Absenoldeb a phresenoldeb (ysgolion)
Gellir gofyn am amser i ffwrdd ar gyfer digwyddiadau cynlluniedig a heb eu cynllunio, fel salwch a materion busnes, teuluol neu bersonol, i fynd ar wyliau neu i ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus. Mae’n rhaid i’r rheolwr atebol edrych ar amgylchiadau pob cais yn unigol ac yn ôl ei deilyngdod.
Polisi presenoldeb yn y gwaith (ysgolion) (PDF, 2.04MB)
Canllawiau i benaethiaid
Mae Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (gwefan allanol), yn darparu model i gynorthwyo penaethiaid a chyrff llywodraethu i benderfynu ar geisiadau am amser i ffwrdd yn unol â rhwymedigaethau cyfreithiol, cytundebol a moesol.
Mae’r canllaw yn berthnasol i:
- holl weithwyr yr ysgol, gan gynnwys y pennaeth;
- staff a gyflogir yn ganolog gan yr awdurdod lleol ac sy’n destun Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol;
- staff a gyflogir mewn unedau neu ganolfannau sy’n gysylltiedig ag ysgol;
- staff peripatetig a gyflogir yn ganolog gan yr awdurdod lleol ac wedi eu cynnwys yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
Nid yw’r canllaw yn berthnasol i:
- staff a gyflogir gan Wasanaeth Contract neu Wasanaethau Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych;
- gweithwyr contractwyr a darparwyr gwasanaeth allanol
Salwch a phresenoldeb
Gwybodaeth a chanllawiau: Absenoldeb am resymau iechyd
Absenoldeb teulu
Manylion llawn absenoldeb teuluol:
Polisi rhieni (PDF 778KB)
Absenoldeb a chyflog mamolaeth ar gyfer athrawon
Mae hawl gan bob athrawes feichiog i gael 52 wythnos oabsenoldeb mamolaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am absenoldeb a thâl mamolaeth yn y polisi mamolaeth i athrawon.
Tâl ac absenoldeb mabwysiadu
Os ydych chi’n penderfynu mabwysiadu plentyn, mae gennych chi hawl i hyd at 52 wythnos o absenoldeb mabwysiadu.
Absenoldeb Rhiant
Mae rheolau Absenoldeb Rhiant yn nodi bod absenoldeb rhiant ond yn berthnasol i blant sydd wedi eu geni ar ôl 15 Rhagfyr 1999, sef y dyddiad y daeth y rheolau i rym.
Nid oes yn rhaid talu gweithiwr am absenoldeb rhiant.
Mwy am absenoldeb rhiant
Absenoldeb tadolaeth
Gweithiwr sy’n gyfrifol am fagu'r plentyn, gan gynnwys y tad biolegol, gŵr neu bartner y fam (gan gynnwys cyplau o'r un rhyw).
Absenoldeb Rhiant a Rennir
Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir (SPL) yn galluogi rhieni cymwys i ddewis sut i rannu gofal eu plentyn / plant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl geni neu fabwysiadu ar gyfer y rhai sydd i'w geni neu eu lleoli i'w mabwysiadu ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015. Y pwrpas yw rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni wrth ystyried sut i ofalu amdanyn nhw, a chreu perthynas â'u plentyn.
Caniatâd i fod yn absennol heb gyflog
Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i ofyn am ganiatâd i fod yn absennol heb gyflog.
Ffurflen Gais Caniatâd i fod yn Absennol heb Gyflog (MS Word, 47KB)
Iechyd meddwl
Mae’r polisi, templedi a dogfennau canllaw isod yn adnoddau defnyddiol i reolwyr a staff i gefnogi iechyd meddwl.
Polisi cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle (PDF, 436KB)