Cynlluniau Aberthu Cyflog
Rhannu Costau Aberthu Cyflog y Cynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol
Hoffech chi wella buddion eich pensiwn pan fyddwch chi’n ymddeol?
Gallwch ymuno â chynllun Rhannu Costau Aberthu Cyflog Cynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Prudential, a bydd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn cyfrannu i’ch cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol drwy drefniant Aberthu Cyflog. Golyga hyn y gallwch wneud arbedion treth ac yswiriant gwladol ar eich taliadau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am y math o ffordd o fyw yr hoffech ei chael ar ôl ichi roi’r gorau i weithio.
Yn ychwanegol at eich buddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS), gallai cynllun Rhannu Cost Aberthu Cyflog y Cynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol eich helpu i wneud hyn drwy ddarparu budd-dal ymddeol ychwanegol.
Cyn i chi wneud cais, rhaid i chi ddarllen y wybodaeth yn y ddogfen isod ynglŷn â buddion, telerau ac amodau ar gyfer y cynllun:
Cynllun Aberthu Cyflog Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Rhannu Cost: pecyn cyflogwr (PDF, 305KB)
Fel y nodir yn y ddogfen wybodaeth uchod, bydd angen i chi gysylltu â Prudential a llenwi’r ffurflen gais ar-lein briodol (gwefan allanol) cyn defnyddio ein ffurflen gais. Os ydych chi eisoes yn aelod o’r cynllun, fe allwch chi newid eich cyfraniad misol yn defnyddio ein ffurflen:
Gwneud cais i ymuno â’r cynllun neu newid SSSCAVC
Cysylltwch â’r Adran Gyflogau ar 01824 706033 os ydych angen mwy o wybodaeth.
Beicio i'r Gwaith gyda Cycle Solutions
Mae beicio yn wych i chi a’r amgylchedd. Gyda Cycle Solutions gallwch fel arfer arbed naill ai 40% (talwyr treth cyfradd is) neu 49% (talwyr treth cyfradd uwch) drwy’r cynllun Beicio i'r Gwaith. Caiff y costau eu hadennill o'ch cyflog drwy'r cynllun Aberthu Cyflog.
Mae eich cynllun beicio i'r gwaith yn cynnig gostyngiad o 12% oddi ar bris gwerthu’r rhan fwyaf o feiciau ac offer diogelwch, yn ogystal â gwarantiad 18 mis (yn hytrach na’r 12 mis arferol). Gallwch ddewis o’r ystod ehangaf o feiciau sydd ar gael yn y DU, a mwynhau buddion iechyd beicio i’r gwaith. Gallwch ledaenu’r gost heb ddim ffioedd cyllid!
Am ragor o wybodaeth, neu er mwyn ymuno â’r cynllun, ewch i wefan Cycle Solutions (gwefan allanol).
Sylwch fod y telerau a’r amodau llawn yn berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan.
Cynllun Aberthu Cyflog Ceir Tusker
Gallech gael car newydd sbon am bris gostyngol heb orfod talu blaendal
Oeddech chi’n gwybod y gallech yrru’n ddiffwdan gan wneud arbedion mawr ar gar newydd sbon? Diolch i’r Cynllun Buddion Ceir gan Tusker, gallwch archebu car sydd ar gael heddiw neu gael car newydd wedi’i adeiladu yn ôl eich cyfarwyddiadau chi, gan fanteisio ar becyn y cynllun sy’n cynnwys:
- car newydd sbon
- yswiriant
- treth ffordd
- teiars wrth gefn
- MOTs
- gwasanaethau a gwaith trwsio
- polisi torri i lawr
- chefnogaeth damweiniau
A gallwch arbed mwy fyth gyda cheir trydan neu geir allyriadau isel iawn.
Mae’r buddion anhygoel hyn yn cael eu cynnwys yn yr arian sy’n cael eu cymryd o’ch cyflog misol, felly gallwch hefyd arbed ar daliadau treth ac yswiriant gwladol.
Am ragor o wybodaeth, i bori drwy’r ceir, ac er mwyn archebu, ewch i wefan Tusker (gwefan allanol).
Neu rhowch ganiad i’r Bobl Buddion Ceir ar 0333 400 7431 neu e-bostiwch EETeam@tuskerdirect.com, fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau a'ch cynorthwyo i wneud eich archeb.
Sylwch fod y telerau a’r amodau llawn yn berthnasol. Ewch i wefan y cyflenwr er mwyn cael yr holl wybodaeth.
Efallai y byddwch hefyd eisiau ystyried Cynllun Prydles Car Cyngor Sir Ddinbych.
Cysylltu â ni