Mae'r Cyngor yn disgwyl presenoldeb da gan bob gweithiwr ac yn gwerthfawrogi iechyd a lles ei weithwyr.
Mae hefyd yn cydnabod y gall fod adegau pan na fyddwch chi’n teimlo’n ddigon da i weithio.
Yn fras, eich prif gyfrifoldebau yw:
- mynd i’r gwaith (ac eithrio pan fyddwch chi’n sâl)
- os nad ydych chi’n gallu mynd i’r gwaith, rhoi gwybod i’ch rheolwr atebol cyn gynted â phosibl ac o fewn awr gyntaf eich diwrnod gwaith arferol
- os ydych chi’n absennol am 8 niwrnod neu fwy (gan gynnwys dydd Sadwrn a dydd Sul), darparu datganiad gan feddyg
Mae manylion y broses ar gyfer rheoli absenoldebau ar gael yn y Polisi Presenoldeb yn y Gwaith a ddatblygwyd gan y Cyngor.
Dogfennau cysylltiedig