Cymorth â Chostau Byw: Pobl sydd wedi colli anwylyd 

Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu pobl sydd wedi colli anwylyd gyda chostau byw.

Gwasanaethau a gwybodaeth

Cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor

Efallai y bydd gennych yr hawl i ostyngiad ar eich treth cyngor, yn ddibynnol ar eich incwm.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n cefnogi pobl o oedran gwaith sydd naill ai ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Cael help gyda chostau angladd (gwefan allanol)

Gallech gael Taliad Costau Angladd (a elwir hefyd yn Daliad Angladd) os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac mae angen help arnoch i dalu am angladd rydych yn ei drefnu.

Credyd Pensiwn (gwefan allanol)

Mae Credyd Pensiwn yn darparu arian ychwanegol i helpu gyda chostau byw i bobl dros oed Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel.

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cyngor am ddim, cyfrinachol a diduedd ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Cyfrifiannell budd-daliadau (gwefan allanol)

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol a dienw am ddim i wirio pa gymorth ariannol y gallech fod yn gymwys iddo.

Cymorth gyda biliau tŷ a chludiant

Gwybodaeth am y gymorth ar gael gyda biliau tŷ a chludiant.

Cofrestru marwolaeth

Gwybod mwy am bwy a all gofrestru marwolaeth a sut.