Tai preifat

Os ydych chi’n rhentu eich cartref gan landlord preifat yn Sir Ddinbych, ein swyddogaeth ni ydy sicrhau bod safon y tŷ yn dderbyniol.

Lleithder a llwydni

Mae lleithder a thyfiant llwydni yn cael ei achosi gan ormod o wlybaniaeth, a all fod yn waeth mewn tywydd oer oherwydd diffyg gwres a’r modd i awyru. Er mwyn lleihau lleithder a thyfiant llwydni yn eich cartref, gallwch wneud y canlynol:

  • cadw’r gwres ymlaen yn isel ac osgoi gwresogi un ystafell yn unig
  • sicrhau bod ffaniau echdynnu yn cael eu defnyddio a bod ffenestri ar agor wrth ymolchi/cael cawod a choginio.
  • gwella’r modd o awyru drwy agor ffenestri am gyfnod byr bob bore i gael gwared ar y gwlybaniaeth sydd wedi cronni dros nos
  • cael gwared ar anwedd a gwlybaniaeth o ffenestri ac arwynebau cyn gynted ag y mae'n ymddangos
  • ceisio osgoi sychu dillad ar reiddiaduron neu wresogyddion
  • cadw bwlch bach rhwng dodrefn mawr a’r wal er mwyn caniatáu i aer gylchredeg

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am leithder a llwydni o lyfrgell adnoddau Rhentu Doeth Cymru (gwefan allanol)

Gwasanaethau a gwybodaeth

Cynllun Lesio Cymru

Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i chi brydlesu eich eiddo i ni er mwyn cael incwm rhent misol wedi’i warantu, a hynny’n ddidrafferth.

Cyngor i'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf

Gwybodaeth a chyngor sut i gael troedle ar yr ysgol prynu eiddo.

Cymorth â dyledion morgais neu ddyledion rhent

Poeni am dalu eich morgais neu eich rhent? Dyma amrywiaeth o ffyrdd i gael cymorth.

Gwybodaeth i landlordiaid

Yr hyn mae’n ofynnol i chi ei wybod ynghylch bod yn landlord, yn cynnwys Rent Smart Wales.

Gwybodaeth i denantiaid

Eich hawliau a'ch cyfrifoldebau chi fel tenant.

Tai aml-feddiannaeth

Gwybodaeth am dai aml-feddiannaeth a thrwyddedu tai aml-feddiannaeth.

Safonau tai preifat

Beth i'w ddisgwyl yn eich cartref newydd.

TPAS Cymru (gwefan allanol)

Mae TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) yn gweithio gyda Landlordiaid a Thenantiaid yng Nghymru i helpu i lunio gwasanaethau tai.