Sir Ddinbych yn Gweithio: Paned a Sgwrs
Hoffech chi roi hwb i’ch lles a gwella eich sgiliau Cymraeg yr un pryd? Ymunwch â ni am Baned a Sgwrs mewn sesiwn gyfeillgar a rhyngweithiol lle gallwch chi ymarfer eich Cymraeg mewn amgylchedd braf heb unrhyw bwysau.
Dewch i fwynhau paned, cyfarfod pobl newydd a magu hyder wrth siarad Cymraeg, p’un a ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu eisiau gloywi eich sgiliau. Dydi dysgu iaith erioed wedi bod gymaint o hwyl.

Pwy sy’n cael dod?
Mae croeso i unrhyw un sydd dros 16 oed ac yn byw yn Sir Ddinbych ddod i’r sesiynau Paned a Sgwrs.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Mae’r sesiynau Paned a Sgwrs yn cael eu cynnal yn HWB Dinbych (gwefan allanol) rhwng 2pm a 3:30pm ar:
- Dydd Llun 24 Chwefror 2025
- Dydd Llun 31 Mawrth 2025
- Dydd Llun 28 Ebrill 2025
- Dydd Llun 26 Mai 2025
- Dydd Llun 30 Mehefin 2025
- Dydd Llun 28 Gorffennaf 2025
- Dydd Llun 25 Awst 2025
- Dydd Llun 29 Medi 2025
- Dydd Llun 27 Hydref 2025
- Dydd Llun 27 Tachwedd 2025
Sut i gymryd rhan
Gall unrhyw sydd dros 16 oed ac yn byw yn Sir Ddinbych ddod draw i unrhyw sesiwn Paned a Sgwrs - does dim angen apwyntiad, mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim a does yna ddim cyfyngiad ar faint o sesiynau y gallwch chi ddod iddyn nhw.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn unrhyw un o’n sesiynau galw heibio
- Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.
Dilynwch ni