Rhybudd o ddigwyddiad dros dro

Mae’n rhaid i chi ymgeisio am rybudd o ddigwyddiad dros dro (TEN) os oes arnoch chi eisiau cynnal digwyddiad arbennig, fel cyngerdd neu barti stryd, lle byddwch chi’n: 

Mae'n rhaid i chi hefyd wirio:

  • os oes angen arnoch ganiatâd arall, megis caniatâd gan berchennog y tir i ddefnyddio’r safle.
  • os oes cyfyngiadau eraill, megis cyfyngiadau ar ganiatâd cynllunio neu gyfyngiadau ar eich prydles.
  • ni fydd y Rhybudd Digwyddiad Dros Dro yn diystyru’r caniatâd yma ac mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda phob cyfyngiad.

Sut ydw i'n gwneud cais?

Mae'n rhaid i chi ymgeisio am Rybudd Digwyddiad Dros Dro safonol dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad.

Mae hi’n bosibl gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad, ond ni fydd modd i chi apelio yn erbyn y penderfyniad os caiff eich cais hwyr ei wrthod.

Nid yw diwrnodau gwaith clir yn cynnwys y diwrnod yr ydym yn derbyn eich cais na diwrnod y digwyddiad.

I gael y canllaw llawn, ewch i'n GOV.UK (gwfan allanol).

Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed i wneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro.

Gallwch chi wneud cais am rybudd o ddigwyddiad dros dro ar-lein.

Gwneud cais am rybudd o ddigwyddiad dros dro ar-lein (gwefan allanol)

Faint mae'n costio?

Mae’n costio £21 i wneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro safonol a hwyr.

Pan fyddwch chi’n ymgeisio ar-lein byddwch yn talu ar-lein yn defnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Cadwch eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man diogel yn y digwyddiad.
  • Mae'n rhaid i chi arddangos copi o’r Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man amlwg yn yr eiddo.

Os ydych chi’n gwneud cais ar-lein fe fyddwn i’n anfon copi o’ch Rhybudd ymlaen at yr Awdurdodau Cyfrifol ar eich rhan.

Os ydych chi’n gwneud cais drwy’r post, mae’n rhaid i chi anfon copi o’r Rhybudd i Awdurdod Trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru.

Awdurdodau Cyfrifol: Rhybudd digwyddiad dros dro

Heddlu - Rheolwr Trwyddedu Conwy a Sir Ddinbych


Iechyd yr Amgylchedd, Rheoli Llygredd


Yr Awdurdod Trwyddedu


Deddfwriaeth

Deddf Trwyddedu 2003 (gwefan allanol).