Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Er mwyn galluogi a dyrchafu trigolion Sir Ddinbych nad ydynt mewn cyflogaeth, mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi sefydlu sesiynau grŵp cymdeithasol newydd fel rhan o’u prosiect Barod, sy’n anelu at faethu hyder a datblygu sgiliau.

Sefydlwyd ‘Coffi a Sgwrs’ i’r rheiny sy’n 25 oed neu hŷn ac ‘Ymlacio a Sgwrs’ i bobl rhwng 16 a 24 oed. Trefnwyd y grwpiau hyn er mwyn rhoi hwb i hyder a gwella sgiliau, sy’n asedau hanfodol ar gyfer cyflogaeth.

Gan gydnabod yr angen ar gyfer cefnogaeth holistaidd y tu hwnt i gefnogaeth draddodiadol i chwilio am swydd, mae’r prosiect Barod wedi dylunio’r grwpiau cymdeithasol i greu amgylchedd meithringar ar gyfer unigolion i’w helpu i ailadeiladu hyder a gwella eu sgiliau. Mae’r prosiect yn anelu at helpu unigolion i fynd yn ôl i’r gweithlu gyda brwdfrydedd a gallu newydd.

Arweinir y grwpiau cymdeithasol gan Hyfforddwyr Lles y prosiect Barod, gan sicrhau amgylchedd diogel a dargludol i gyfranogwyr gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon, dysgu oddi wrth ei gilydd a dechrau siwrnai o dwf personol a phroffesiynol. Mae’r grwpiau hyn yn anelu at greu cymuned gefnogol lle gall unigolion ddysgu, tyfu ac, yn y pen draw, cyflawni eu nodau gyrfaol.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i bobl ddod i ddysgu am y ffyrdd y gallant wella eu hyder.

Gall trigolion hefyd ddod draw i ddysgu gan ei gilydd a chael trafodaethau ystyrlon wrth iddynt ddechrau eu siwrnai tuag at gyflogaeth”.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Sir Ddinbych Yn Gweithio:

“Mae pawb yn gwybod fod diweithdra’n cael effaith negyddol ar iechyd unigolyn, rydym felly’n falch o gynnig digwyddiadau am ddim i helpu trigolion di-waith Sir Ddinbych i oresgyn hyn.

Byddwn yn darparu hyfforddiant personol i bawb sy’n bresennol, felly os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch lles, dewch draw i wneud y mwyaf o’r gefnogaeth sydd ar gael.”

Bydd y prosiect Barod yn cynnal amryw o weithgareddau lles trwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod hirdymor o baratoi pobl ar gyfer cyflogaeth.

Cynhelir sesiynau ‘Coffi a Sgwrs’ ac ‘Ymlacio a Sgwrs’ yn y Rhyl a Dinbych.

Cynhelir y grwpiau yn Hwb Ddinbych ar ddydd Iau cyntaf y mis a’r 3ydd dydd Iau yn y mis -

  • Coffi a Sgwrs (25+) – 11am – 12pm
  • Ymlacio a Sgwrs (16-24) – 12.30pm – 2pm

Cynhelir y grwpiau yn y Rhyl ar yr 2il a’r 4ydd dydd Iau yn y mis -

  • Coffi a Sgwrs (25+) - 11am – 12pm – Llyfrgell y Rhyl (yr hen gaffi)
  • Ymlacio a Sgwrs (16-24) – 1pm – 2.30pm - Canolfan Ieuenctid y Rhyl

Am ragor o fanylion, anfonwch e-bost at Cerian.phoenix@Denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 07824300769.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Cyhoeddwyd ar: 26 Hydref 2023