Y Gymraeg ar gyfer recriwtio: Canllawiau i reolwyr

Canllawiau i Reolwyr ar Asesiadau Cynllunio'r Gweithlu ar gyfer Gofynion Iaith Gymraeg mewn Recriwtio.

Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i gynorthwyo rheolwyr i bennu'r sgiliau iaith Gymraeg sy'n ofynnol ar gyfer swyddi o fewn eu timau neu wasanaethau. Mae'n sicrhau bod Cyngor Sir Ddinbych yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ac yn cyd-fynd â'i ymrwymiad i wasanaethau dwyieithog.

Mae'n darparu:

  • Fframwaith ar gyfer asesu'r gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer swyddi.
  • Diffiniadau clir o lefelau sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Proses Gam-wrth-Gam

1. Asesu'r Rôl

Cyn cychwyn ar y broses recriwtio:

  • Gwerthuswch y sgiliau iaith Gymraeg sy'n angenrheidiol ar gyfer y swydd gan ddefnyddio'r cyngor yn y canllaw hwn.
  • Cysylltwch â Gerallt Lyall, Swyddog Iaith Gymraeg, am gyngor.
  • Defnyddiwch Gronfa Ddata Swyddi'r Sir i bennu'r lefel briodol. Caiff y gronfa ddata ei chynnal gan y Swyddog Iaith Gymraeg, sy'n cydweithio â rheolwyr i gategoreiddio swyddi'n briodol.

2. Cwblhau'r Ffurflen Rheoli Swydd Wag (VCF)

Defnyddir y Ffurflen VCF i hysbysu AD am y gofyniad iaith Gymraeg ar gyfer y swydd. Mae'n gyfrifoldeb ar y rheolwr i:

  • Ddewis y lefel iaith Gymraeg cywir i'r swydd.
  • Sicrhau bod yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys cyn anfon y VCF at AD.

3. Categorïo'r Swydd

Caiff swyddi eu categoreiddio yn ôl y gofynion iaith Gymraeg fel a ganlyn:

  • Hanfodol: Sgiliau Cymraeg lefel 3, 4, 5.
  • Dymunol: Sgiliau Cymraeg lefel 1, 2.
  • Angen dysgu sgiliau Cymraeg ar ôl penodi.
  • Nid oes angen sgiliau Cymraeg.

Mae pob lefel yn cael ei diffinio i egluro'r disgwyliadau ymarferol ar gyfer gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, gan osgoi'r camsyniad bod angen lefel uchel o allu Cymraeg ar gyfer pob swydd lle mae'r Gymraeg yn hanfodol.

Categorïau Iaith Gymraeg

Categorïau Hanfodol (Lefelau 3, 4, 5)

Mae swydd yn hanfodol Gymraeg os yw'n cynnwys:

  • Cyswllt rheolaidd â siaradwyr Cymraeg (y cyhoedd neu staff).
  • Lleoliad mewn cymuned lle mae dros 40% o'r trigolion yn siaradwyr Cymraeg (gwiriwch ein Strategaeth Iaith Gymraeg am ganrannau).
  • Cysylltu â sefydliadau lle'r Gymraeg yw’r brif iaith cyfathrebu.

Dylech hefyd ystyried gallu’r tîm presennol i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Categorïau Dymunol (Lefelau 1, 2)

Mae'r rhain yn berthnasol i swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn fanteisiol ond nid yn hanfodol. Gall ymgeisydd â sgiliau Cymraeg gael mantais, ond ni fydd angen y sgiliau hynny ar y sawl a benodir.

Dysgu Sgiliau Cymraeg ar ôl Penodi

Mae hyn yn berthnasol os:

  • Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond bod anawsterau recriwtio’n atal penodi siaradwr rhugl.
  • Mae'r rôl yn un arbenigol gyda phrinder siaradwyr Cymraeg yn y maes.

*Bydd y lefel benodol sydd angen i gyrraedd ac erbyn pa ddyddiad y dylai’r ymgeisydd gyrraedd y lefel yma cael ei bennu gan AD a'r Swyddog Iaith Gymraeg.

Nid yw'r Gymraeg yn Angenrheidiol

Mae hyn yn berthnasol i swyddi lle nad yw sgiliau Cymraeg yn berthnasol ac na fydd eu habsenoldeb yn effeithio ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd.

Diffiniadau a Disgwyliadau Ymarferol Lefelau Sgiliau

Hanfodol Lefel 5: Uwch

  • Gwrando a Siarad: Cyfathrebu’n rhugl mewn trafodaethau technegol a’r gallu i wneud cyflwyniadau.
  • Darllen: Deall adroddiadau cymhleth.
  • Ysgrifennu: Cynhyrchu gohebiaeth busnes o ansawdd uchel.

Hanfodol Lefel 4: Canolradd

    • Gwrando a Siarad: Cyfrannu’n hyderus mewn cyfarfodydd.
    • Darllen: Deall gohebiaeth ffurfiol.
    • Ysgrifennu: Drafftio dogfennau busnes gyda chymorth.

Hanfodol Lefel 3: Sylfaen

  • Gwrando a Siarad: Cyfrannu at sgyrsiau anffurfiol a gallu rhoi cyngor syml.
  • Darllen: Deall y mwyafrif o ddogfennau gwaith.
  • Ysgrifennu: Paratoi negeseuon anffurfiol ac adroddiadau ar gyfer defnydd mewnol.

Dymunol Lefel 2: Mynediad

  • Gwrando a Siarad: Ymdrin â sgyrsiau sylfaenol. Agor a chloi sgyrsiau a chyfarfodydd yn ddwyieithog
  • Darllen: Deall cyfarwyddiadau ac adroddiadau  byr.
  • Ysgrifennu: Cyfathrebu ysgrifenedig sylfaenol.

Dymunol Lefel 1: Cyn-Mynediad

    • Gwrando a Siarad: Cyfarch cwsmeriaid a chyfarchiadau sylfaenol.
    • Darllen: Deall arwyddion a thestun syml.
    • Ysgrifennu: Ysgrifennu enwau, teitlau swyddi ac ymadroddion syml.

Swydd Ddisgrifiad / Manyleb Person

  • Rhaid nodi’r gofyniad iaith Gymraeg a’r lefel sgiliau yn glir yn y Swydd Ddisgrifiad / Manyleb Person.
  • Os yw’r sgiliau’n "angen eu dysgu ar ôl penodi," rhaid nodi hyn yn eglur yn yr hysbyseb swydd. * Rhaid cael caniatâd AD a’r Swyddog Iaith Gymraeg cyn dewis y categori yma.

Ystyriaethau Allweddol ar gyfer Cydymffurfiaeth

Mae’n rhaid i reolwyr:

  1. Ddarparu tystiolaeth ar gyfer penderfyniadau Categori iaith.
  2. Ystyried gofynion statudol, megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (gwefan allanol).
  3. Ymgynghori’n rheolaidd â’r Strategaeth Iaith Gymraeg am ddata cymunedol.

Cymorth ac Adnoddau

Am gymorth, cysylltwch â:

Gerallt Lyall
Swyddog Iaith Gymraeg
gerallt.lyall@sirddinbych.gov.uk
01824 708269

Dogfennau cysylltiedig