Beth ddylwn i ei wneud ag oergelloedd a rhewgelloedd?
Mae’n rhaid i fanwerthwyr nwyddau trydanol ddarparu ffordd i chi i waredu hen gyfarpar trydanol ac electronig y cartref pan fyddwch yn prynu fersiwn newydd o’r un eitem. Mae hyn yn cynnwys manwerthwyr ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau manwerthwyr a dosbarthwyr ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).
Fel arall, gellir ailgylchu’r rhain gydag eitemau trydanol mewn Canolfannau Ailgylchu. Os ydynt yn gweithio, efallai bydd eich eitemau yn addas i gael eu hailddefnyddio.
Gallwch ailgylchu offer trydanol yn eich Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.
Fel arall, gallwch drefnu casgliad eitem swmpus ar gyfer yr eitem hon.