Clwb ieuenctid Dinbych

Mynd yn syth i:

Denbigh Hwb

Oriau agor

Dydd Mercher 6pm tan 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac 8.

Dydd Iau 6pm tan 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Sesiwn iau

Chwefror 2025

Chwefror 2025

5 Chwefror: Paned a sgwrs

Fe fydd aelodau o dîm Archif y Cyngor yn ymweld â ni i ddysgu mwy am beth ydi’r Archif a beth y gall prosiectau yn y dyfodol ei olygu i bobl ifanc.


12 Chwefror: Crefftau Diwrnod Sant Ffolant

Gyda Diwrnod Sant Ffolant yn agosáu, fe fydd gennym ddetholiad o grefftau a deunyddiau i greu anrhegion i rywun arbennig yn eich bywyd.


19 Chwefror: Dweud eich dweud!

Mae sesiwn heno ar eich cyfer chi!! Rydym eisiau gwybod pa sesiynau a gweithgareddau yr hoffech chi i ni eu trefnu ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Fe fydd gan y tîm gyllideb i chi, ac fe fyddant yn eich cefnogi i lunio rhaglen clwb ieuenctid.

Mawrth 2025

Mawrth 2025

5 Mawrth: Noson gwis a diwrnod crempog

Gyda gêm Yr Alban ar y dydd Sadwrn canlynol, bydd noson gwis y Chwe Gwlad i’r bobl ifanc ar y thema ‘popeth yn ymwneud â’r Alban’.

Cyfle i wneud crempogau i ddathlu Dydd Mawrth Ynyd.

Ar gyfer Diwrnod Datgysylltu Byd-eang bydd pobl ifanc yn trafod y syniad o gael seibiant o dechnoleg a dod o hyd i gydbwysedd iach ar gyfer technoleg yn eu bywydau.


12 Mawrth: Noson gwis a paned a sgwrs

Gyda gêm Lloegr ar y dydd Sadwrn canlynol, bydd noson gwis y Chwe Gwlad i’r bobl ifanc ar y thema ‘popeth yn ymwneud â’r Lloegr’.

Y testun ar gyfer trafodaeth: digartrefedd ieuenctid.


19 Mawrth: Diwrnod Ailgylchu Byd-eang

Bydd pobl ifanc yn archwilio pwnc ailgylchu ac:

  • yn trafod a all Sir Ddinbych wneud yn well
  • ystyried gwastraff bwyd a gweld beth allwn ni ei wneud gan ddefnyddio cynhwysion o’r cynllun Rhannu Bwyd
  • gwneud arwydd ar gyfer y clwb ieuenctid gan ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu

26 Mawrth: Sul y Mamau a Diwrnod Theatr y Byd

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn noson ffilm a phopcorn, yn ogystal â chrefftau Sul y Mamau.

Sesiwn hŷn

Chwefror 2025

Chwefror 2025

6 Chwefror: Paned a sgwrs

Fe fydd aelodau o dîm Archif y Cyngor yn ymweld â ni i ddysgu mwy am beth ydi’r Archif a beth y gall prosiectau yn y dyfodol ei olygu i bobl ifanc.


13 Chwefror: Crefftau Diwrnod Sant Ffolant

Gyda Diwrnod Sant Ffolant yn agosáu, fe fydd gennym ddetholiad o grefftau a deunyddiau i greu anrhegion i rywun arbennig yn eich bywyd.


20 Chwefror: Dweud eich dweud!

Mae sesiwn heno ar eich cyfer chi!! Rydym eisiau gwybod pa sesiynau a gweithgareddau yr hoffech chi i ni eu trefnu ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Fe fydd gan y tîm gyllideb i chi, ac fe fyddant yn eich cefnogi i lunio rhaglen clwb ieuenctid.

Mawrth 2025

Mawrth 2025

6 Mawrth: Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd

Bydd pobl ifanc yn siarad mewn grwpiau am eu gobeithion a’u cynlluniau, p’un ai a ydynt yn yr ysgol, y coleg neu’n chwilio am waith.


13 Mawrth: Cystadleuaeth bŵl rhwng y clybiau

Cystadleuaeth bŵl lle bydd yr enillydd yn ennill y cyfan!


20 Mawrth: Noson gwis

Cyfle i bobl ifanc brofi eu gwybodaeth gyffredinol, eu cof a’u sgiliau datrys problemau.


27 Mawrth: Gwneud pitsas

Bydd pobl ifanc yn gwneud pitsas gyda’u hoff gynhwysion i’w bwyta yn y clwb neu i fynd â nhw adref.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Clwb ieuenctid Dinbych (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda Clwb ieuenctid Dinbych (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Playstation
  • Cegin
  • Deunyddiau celf a chrefft

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Andrew Williams ydi Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ardal Dinbych a Rhuthun. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo fo wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Clwb ieuenctid Dinbych
HWB Dinbych
Smithfield Road
Dinbych
LL16 3UW

Cysylltwch â clwb ieuenctid Dinbychh arlein

Ffôn: 01824 703820

Rhif ffôn symudol Andrew Willams: 07833 255607

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.