Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Swyddfa’r Post i gyflwyno talebau ar gyfer Cynllun Tanwydd y Gaeaf i dros 2,350 o drigolion sy’n gymwys ond nad ydyn nhw wedi gwneud cais eto.
Mae’r Cyngor, sydd wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r prosiect, yn croesawu’r cyfle ychwanegol hwn i’w drigolion hawlio’r taliad o £200. Bydd y talebau’n ddilys am un mis ar ôl y dyddiad cyflwyno ac mae trigolion yn cael eu hannog i fynd â’u llythyr i’w Swyddfa’r Post leol a hawlio’r arian yno.
Mae’r Cyngor a’r Swyddfa’r Post wedi gweithio gyda’i gilydd yn ddiweddar ar gynllun talebau ar gyfer y cynllun Taliadau Costau Byw o £150 a chafodd bron i 4,000 o dalebau eu cyflwyno ar 15 Tachwedd 2022 a chafodd bron i 3,100 o dalebau eu cyfnewid am arian.
Fodd bynnag, mae dal 900 o drigolion sydd wedi cael taleb ond nad ydyn nhw wedi hawlio’r taliad, ac mae’n rhaid i hyn gael ei wneud erbyn 15 Rhagfyr 2022.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, aelod arweiniol cyllid, perfformiad ac asedau strategol “Yn ystod yr argyfwng costau byw yr ydym ni’n ei wynebu, mae’n hanfodol bod trigolion yn hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, felly rydym ni’n falch bod ganddyn nhw gefnogaeth ychwanegol yn lleol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
“Rydym ni’n erfyn ar y rhai sy’n gymwys i fanteisio ar y cynllun hwn i leihau eu pryderon, yn enwedig yn ystod cyfnod y Nadolig.”