Talu ardrethi busnes

Bydd arnoch angen eich rhif cyfeirnod sy’n naw digid, yn dechrau efo dau ac sydd yn y gornel dde uchaf ar unrhyw ohebiaeth a anfonwyd gan yr adran ardrethi busnes. 

Os byddwch yn talu ag arian parod/cerdyn/siec, dylech wneud y taliadau ar y dyddiadau dyledus a nodir ar eich bil neu gyn hynny. Gall methu â gwneud hynny olygu camau adennill yn eich erbyn. 

Ar-lein

Os oes gennych chi’ch rhif cyfeirnod, gallwch wneud taliad ar-lein gan ddefnyddio eich cerdyn debyd/credyd. Rydyn ni’n derbyn y cardiau canlynol;

  • Visa Credit
  • Visa Debit
  • UK Maestro
  • International Maestro
  • Mastercard
  • Solo
  • Electron
  • JCB

Gwneud taliad ar-lein

Debyd uniongyrchol

Mae talu â debyd uniongyrchol yn saff ac yn hawdd. Gallwch ddewis un o bedwar dyddiad talu:

  • 4ydd
  • 15fed
  • 22ain
  • 30ain 

(Sylwch: bydd taliadau misol SYDD DDIM ar ddebyd uniongyrchol yn ddyledus ar y 5ed fel rheol) 

Sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu eich trethi busnes

Gallwch drefnu talu trwy Ddebyd Uniongyrchol dros y ffôn gyda’n tîm trethi busnes.Fel arall, gallwch lenwi a dychwelyd ffurflen Debyd Uniongyrchol.

Ffurflen Debyd Uniongyrchol (PDF, 158KB)

Cerdyn debyd/credyd

Gellir talu â cherdyn debyd/credyd drwy ddefnyddio’r rhif cyfeirnod yn y swyddfa arian, ar y ffôn neu i’r arianwyr/adran ardrethi busnes neu ar y lein dalu awtomataidd 24 awr ar 0300 4562 499 

Arian parod/siec

Gallwch dalu ag arian parod yn unrhyw Siop Un Alwad yn Sir Ddinbych. Dim ond eich rhif cyfeirnod sydd ei angen. Gallwch dalu ag arian parod mewn swyddfa bost neu bwynt talu gan ddefnyddio’r cod bar ar eich bil. 

Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Ddinbych efo’ch rhif cyfeirnod ar y cefn a’u hanfon at yr Siop Un Alwad Y Rhyl, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl, LL18 3AA.

Archeb Sefydlog

Gallwch sefydlu archeb sefydlog efo’ch banc gan ddefnyddio ein cod didoli a rhif cyfrif. Trefnwch i’r taliad gael ei anfon 5 diwrnod cyn y dyddiad y mae eich rhandaliad yn ddyledus i ganiatáu digon o amser i’r taliad gyrraedd eich cyfri. Ein manylion ydi; 

  • Cod didoli: 54-41-06 
  • Rhif cyfri: 22837469