Sir Ddinbych yn Gweithio: Barod Walkie Talkie
Chwilio am ffordd gyfeillgar ac ymlaciol o hybu eich hyder, aros yn actif a chwrdd â phobl newydd? Ymunwch â ni am daith gerdded a sgwrs lle cewch y cyfle perffaith i fwynhau’r awyr agored, cysylltu gydag eraill a meithrin cyfeillgarwch newydd, oll wrth wella eich lles.
Os ydych chi’n chwilio am gymhelliant, hybu hyder, neu sgwrs dda, mae’r teithiau cerdded hyn yn agored i bawb. Dim pwysau, dim straen, dim ond cwmni da ac awyr iach.

Pwy sy’n cael dod?
Mae digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio Barod ar gyfer unrhyw un sydd dros 16 oed sy’n byw yn Sir Ddinbych.
Pryd a ble mae’r digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio yn digwydd?
Mae digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio Barod yn digwydd bob dydd Gwener o 9:30am i hanner dydd. Mae’r llwybrau cerdded yn newid ond bob amser yn dechrau yn Adeilad MIND y Rhyl.
Cyfeiriad yr adeilad MIND yw:
82 Marsh Road
Y Rhyl
LL18 2AE
Sut i gymryd rhan
Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych ddod draw i unrhyw un o’n digwyddiadau Cerdded a Sgwrsio. Nid oes angen apwyntiad, mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim a gallwch fynychu cymaint o ddigwyddiadau ag y mynnwch.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
- Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.
Dilynwch ni