Cyflwyniad i'r Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig i ymarferwyr ac eiddo a ddaeth i rym ddydd Gwener 29 Tachwedd 2024.

O fewn y Rheoliadau fe fydd yna ofynion/amodau gorfodol yn rhan o’r cynllun i ymarferwyr ac eiddo/cerbydau.

Mae’r wybodaeth hon yn destun newid, ac yn seiliedig ar y cynigion a’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Triniaethau arbennig sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun trwyddedu newydd 

Bydd y cynllun newydd ond yn berthnasol i driniaethau arbennig, a ddiffinnir yn Adran 57 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac sy’n cynnwys:

  • Aciwbigo (gan gynnwys anghenion sych)
  • Tyllu rhannau o’r corff
  • Electrolysis
  • Tatŵio (gan gynnwys colur rhannol barhaol / microlafnu)

Bydd y gofynion cyfreithiol cyfredol a’r wybodaeth sydd wedi’i nodi ar y dudalen hon yn parhau mewn grym nes bydd y cynllun trwyddedu newydd yn dod i rym.

Mae’n rhaid i gofrestriadau newydd dan y cynllun cofrestru cyfredol barhau i gael eu gwneud yn gyfreithlon cyn y daw’r cynllun newydd i rym.

Darganfyddwch sut i gofrestru os hoffech chi wneud triniaethau personol yn Sir Ddinbych.

Ymarferwyr

Yn ôl y Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig fe fydd yn rhaid i ymarferwyr sydd yn gwneud unrhyw driniaeth arbennig ar rywun arall yng Nghymru fod â thrwydded.

Cyfeirir at y drwydded fel ‘Trwydded Triniaethau Arbennig’.

Dysgu mwy am Drwyddedau Triniaethau Arbennig

Eiddo a Cherbydau

Bydd angen i eiddo/cerbydau y bydd ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo gyda ‘Thystysgrif Safle Cymeradwy’.

Dysgu mwy am Dystysgrifau Safle Cymeradwy

Amserlenni

Disgwylir iddo ddod i rym ddydd Gwener 29 Tachwedd 2024.  Mae hyn yn amodol ar ganlyniad a phroses gwneud penderfyniadau y Senedd.

Further guidance

Bydd gwybodaeth am y canllaw’n cael ei gyhoeddi pan bydd ar gael.

Llywodraeth Cymru

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau anstatudol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig, a fydd yn darparu:

  • gwybodaeth fanwl am ofynion y cynllun trwyddedu
  • sut i wneud cais am drwydded a thystysgrif gymeradwyaeth
  • sut i gydymffurfio â’r drwydded ac amodau cymeradwyo
  • pwerau gorfodi sydd ar gael i’r awdurdod lleol

Gwefannau cysylltiedig:

Triniaethau arbennig (aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio): gweithredu (gwefan allanol)

Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi’r Canllawiau Atal a Rheoli Haint ar gyfer Triniaethau Arbennig yng Nghymru, a fydd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau pellach ar fesurau Atal a Rheoli Haint a sut gellir eu defnyddio yn y sector triniaethau arbennig.