Mae’r weithdrefn a pholisi Recriwtio a Dethol yn cynnwys canllawiau, prosesau a ffurflenni ar gyfer rheolwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych wrth recriwtio.
Mae rhestr wirio recriwtio hefyd ar gael.
Camau recriwtio
Cam 1: swydd wag bosibl yn codi
- Mae’r angen am swydd newydd yn cael ei ystyried. A oes angen llenwi’r swydd hon?
- Mae swydd-ddisgrifiad newydd yn cael ei adolygu neu gwneir newidiadau sylweddol i swydd-ddisgrifiad sy’n bodoli eisoes.
Cam 2: dechrau’r broses recriwtio
Mae’r rheolwr recriwtio yn llenwi’r ffurflenni canlynol gan ddefnyddio’r templedi a fformat cywir:
Cam 3: cam canolradd
- Caiff adleoliadau addas eu hystyried gan Adnoddau Dynol Bydd AD yn cysylltu â’r rheolwr recriwtio os oes rhywun addas o’r gronfa adleoli.
Cam 4: llunio rhestr fer
- Adnoddau Dynol yn cael ffurflenni cais;
- Caiff ffurflen pennu rhestr fer ei chwblhau’n llawn ar gyfer pob ymgeisydd a’i llofnodi gan y panel pennu rhestr fer.
- Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn cael ei wirio. Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi dewis yr opsiwn hwn gael eu rhoi ar y rhestr fer os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf hanfodol.
- Caiff y Ffurflen Amserlen Cyfweliad ei chwblhau’n llawn a’i llofnodi gan y rheolwr recriwtio.
Cam 5: paratoi ar gyfer cyfweliad
- Paratoi Cwestiynau / Canolfan Asesu;
- Copi o’r ceisiadau ar gyfer y panel, Telerau ac Amodau y swydd yn barod i’w hailadrodd i’r ymgeiswyr;
Cam 6: cyfweliad
- Caiff ffurflen asesu cyfweliad ei chwblhau’n llawn a’i llofnodi gan y panel;
- Gwiriadau cyflogaeth ar gyfer yr holl ymgeiswyr yn cael eu gwneud, gan gynnwys gwiriadau cymhwysedd, gwiriadau cyflogaeth ar gyfer pob ymgeisydd, gan gynnwys cymhwysedd i weithio yn y DU, ID llun.
Cam 7: ar ôl y cyfweliad
- Yr ymgeisydd / ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod ar lafar;
- Rhoi gwybod i’r ymgeiswyr aflwyddiannus ar lafar – Rhoi adborth;
- Ffurflen Benodi yn cael ei chwblhau’n llawn a’i llofnodi gan y rheolwr recriwtio – e-bostio nodiadau’r cyfweliad a'r ffurflenni asesu i Adnoddau Dynol;
- Gwirio'r geirda (nid yw'n berthnasol i ysgolion sydd â'u hadran eu hunain);
- Ffurflenni Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn cael eu llenwi gan y gweithiwr a’u gwirio gan AD.
Ffurflen benodi (MS Word, 162KB)
Cysylltu â ni
Dogfennau cysylltiedig