Er mwyn dathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol, a gynhelir o 17 Mawrth tan 21 Mawrth, cynhaliodd Tîm Gwaith Cymdeithasol Sir Ddinbych ddigwyddiad i ddathlu yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.
Yn y digwyddiad, roedd tîm Gwaith Cymdeithasol Sir Ddinbych yn eistedd i lawr am sgwrs anffurfiol dros baned a chacen gyda gweithwyr gweithlu ehangach gofal cymdeithasol i drafod popeth sy’n ymwneud â gwaith cymdeithasol.
Cafwyd sesiwn holi ac ateb hefyd gyda gweithwyr cymdeithasol lleol, ac roedd cyfle i drafod yr hyn sy’n digwydd yn lleol a chenedlaethol.
Y thema ar gyfer Wythnos Gwaith Cymdeithasol eleni yw ‘Cryfhau Undod Rhwng Cenedlaethau ar gyfer Lles Parhaus’.
Mae nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal fel rhan o’r dathliadau’r wythnos hon, gan gynnwys cwis llawn hwyl a chinio a gynhelir fel rhan o ddathliadau Wythnos Gwaith Cymdeithasol Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddathlu a thynnu sylw at rôl allweddol gweithwyr cymdeithasol yn ein cymunedau, gan gefnogi pobl ddiamddiffyn ar draws y sir.
Mae’n wych gweld wythnos gyfan wedi’i dynodi i gydnabod eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddysgu mwy am ein tîm agos ac ymroddedig a dathlu eu llwyddiannau.”