Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: trosolwg
Cyflwynwyd cais am gyllid ar gyfer prosiectau o fewn hen etholaeth Dyffryn Clwyd ochr yn ochr â chais ar gyfer hen etholaeth Gorllewin Clwyd ym mis Awst 2022.
Cyfrannwyd at y prosiectau a oedd wedi eu cynnwys yn y cynigion gan Aelodau, Aelodau Seneddol, Cynghorau Tref a Swyddogion ar draws Sir Ddinbych. Roedd y prosiectau cymwys yn gyflawnadwy, yn ddylanwadol ac yn cyflawni meini prawf y Gronfa Ffyniant Bro. Bu i ymgynghoriad pellach gyda Grwpiau Ardal Aelodau y Cyngor ac Uwch Arweinyddiaeth arwain at y prosiectau terfynol yn y cynnig, a gymeradwywyd gan y Cabinet.
Nid oedd y cais yn llwyddiannus yn 2022.
Ond, bu i Lywodraeth y DU adolygu’r holl geisiadau a gyflwynwyd a dyfarnwyd rownd bellach o gyllid i’r ceisiadau a oedd wedi sgorio’n uchel yn erbyn y meini prawf. Cafodd Cyngor Sir Ddinbych wybod bod ychydig yn llai na £20M o gyllid Llywodraeth y DU wedi’i ddyfarnu ar gyfer y cais am brosiectau yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Bu rhywfaint o oedi o ran cadarnhau’r cyllid, ond, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael gwybod yn awr y bydd Llywodraeth y DU yn symud ymlaen â chymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer y grant.
Pan fydd y broses wedi’i chwblhau mae Cyngor Sir Ddinbych yn disgwyl recriwtio timau prosiect a dechrau’r camau nesaf yn natblygiad y prosiect. Bydd rhagor o wybodaeth ac amserlenni dangosol yn cael eu cyhoeddi pan fyddant ar gael.
Cysylltu â ni
Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.