Gallwch waredu pecynnau cardbord yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:
Gwasanaeth Trolibocs
-
y bag glas amldro
-
Gwasanaeth bagiau
-
y bag glas amldro
-
Gwasanaeth biniau cymunedol
-
y bin du gyda sticer glas.
-
Canllawiau
Dylech falu bocsys cardbord mawr yn ddarnau dim mwy nag 1 fetr sgwâr (1m2).
Byddwn yn mynd â chardbord ychwanegol os yw’n cael ei roi wrth eich bag glas, ond os oes gennych chi lawer o gardbord ychwanegol, ewch ag o i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff.
Gofalwch eich bod yn tynnu unrhyw becynnau plastig, y rhan fwyaf o’r tâp ac unrhyw fandiau.
Mwy o wybodaeth
Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.
Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.
Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.