Trosglwyddo trwydded eiddo

I drosglwyddo trwydded eiddo mae’n rhaid i chi wneud cais ffurfiol i ddiwygio'r drwydded a chael caniatâd ysgrifenedig deiliad presennol y drwydded i drosglwyddo’r drwydded i chi.

Bydd yn rhaid i chi gael caniatâd pob deiliad trwydded os oes mwy nag un.

Ni allwch drosglwyddo trwydded eiddo i safle arall, gallwch drosglwyddo trwydded safle o un deiliad trwydded i un arall yn unig.

Gwneud cais i drosglwyddo trwydded eiddo

Gallwch wneud cais i drosglwyddo trwydded eiddo ar-lein yn GOV.UK.

Gwneud cais ar-lein i drosglwyddo trwydded (gwefan allanol) 

Cyfnod gwneud sylw

Ar ôl i’r awdurdod trwyddedu dderbyn y cais, mae gan yr Heddlu a’r Swyddfa Gartref 14 diwrnod i wrthwynebu’r trosglwyddiad. Os na dderbynnir gwrthwynebiad, bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo a byddwch yn derbyn y drwydded eiddo ddiwygiedig yn y post.

Os ceir gwrthwynebiad, byddwn yn cysylltu â chi.

Fe allwch chi hefyd ofyn bod eich cais yn dod i rym ar unwaith, a fyddai’n caniatáu i unrhyw newid arfaethedig ddod i rym yn ystod y cyfnod gwneud sylw.

Faint mae’n costio?

Mae trosglwyddo trwydded eiddo yn costio £23.

Sut i dalu

Bydd yn rhaid i chi dalu wrth wneud cais ar GOV.UK. 

Peiriannau gemau

Os oes peiriannau gemau yn yr eiddo yr ydych chi’n bwriadu eu cadw, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch chi’n gwneud cais i drosglwyddo’r drwydded eiddo.

Mae’r dull o roi gwybod i ni yn dibynnu ar nifer y peiriannau gemau sydd gennych chi.

  • Ar gyfer un neu ddau o beiriannau gemau, fe allwch chi lenwi ffurflen hysbysu 2 neu lai
  • Ar gyfer tri neu fwy o beiriannau gemau, bydd yn rhaid i chi wneud cais i drosglwyddo caniatâd peiriannau gemau’r drwydded eiddo.

Mwy o wybodaeth am beiriannau gemau.

Mwy wybodaeth

Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu.

Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 1MB)