Y Gymraeg ar gyfer recriwtio: Lefelau o ran sgiliau Cymraeg

Lefelau o ran sgiliau Cymraeg

L1 - Cyn Mynediad

Gwrando a siarad

  • Dweud enwau llefydd ac enwau personol yn gywir.
  • Cyfarch cwsmeriaid mewn derbynfa neu ar y ffôn.
  • Agor a chloi sgwrs.

Darllen

Deall testun byr ynglŷn â phwnc cyfarwydd pan wedi ei gyfleu mewn iaith syml, e.e. arwyddion syml, cyfarwyddiadau syml, deall cynnwys agenda.

Ysgrifennu

Ysgrifennu enwau personol, enwau llefydd, teitlau swyddi ac enwau adrannau'r Cyngor.

L2 – Mynediad

Gwrando a siarad

  • Deall sgwrs syml.
  • Derbyn a deall negeseuon syml ar batrymau arferol, e.e. amser a lleoliad cyfarfod, cais i siarad gyda rhywun.
  • Agor a chloi sgwrs a chyfarfod yn ddwyieithog.

Darllen

Deall y rhan fwyaf o adroddiadau byr a chyfarwyddiadau arferol o fewn arbenigedd y gwaith, â bod digon o amser wedi ei ganiatáu.

Ysgrifennu

Llunio neges fer syml ar bapur neu e-bost i gydweithiwr o fewn y Cyngor neu berson cyfarwydd y tu allan i'r Cyngor.

L3 – Sylfaen

Gwrando a siarad

  • Deall a chymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd yn y swyddfa.
  • Cynnig cyngor i’r cyhoedd ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.
  • Cyfrannu i gyfarfod neu gyflwyniad ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.

Darllen

Deall y rhan fwyaf o’r adroddiadau, dogfennau a gohebiaeth y byddai disgwyl eu trafod yn y swydd.

Ysgrifennu

Llunio negeseuon ac adroddiadau anffurfiol at ddefnydd mewnol.

L4 – Canolradd

Gwrando a siarad

  • Cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yng nghyd-destun y pwnc gwaith.
  • Deall gwahaniaethau tôn iaith a thafodiaith.
  • Dadlau o blaid ac yn erbyn achos penodol.
  • Cadeirio cyfarfodydd ac ateb cwestiynau yn hyderus.

Darllen

Deall gohebiaeth ac adroddiadau pwnc sydd yn cynnwys iaith dechnegol a chymhleth.

Ysgrifennu

Llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a deunydd hyrwyddo gyda chymorth golygu.

L5 - Uwch/hyfedredd

Gwrando a siarad

  • Cyfrannu'n rhugl a hyderus yng nghyswllt pob agwedd yn y gwaith, gan gynnwys trafod a chynghori ar faterion technegol, arbenigol neu sensitif.
  • Cyfrannu i gyfarfodydd a darparu cyflwyniadau yn rhugl a hyderus.

Darllen

Deall adroddiadau, dogfennau ac erthyglau y byddai disgwyl eu darllen fel rhan arferol y gwaith, gan gynnwys cysyniadau cymhleth.

Ysgrifennu

  • Llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a deunydd hyrwyddo i safon dderbyniol gyda chymorth offer iaith safonol e.e. Cysill
  • Llunio nodiadau manwl wrth gymryd rhan lawn mewn cyfarfod.

Sut i gyrraedd y lefel nesaf?

O 0 i Lefel 1

Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol

Arall

  • Apiau
  • Mentora
  • Paned a Sgwrs
O Lefel 1 i Lefel 2

Cyrsiau Mynediad (dewis un):

Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol (amser tymor)

  • Mynediad dwys: 30 wythnos, 2 awr yr wythnos
  • Hunan-astudio: 60 awr (ar-lein)
  • Adeiladu hyder: 10 - 15 wythnos, 2 awr yr wythnos

Arall

  • Apiau
  • Paned a Sgwrs
O Lefel 2 i Lefel 3

Cyrsiau Sylfaen (dewis un):

Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol (amser tymor)

  • Sylfaen Dwys: 30 wythnos, 2 awr yr wythnos
  • Hunan-astudio: 60 awr (ar-lein + cymorth tiwtor)
  • Adeiladu hyder: 10 - 15 wythnos, 2 awr yr wythnos

Arall

  • Apiau
  • Paned a Sgwrs
O Lefel 3 i Lefel 4

Cyrsiau Canolradd (dewis un):

Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol (amser tymor)

  • Canolradd Dwys: 30 wythnos, 2 awr yr wythnos
  • Cwrs 'Defnyddio': Cwrs preswyl (5 diwrnod)
  • Gwella Cymraeg: Cwrs ar-lein 10 awr

Arall

  • Apiau
  • Paned a Sgwrs
O Lefel 4 i Lefel 5

Cyrsiau Uwch/Hyfedredd (dewis un):

Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol (amser tymor)

  • Uwch/Hyfedredd Dwys: 30 wythnos, 2 awr yr wythnos
  • Cwrs 'Defnyddio': Cwrs preswyl (5 diwrnod)
  • Gwella Cymraeg: Cwrs ar-lein 10 awr

Arall

  • Apiau
  • Paned a Sgwrs

Cysylltwch â Gerallt Lyall, Swyddog Iaith Gymraeg i drafod eich opsiynau ymhellach: