Siarter cydymffurfiaeth cynllunio: cyngor i rai sy'n gwneud cwyn
Ewch yn syth i:
Beth rydym a beth nad ydym yn ymchwilio iddo
Mae adran gynllunio’r Cyngor yn ymchwilio i faterion y mae’r gyfraith yn rhoi pwerau i ni ddyfarnu arnynt – fel arfer, materion sydd angen caniatâd cynllunio. Nid oes gennym bŵer dros faterion sifil fel anghydfodau ynghylch eiddo, difrod i eiddo a thresmasu, ac felly nid ydym yn ymdrin â’r rheiny. Mae’n well datrys materion fel coed peryglus, draeniau wedi cau a pharcio difeddwl rhwng y rhai sydd ynghlwm yn uniongyrchol, gan nad yw’r rhain yn faterion mae’r adran gynllunio’n eu goruchwylio.
Mewn rhai achosion – fel arfer y rhai sy’n cynnwys cynlluniau mwy – gall amod sydd ar ganiatâd cynllunio reoli rhai agweddau ar y ffordd mae’r datblygiad yn cael ei adeiladu. Er enghraifft, efallai y bydd gan yr adran gynllunio reolaeth dros oriau gweithredu a mesurau lliniaru, ond nid yw hyn yn wir ar gyfer cynlluniau llai fel arfer. Dylai cwynion ynghylch cam adeiladu datblygiadau gael eu cyfeirio at ddatblygwr y safle yn y lle cyntaf, a allai ddatrys y sefyllfa’n syth. Os nad yw hyn yn llwyddiannus, efallai y bydd rhai sydd am wneud cwyn yn dymuno rhoi gwybod i’r adran gynllunio am y mater maent yn pryderu yn ei gylch.
Dyma restr lawn o’r materion y gall yr adran gynllunio ymchwilio iddynt:
- datblygiadau (h.y. gwaith adeiladu neu newid defnydd tir) sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio ond sydd wedi mynd rhagddynt heb ganiatâd
- datblygiadau sydd wedi mynd rhagddynt yn groes i gynlluniau a gymeradwywyd gan y Cyngor yn rhan o ganiatâd cynllunio
- datblygiadau sydd wedi mynd rhagddynt yn groes i amodau a osodwyd gan y Cyngor yn rhan o ganiatâd cynllunio
- newidiadau i Adeiladau Rhestredig heb ganiatâd
- dymchwel strwythurau mewn Ardal Gadwraeth heb ganiatâd
- difrod bwriadol i goed gwarchodedig, h.y. y rhai sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed neu sydd mewn Ardal Gadwraeth
- dadwreiddio gwrych annomestig
- hysbysebion sydd angen caniatâd ond nad ydynt wedi’i dderbyn
- eiddo blêr sy’n cael effaith newidiol ar yr ardal ehangach
Os oes mater sydd heb ei restru uchod, efallai y bydd wedi’i restru yn y tabl isod gyda chyngor ynglŷn â sut i ddatrys y mater.
Materion sydd ddim yn ymwneud â chynllunio
Mater sydd ddim yn ymwneud â chynllunio |
Datrysiad |
Anghydfodau eiddo |
Mater sifil (ystyriwch gael cymorth gan gyfreithiwr) |
Difrod i eiddo |
Mater sifil (ystyriwch gael cymorth gan gyfreithiwr) |
Tresmasu/dwyn tir |
Mater sifil (ystyriwch gael cymorth gan gyfreithiwr) |
Torri cyfamod |
Mater sifil (ystyriwch gael cymorth gan gyfreithiwr) |
Strwythurau ac adeiladau peryglus |
Rhoi gwybod i’r Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflen briodol |
Niwsans – sŵn, goleuni, drewdod, ac ati |
Rhoi gwybod i’r Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflen briodol |
Plâu |
Rhoi gwybod i’r Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflen briodol |
Tipio anghyfreithlon/sbwriel yn hel |
Rhoi gwybod i’r Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflen briodol |
Torri coed sydd heb eu gwarchod |
Rhoi gwybod i Gyfoeth Naturiol Cymru |
Troseddau bywyd gwyllt |
Rhoi gwybod i’r Heddlu |
Rhwystro’r briffordd |
Rhoi gwybod i’r Heddlu |
Iechyd a diogelwch yn y gweithle |
Rhoi gwybod i Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflen briodol |
Yn ôl i frig y dudalen
Datblygiadau nad ydynt yn destun camau gorfodi
Os yw achos o dorri rheolaeth gynllunio wedi bodoli ers amser, efallai y bydd wedi’i eithrio rhag camau adferol. Mae cyfraith gynllunio’n atal y Cyngor rhag cymryd camau gorfodi yn erbyn datblygiadau heb eu hawdurdodi sydd wedi bodoli am:
- bedair blynedd yn achos gweithrediadau adeiladu / peirianneg / mwyngloddio
- pedair blynedd mewn achosion sy’n cynnwys newid defnydd unrhyw adeilad i’w ddefnyddio fel annedd sengl
- ddeng mlynedd ym mhob achos arall gan gynnwys torri amod
Nid yw achosion o dorri rheolaeth gynllunio nad ydynt yn cynnwys ‘datblygiad’ (gweler datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer), fel mynd yn groes i ddeddfwriaeth Adeiladau Rhestredig neu achosion o eiddo blêr, yn gallu cael eu heithrio rhag camau gorfodi.
Yn ôl i frig y dudalen
Adroddiadau damcaniaethol
Nid yw’r adran gynllunio’n ymchwilio i adroddiadau damcaniaethol ynghylch gweithgareddau sydd heb ddigwydd. Mae hyn oherwydd bod yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio wedi’u neilltuo’n benodol i ymchwilio i, a datrys gwaith heb ei awdurdodi sy’n digwydd ar hyn o bryd neu sydd eisoes wedi digwydd. Mae hefyd angen deall graddau a natur yr achos o dorri rheolau cyn y gellir pennu beth yw’r ffordd orau o gymryd camau adferol.
Yn ôl i frig y dudalen
Adroddiadau dienw
Nid yw’r adran gynllunio’n ymchwilio i adroddiadau dienw nac adroddiadau sydd wedi’u gwneud dan enw ffug. Mae hyn oherwydd efallai y byddwn yn dymuno gohebu gyda’r rhai sy’n gwneud cwyn er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r achos honedig o dorri rheolau neu i drafod cynnydd camau adferol.
Mae’r holl fanylion personol yn gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu cyhoeddi yn ystod y cam ymchwilio. Ar achlysuron prin – y rhai sy’n ymwneud ag achosion difrifol o dorri rheolau sy’n arwain at apêl neu erlyniad – efallai y bydd angen i ni roi manylion am y gŵyn i’r arolygiaeth (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru) neu’r Llysoedd. Gall y manylion hyn gynnwys enw a chyfeiriad y sawl sy’n gwneud y gŵyn, ond ni fyddem ond yn datgelu’r rhain gyda caniatâd penodol y sawl sy’n cwyno. Yn yr un modd, efallai y bydd angen i ni drafod gydag asiantaethau allanol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu a’r gwasanaeth tân er mwyn ymchwilio i achos o dorri rheolau’n effeithiol.
Yn ôl i frig y dudalen
Rôl rhai sy’n gwneud cwyn
Mae’r swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio fwyaf llwyddiannus pan mae’n gweithio gyda rhai sy’n gwneud cwyn. Ni all yr adran gynllunio fonitro pob stryd ac eiddo yn Sir Ddinbych, a dyma lle mae rôl aelodau’r cyhoedd yn berthnasol. Trwy ddarparu gwybodaeth leol a gwylio a gwrando ar lawr gwlad, mae preswylwyr a sefydliadau lleol yn rhan allweddol o’r broses o sicrhau cydymffurfiaeth gynllunio.
Yn ogystal â monitro’u hardaloedd, mae preswylwyr a sefydliadau lleol mewn lle unigryw i unioni effeithiau niweidiol achosion o dorri rheolau cyn mae angen eu hatgyfeirio’n uwch at y Cyngor. Yn anffodus, gall ymyrraeth swyddog cydymffurfiaeth gynllunio weithiau wneud i ddatblygwyr sydd wedi’u cyhuddo o fod yn gwneud gwaith heb ei awdurdodi yn elyniaethus. Mae datblygwyr yn aml yn ei gweld yn ddiangen ac yn wrthwynebol i’r Cyngor ymyrryd; byddant yn aml yn gofyn pam nad yw’r sawl mae’r gwaith yn ei boeni wedi mynegi eu pryderon yn uniongyrchol, er mwyn dod i gytundeb cyfeillgar (sydd fel arfer yn gynt).
Er mwyn cynnal perthnasoedd cymunedol da – yn ogystal â sicrhau bod ein hadnoddau’n cael ei defnyddio i drin y problemau mwyaf difrifol – dylid cadw ymyrraeth y Cyngor fel y gobaith olaf. Cyn dweud wrth y Cyngor am fater, dylai’r rhai sydd am wneud cwyn ystyried a ellid datrys y broblem yn fwy cyfeillgar ac heb ddefnyddio adnoddau prin y Cyngor.
Yn ôl i frig y dudalen
Rôl cynghorau dinas, tref a chymuned
Mae gan gynghorau dinas, tref a chymuned gysylltiadau gwych â’r lleoedd maent yn eu gwasanaethu, a gallant ddefnyddio eu cysylltiadau i ddatrys materion cynllunio lleol yn sydyn ac yn effeithiol, er budd pob un sydd ynghlwm. Mae hefyd yn flaenoriaeth i’r Cyngor weithio gyda phobl a chymunedau i ennyn annibyniaeth a gwytnwch, gan gynnwys pobl a sefydliadau lleol wrth siapio eu cymunedau a gwella gwasanaethau – ac rydym yn cydnabod rôl hanfodol cynghorau dinas, tref a chymuned wrth gyflawni’r amcanion hyn.
Mae’r swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio’n darparu dull rheoleiddio i wneud gwelliannau i gymunedau Sir Ddinbych. Er hynny, mae angen mwy na rheoleiddio ymatebol i siapio cymunedau ar raddfa ehangach. Dylai cynghorau dinas, tref a chymuned sydd yn pryderu’n gyffredinol am amgylchedd adeiledig eu hardal felly ystyried sut y gallant weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor i fynd ati i wella’r parth cyhoeddus. Er enghraifft, efallai y byddent yn dymuno ystyried buddion strategol arfarniadau comisiynu y gallai’r Cyngor eu defnyddio wedyn i gyflwyno canllawiau cynllunio newydd a/neu fesurau rheoli’n benodol i’r ardal. Gall rheolyddion lleol fel Ardaloedd Cadwraeth, Ardaloedd Rheolaeth Arbennig ar Hysbysebion, ac Ardaloedd Cyfarwyddyd Erthygl 4 wneud gwahaniaeth go iawn i’r parth cyhoeddus, ond mae cyfyngiadau ar adnoddau’n golygu nad yw bob tro’n bosib’ i’r Cyngor eu gweithredu heb gymorth. Am y rheswm hwn, mae’n bwysig bod sefydliadau partner fel cynghorau dinas, tref a chymuned yn cydweithio â’r Cyngor i annog adfywio a gwella’r amgylchedd adeiledig.
Yn ôl i frig y dudalen
Sut i roi gwybod am achos honedig o dorri rheolaeth gynllunio
Os yw dulliau eraill o fynd i’r afael ag achos honedig o dorri’r rheolau’n aflwyddiannus, efallai y bydd pobl yn dymuno rhoi gwybod i’r Cyngor am y mater. Nid ydym ond yn ymchwilio i honiadau o dorri rheolaeth gynllunio sy’n cael eu cyflwyno ar y ffurflen ddynodedig:
Rhoi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio
Gall copi caled o’r ffurflen hefyd gael ei hanfon at rai sy’n dymuno gwneud cwyn drwy’r post.
Trwy lenwi’r ffurflen, mae’r rhai sy’n gwneud cwyn yn sicrhau bod yr adran gynllunio’n cael yr holl wybodaeth mae ei hangen i gynnal ymchwiliad mor sydyn, effeithiol a diogel â phosib’. Yn aml, gwybodaeth leol y mae pobl a sefydliadau lleol sy’n gwneud cwyn yn ei darparu ar y ffurflen yw’r gwahaniaeth rhwng ymchwiliad llwyddiannus ac aflwyddiannus. Am y rheswm hwn, efallai y byddwn yn gwrthod ymchwilio i achos honedig o dorri rheolau tan mae’r holl wybodaeth angenrheidiol wedi’i darparu.
Yn yr un modd, gall llwyddiant a hyd ymchwiliad ddibynnu’n llwyr ar dystiolaeth ategol. Gan hynny, efallai y bydd rhai sy’n gwneud cwyn yn dymuno cyflwyno ffotograffau, recordiadau sŵn, fideos a chofnodion am weithgarwch. Mae’n bwysig i rai sy’n gwneud cwyn sylwi y gall eu hadroddiadau arwain at ymchwiliad troseddol, felly mae’n rhaid iddynt sicrhau bod y wybodaeth a’r dystiolaeth maent yn eu cyflwyno’n gywir ac yn adlewyrchu’r ffeithiau fel y maent.
Bydd y Cyngor yn ymdrechu i gydnabod adroddiadau am dorri rheolau o fewn deg diwrnod gwaith. Dylai rhai sy’n cwyno roi gwybod i’r Cyngor os nad ydynt yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn y cyfnod hwn.
Yn ôl i frig y dudalen
Y cyfnod ymchwilio
Mae’r Cyngor yn cael gwybod am tua 250 o achosion honedig o dorri rheolau cynllunio bob blwyddyn. Gan hynny, mae’n rhaid blaenoriaethu ymchwiliadau yn ôl faint o niwed sy’n cael ei achosi.
Mae’r flaenoriaeth fwyaf yn cael ei rhoi i ymdrin ag achosion sy’n peryglu bywydau neu sy’n peri niwed nad oes modd ei ddad-wneud, yn enwedig os ydynt yn parhau i ddigwydd. Mae sylw ar unwaith yn cael ei gadw at achosion lle byddai ymyrryd yn syth yn atal difrod na fyddai modd ei ddad-wneud i ased digyfnewid fel Heneb Gofrestredig, Adeilad Rhestredig neu goeden sy’n cael ei gwarchod. Ar ôl hynny, mae blaenoriaeth fel arfer yn cael ei rhoi i achosion sy’n effeithio ar leoedd sy’n cael eu cydnabod am eu rhinweddau arbennig, fel Ardaloedd Cadwraeth a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (“AHNE”).
Rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i ba bryd y digwyddodd yr achos cyntaf o dorri rheolau. Os yw datblygiad heb ei awdurdodi, oherwydd treigl amser, yn nesáu at fod wedi’i eithrio rhag mesurau gorfodi (gweler datblygiadau nad ydynt yn destun camau gorfodi), efallai y bydd angen blaenoriaethu’r ymchwiliad i’r mater.
Isod mae rhai enghreifftiau o achosion o dorri rheolau y mae’r Cyngor yn dod ar eu traws, ac yn nodi ym mha drefn y byddai blaenoriaeth iddynt fel arfer.
Blaenoriaeth 1 (brys)
Achos honedig o dorri’r rheolau sy’n parhau ac sy’n achosi difrod difrifol nad oes modd ei ddad-wneud i ased digyfnewid, ac sydd felly angen sylw ar frys.
Enghreifftiau:
- Gwaith cloddio sy’n digwydd ar safle Heneb Gofrestredig
- Gwaith dymchwel sy’n digwydd ar Adeilad Rhestredig
- Gwaith torri coed sy’n digwydd ar goed wedi’u gwarchod
Blaenoriaeth 2 (uchel)
Achos honedig o dorri’r rheolau sy’n gofyn am sylw’n ddi-oed, gan ei fod –
- Wedi achosi difrod nad oes modd ei ddad-wneud i ased dynodedig arbennig ond nad yw’n parhau i ddigwydd;
- Yn bygwth perygl uniongyrchol i fywyd; a/neu
- Yn nesáu at y dyddiad na fydd modd cyflwyno mesurau gorfodi gan fod gormod o amser wedi mynd heibio.
Enghreifftiau:
- Newid diawdurdod i Adeilad Rhestredig sydd ddim yn parhau i ddigwydd
- Creu mynedfa i gerbydau ar gornel ddall ar ffordd-A gyflym
- Achos o dorri amod sydd wedi parhau heb ymyrraeth am bron i 10 mlynedd
Blaenoriaeth 3 (cymharol)
Achos honedig o dorri’r rheolau sy’n cael effaith niweidiol ar le arbennig, fel Ardal Gadwraeth neu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, neu ar le penodol amlwg, e.e. prif lwybr i ganol tref.
Enghreifftiau:
- Gwaith chwarel diawdurdod yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
- Arwydd siop diawdurdod mewn Ardal Gadwraeth
- Adeilad wedi mynd â’i ben iddo ar y stryd fawr
Blaenoriaeth 4 (isel)
Achos honedig o dorri’r rheolau sydd ddim yn achosi niwed difrifol i amwynder cyhoeddus, yr amgylchedd nac iechyd a diogelwch y cyhoedd, e.e. gwaith ar adeiladau heb eu Rhestru, o fewn Ardal Gadwraeth neu yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Enghreifftiau:
- ‘Datblygiad deiliad tŷ’ diawdurdod (gwaith o fewn ardaloedd gerddi tai)
- Newid defnydd, fel siop lyfrau sydd wedi dechrau gwerthu te a choffi
- Gerddi blaen wedi tyfu’n wyllt
Er y bydd pob adroddiad am achosion honedig o dorri rheolau cynllunio’n cael eu cofnodi, bydd ymchwiliad i rai nad ydynt yn cyrraedd y statws flaenoriaeth os a phan mae’r llwyth gwaith yn caniatáu. Nod y Cyngor yw ymchwilio i 50% o adroddiadau o fewn 10 wythnos ac 80% o fewn 12 wythnos. Efallai y bydd achosion cymhleth, sydd heb ddigon o dystiolaeth, neu sy’n eithaf isel o ran blaenoriaeth, yn cymryd mwy na 12 wythnos i ymchwilio iddynt.
Nod y Cyngor yw darparu gwasanaeth effeithlon. Gan hynny, mae wir yn gwerthfawrogi amynedd rhai sy’n gwneud cwyn, gan fod ceisiadau cyson am ddiweddariad yn atal swyddogion rhag parhau â’r gwaith o ymchwilio i achosion honedig o dorri’r rheolau. Bydd y Cyngor yn hytrach yn ceisio rhoi diweddariadau i rai sy’n gwneud cwyn ar adegau allweddol yn ystod yr ymchwiliadau, fel y maent ar gael.
Bydd diweddariadau’n cael eu rhoi ar ffurf llythyr, e-bost neu alwad ffôn, yn ôl beth mae’r sawl a wnaeth yn gŵyn yn ei ffafrio. Os bydd achos yn ennyn cryn ddiddordeb yn lleol, gallai diweddariadau yn hytrach gael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae’r Cyngor yn ceisio ymateb i unrhyw ohebiaeth a dderbynnir o fewn 10 niwrnod gwaith.
Yn ôl i frig y dudalen
Ymweliadau safle
Nid yw’r Cyngor yn cynnal ymweliadau safle i ymateb i bob cwyn, ond bydd rhai achosion yn gofyn am archwiliad ar y safle. Penderfyniad y Cyngor fydd ymweld â safle yn rhan o ymchwiliad ai peidio.
Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau, mae ymweliadau’n cael eu cynnal mewn grwpiau daearyddol. Am y rheswm hwn, efallai y bydd rhai wythnosau’n mynd heibio ers derbyn adroddiad cyn cynnal ymweliad safle. Er mwyn cyflymu pethau, efallai y bydd rhai sydd am wneud cwyn yn dymuno rhoi tystiolaeth a fyddai’n golygu nad oes angen ymweliad safle.
Yn ôl i frig y dudalen
Beth sy’n digwydd ar ôl ymchwilio i achos o dorri rheolau?
Ar ôl ymchwilio i achos honedig, bydd y Cyngor wedyn yn mynd ar ôl camau adferol neu’n cau’r achos. Bydd achosion yn cael eu cau ar y cam hwn os: a) nad oes gennym ddigon o dystiolaeth eu bod yn torri rheolau; neu b) bod achos o dorri rheolau yno, ond nad yw mor niweidiol nes bod y Cyngor yn ei gweld yn fuddiol defnyddio mwy o adnoddau i unioni’r mater.
Yn ôl i frig y dudalen
Buddioldeb
Mae’r swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio’n wasanaeth mae’r Cyngor yn ei gynnig yn ôl disgresiwn. Gan hynny, y Cyngor sydd i benderfynu a ddylid cymryd camau adferol i ymateb i honiadau o dorri rheolaeth gynllunio. Nod y swyddogaeth cydymffurfiaeth gynllunio yw unioni effeithiau niweidiol achosion o dorri rheolau, nid cosbi pobl sy’n gyfrifol amdanynt.
Y mater allweddol i’r Cyngor yw a yw’r datblygiad heb ei awdurdodi’n effeithio ar amwynder cyhoeddus mewn modd annerbyniol. Nid yw cymryd camau yn erbyn mân achosion neu achosion technegol iawn o dorri rheolau nad ydynt yn amharu fawr ddim ar amwynder y cyhoedd yn ddefnydd priodol o adnoddau’r Cyngor.
Yn ôl i frig y dudalen
Camau adferol
Gan ddibynnu ar ddifrifoldeb datblygiadau heb eu hawdurdodi, bydd unrhyw gamau adferol dilynol fel arfer ar un o ddwy ffurf. Gallai’r Cyngor:
- sicrhau bod y gwaith sy’n torri rheolau’n dod i ben trwy gamau gorfodi ffurfiol os oes rhaid. Mae’r dewis hwn yn briodol pan mae digon o dystiolaeth o achos niweidiol o dorri rheolau sy’n mynd yn groes i bolisi cynllunio
- gofyn am gyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol. Mae hon yn ffordd briodol o ymdrin ag achosion o dorri rheolau a allai fod yn niweidiol, ond y gallai’r niwed hwnnw gael ei reoli drwy osod amod ar ganiatâd cynllunio ôl-weithredol. Er enghraifft, gallai amod cynllunio leihau sŵn trwy ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddiau atal sŵn gael eu gosod. Mae hefyd yn briodol gofyn am gais os yw natur yr achos o dorri rheolau’n un sy’n gofyn am gyflwyno tystiolaeth a/neu farn ymgynghorwyr arbenigol er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth i bennu a yw’r datblygiad yn dderbyniol.
Mewn achosion lle mae cais y gofynnwyd amdano yn aflwyddiannus – neu heb ei gyflwyno o gwbl – gallai’r Cyngor geisio diwedd i’r achos o dorri rheolau trwy gamau gorfodi ffurfiol os yw hynny’n briodol.
Ni fydd y Cyngor fel arfer yn cymryd camau gorfodi mewn perthynas â datblygiadau sy’n destun cais cynllunio ar y pryd.
Yn ôl i frig y dudalen
Camau gorfodi ffurfiol
Mae’r grym gan y Cyngor i gyflwyno hysbysiadau gorfodi sy’n gofyn yn ffurfiol i’r rhai sy’n eu derbyn ymgymryd â chamau adferol neu wynebu cosb. Mae gwahanol fathau o hysbysiad y gall y Cyngor ei gyflwyno, gan ddibynnu ar natur yr achos. Efallai na fydd rhai hysbysiadau ond yn dod i rym 28 diwrnod neu fwy ar ôl y dyddiad cyflwyno, er mwyn rhoi cyfle i’r derbynnydd apelio. Mae apeliadau’n cael eu goruchwylio gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, a fydd yn cytuno, yn addasu neu’n diddymu’r hysbysiad.
Rhaid i hysbysiadau gynnig cyfnod rhesymol i’r derbynnydd wneud y gwaith adfer. Mae’r cyfnod cydymffurfio hwn yn dechrau pan ddaw’r hysbysiad i rym neu, mewn achosion lle mae apêl, pan mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru’n yn cyflwyno’r penderfyniad.
Ar gyfer mân achosion o dorri rheolau, efallai y bydd rhoi’r hysbysiad gorfodi’n ddigon o gosb ynddo’i hun, o ystyried ei effaith ar werth tir. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ymateb y sawl sy’n ei dderbyn yn cael ei fonitro ar ôl y cyfnod cydymffurfio. Os yw’r gwaith monitro’n dangos bod y sawl a’i derbyniodd wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion, gallai’r Cyngor, os yw hynny o fudd, geisio camau cosbi eraill. Mae cosbau am beidio â chydymffurfio’n amrywio gan ddibynnu ar fath yr achos a’r hysbysiad a gyflwynir (gweler hysbysiadau ffurfiol). Efallai y bydd achos cyfreithiol os yw hynny o fudd i’r cyhoedd, ac os yw cyngor cyfreithiol yn awgrymu bod siawns resymol o lwyddiant.
Yn anffodus, gall gymryd llawer o amser i ddatrys achosion yn llawn, ac mae’n aml yn dibynnu ar ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Bydd y Cyngor, er hynny, yn ymdrechu i ddatrys pob achos sy’n cael blaenoriaeth yn amserol ac, os yw’n fuddiol, yn defnyddio pob ffordd briodol a rhesymol i wneud hynny.
Yn ôl i frig y dudalen