Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol:  Rhyl, Prestatyn a Dinbych - cwestiynau cyffredin


Gallwch danysgrifio i’n rhestr bostio os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf ar brosiectau Balchder Bro a'r Amgylchedd Naturiol.

Darganfod mwy am y rhestr bostio Balchder Bro a'r Amgylchedd Naturiol: Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Beth yw'r Gronfa Ffyniant Bro?

Ariennir y prosiectau hyn gan Lywodraeth y DU trwy ei raglen Gyllid Ffyniant Bro gyda’r bwriad o gefnogi blaenoriaethau buddsoddi lleol o werth uchel, gan gynnwys cynlluniau cludiant lleol, prosiectau adfywio trefol ac asedau diwylliannol.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am Rownd 3 Gronfa Ffyniant Bro ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).

Yn ôl i'r brig


Pam dewis y Rhyl, Prestatyn a Dinbych?

Gwahoddodd Llywodraeth y DU geisiadau yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth. Cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych geisiadau ar gyfer pob ardal etholaeth, cyn y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn 2025.

Mae rhagor o wybodaeth am y ceisiadau a gyflwynwyd ar ein gwefan.

Yn ôl i'r brig


Be' fydd y cyllid yn ei wneud ar gyfer fy ardal i?

Bydd yr arian Ffyniant Bro yn helpu i ddarparu prosiectau a fydd yn mynd i’r afael ag amddifadedd hirsefydlog yn Sir Ddinbych trwy Falchder Dro a’r Amgylchedd Naturiol.

Nod y cais yw darparu prosiectau dan 3 thema:

  • Diwylliant
  • Adfywio a Chanol y Dref
  • Cludiant

Yn ôl i'r brig


Sut gafodd y prosiectau eu dewis?

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro gwahoddodd Cyngor Sir Ddinbych gynigion am brosiectau gan aelodau etholedig, AS, Cynghorau Tref a Chymuned a swyddogion CSDd.

Dewiswyd y prosiectau ar gyfer y cais terfynol ar y sail eu bod yn rhai y byddai modd eu darparu, yn cael dylanwad ac yn yn cwrdd â meini prawf y Gronfa Ffyniant Bro.

Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y rhestr derfynol o brosiectau i’w cynnwys yn y cais ar 14 Rhagfyr 2021. Mae’r adroddiad a chofnodion y cyfarfod i’w gweld a wefan y Cyngor.

Yn ôl i'r brig


Pwy gymeradwyodd y cais hwn?

Cymeradwyodd Llywodraeth y DU y cais yn dilyn proses werthuso eang a oedd yn ystyried y gallu i ddarparu'r prosiectau a'u heffaith.

Mae rhestr lawn o'r ceisiadau llwyddiannus i'w gweld ar wefan Llywodraeth y DU.

Yn ôl i'r brig


Mae gen i ddiddordeb mewn grant ar gyfer fy mhrosiect. Allwch chi helpu?

Dyfarnwyd y cyllid hwn i ddarparu’r gyfres gytunedig o brosiectau sydd yn y cais hwn.

Nid yw'n bosibl defnyddio'r grant i ariannu prosiectau eraill.

Mae'n bosibl bod cyllid arall ar gael a fyddai’n addas ar gyfer eich prosiect chi. Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan:

Yn ôl i'r brig


Oni fyddai'n well defnyddio'r arian ar wasanaethau eraill?

Pennodd Llywodraeth y DU feini prawf penodol ar gyfer y mathau o brosiectau y byddai’n eu hariannu drwy’r rhaglen ariannu hon.

Dim ond ar brosiectau a gymeradwywyd y gellir gwario’r arian.

Gellir gweld rhagor o fanylion ar wefan GOV.UK (gwefan allanol)

Yn ôl i'r brig


Pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r prosiectau?

Cyngor Sir Ddinbych wnaeth y cais am gyllid a'r Cyngor yw'r corff atebol.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu 6 o'r 7 prosiect, gyda chyn Ysbyty Gogledd Cymru yn cael ei ddarparu trwy bartner datblygu a gytunwyd.

Cewch ragor o fanylion ar ein gwefan.

Yn ôl i'r brig


Lle alla' i gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau?

Mae crynodeb o bob prosiect ar gael ar ein gwefan.

Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru wrth i ragor o fanylion am y prosiectau ddod i law.

Bydd unrhyw ddigwyddiadau’n cael eu diweddaru ar wefan a safleoedd cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Cofrestru ar gyfer y Newyddlen: Balchder Bro a'r Amgylchedd Naturiol: Rhyl, Prestatyn a Dinbych - rhestr bostio.

Yn ôl i'r brig


Fydd y gwaith sydd wedi'i gynllunio'n garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

Mae'r Cyngor wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn ddi-garbon erbyn 2030.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar ein gwefan. Bydd yr effeithiau carbon felly’n ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a darparu’r prosiectau.

Yn ôl i'r brig


Pa ystyriaeth a roddwyd i fioamrywiaeth ac ecoleg?

Mae ar y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau cydymffurfiaeth â, ac i orfodi'r Rheoliadau Cynefinoedd (fel y'i diwygiwyd yn 2017). Yn ogystal, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gofyn bod y Cyngor yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth ac yn hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.

Bydd bioamrywiaeth ac ecoleg felly'n ystyriaethau allweddol wrth ddylunio a darparu'r prosiectau.

Mae gwbodaeth am Strategaeth yr Hinsawdd ac Ecolegol ar gael ar ein gwefan.

Yn ôl i'r brig


Ydych chi’n ymwybodol o’r bywyd gwyllt yn yr ardal?

Mae'n rhaid i'n holl brosiectau ystyried goblygiadau ecolegol y gwaith sydd wedi'i gynllunio a bydd unrhyw arolygon ecolegol angenrheidiol yn cael eu cynnal. Bydd y gwaith y gellir ei wneud, a sut y caiff ei wneud, yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolygon hyn.

Yn ôl i'r brig


Pryd fyddwn ni'n dechrau gweld pethau'n digwydd?

Ychydig iawn fydd i’w weld i ddechrau gan fod llawer o waith i’w wneud o hyd i gwblhau’r arolygon angenrheidiol, datblygu dyluniadau a chynnal ymgysylltiad cyhoeddus, cyn penderfynu’n derfynol ar unrhyw ddyluniad a chael y caniatâd angenrheidiol ar gyfer y prosiectau.

Bydd amserlenni’n amrywio’n dibynnu ar natur bob prosiect. Byddwn yn diweddaru gwefan y Cyngor ac yn defnyddio amrywiol sianelau cyfathrebu i roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd o ran cyfleoedd ymgysylltu a chynnydd.

Yn ôl i'r brig


Mae llawer o brosiectau yn y Rhyl, a fydd yn digwydd ar yr un pryd. Fydd hyn tarfu ar fynd a dod arferol yng nghanol y dref?

Mae’n anorfod y bydd rhywfaint o darfu ar fynd a dod yn y dref oherwydd natur y gwaith. Bydd gwaith adeiladu’n cael ei gynllunio’n ofalus i gadw unrhyw anghyfleustra i’r isafswm a bydd hysbysiad ynghylch yr hyn sydd i ddigwydd yn cael ei ddosbarthu i breswylwyr a busnesau ymlaen llaw.

Yn ôl i'r brig


Sut wnewch chi roi gwybod i bobl beth sy'n digwydd?

Bydd gwybodaeth am y prosiectau wrth iddynt ddatblygu ar gael ar wefan y Cyngor:

Gan fod Cyngor Sir Ddinbych yn anelu at fod yn Ddi-garbon erbyn 2030, mae'n rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn ymgysylltu â phawb er mwyn osgoi argraffu gormod o ddogfennau.

Yn ôl i'r brig


Cynnal digwyddiad yn ein lleoliadau prosiect

Mae ein tudalen cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych yn cynnwys ffurflen ar-lein er mwyn rhannu manylion unrhyw ddigwyddiadau rydych chi’n eu trefnu. Wrth roi gwybod i’r Cyngor am eich digwyddiad, gallwn roi gwybod i chi a fydd gwaith ar unrhyw un o’n prosiectau yn debygol o effeithio arno.

Yn ôl i'r brig