedig â stryd, ffordd neu briffordd).
Ni fyddwn yn cael gwared nac yn torri gwreiddiau coeden sy’n achosi’r palmant i godi. Yn yr achosion byddwn yn gofyn am atebion gan beiriannydd.
Eiddew
Dydi eiddew ddim yn achosi niwed i goed iach ac mae’n elfen bwysig o fioamrywiaeth yn rhinwedd ei hun. Mae’n darparu lleoliad nythu ar gyfer sawl rhywogaeth o adar ac yn ffynhonnell bwysig o neithdar a phaill ar gyfer llawer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn hwyrach yn y flwyddyn.
Ni fydd eiddew yn cael ei dorri neu ei docio oddi ar goed sy’n eiddo’r Cyngor oni bai fod yna risg i iechyd a diogelwch y cyhoedd.
Polion lamp
Pan mae coed sy’n eiddo’r Cyngor yn rhwystr i olau artiffisial lifo allan o bolion lamp bydd hynny’n cael ei ddelio ar sail achos i achos.
Tocio coed
Bydd yr holl waith coed sy’n cael ei wneud gan, neu ar ran, y Cyngor yn cael ei wneud yn unol â’r arfer dderbyniol wedi’i osod yn Safonau a Chanllawiau Coedyddiaeth Prydain ac Ewrop. Dim ond os ydyn nhw’n cael eu hystyried i fod yn beryglus, rhwystrol i gerbydau neu gerddwyr, ac yn cyffwrdd eiddo, neu angen ymyrryd arnynt ar gyfer dibenion coedyddiaeth y bydd coed yn cael eu tocio.
Adrodd am broblem
Gallwch adrodd am broblem gyda choeden ar-lein.
Adrodd am broblem gyda choeden
Ni fydd y Cyngor yn torri na thocio coed, nac yn torri gwreiddiau coeden, i;
- stopio gwreiddiau rhag mynd i mewn i ddraen sydd eisoes wedi torri neu wedi ei ddifrodi
- Leihau digwyddiadau naturiol fel cwymp blodau, dail a ffrwythau, neu ledaeniad melwlith
- Adael mwy o olau i mewn i eiddo
- galluogi gosod paneli solar ar eiddo preifat
- Atal y coed rhag ymyrryd â signal neu’r broses o osod teledu / lloeren
- gwella golygfa o eiddo preifat
Coed ar eiddo preifat
Nid ydym yn gyfrifol am goed ar eiddo preifat.
Os yw coeden yn llechfeddiannu ar eich eiddo, mae gennych hawl cyfraith gyffredin i ddileu (lliniaru) y niwsans. Fodd bynnag, dim ond hawl i dorri rhannau o’r goeden o’r pwynt lle maen nhw’n croesi’r ffin i’ch eiddo sydd gennych, a dylech ddychwelyd unrhyw sgil-gynhyrchion at berchennog yr eiddo.
Rydym yn argymell y dylech drafod gyda’ch cymydog eich bwriad o docio’r canghennau sydd wedi tyfu drosodd i’ch eiddo ac i ymgynghori â meddyg coed proffesiynol am arweiniad ar y ffordd orau i docio’r goeden yn ôl i’w heiddo.
Cyn gwneud unrhyw waith dylech ddarganfod os mai eiddo’r Cyngor yw’r coed ac os ydyn nhw’n cael eu hamddiffyn gan orchymyn diogelu coed (GDC) neu os ydynt o fewn o fewn Ardal Gadwraeth.
Os yw coeden yn ymyrryd a llinellau ffôn neu drydan, gellir adrodd am y broblem wrth y cwmni perthnasol.
Llinellau pŵer
Llinellau ffôn
Openreach (gwefan allanol)