Clwb ieuenctid Dinbych

Mynd yn syth i:

Denbigh Hwb

Oriau agor

Dydd Mercher 6pm tan 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac 8.

Dydd Iau 6pm tan 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Sesiwn iau

Ebrill 2025

Ebrill 2025

2 Ebrill: Twrnamaint gemau

Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiol gemau, gan gynnwys pŵl a ping pong.


9 Ebrill: Helfa Wyau Pasg

Yr wythnos hon byddwn yn dathlu’r Pasg gyda helfa wyau!.


16 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


23 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


30 Ebrill: Croeso’n ôl ar ôl gwyliau’r Pasg

Cyfle i gael paned a dal i fyny gyda phobl ifanc am eu gwyliau Pasg a sut mae nhw yn gyffredinol.

Mai 2025

Mai 2025

7 Mai: Mis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo lles.


14 Mai: Bwyta'n iach

Her siwgr - bydd pobl ifanc yn cael eu herio i ddyfalu faint o siwgr sydd mewn gwahanol fwydydd a diodydd.


21 Mai: Noson gwis

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cwis gyda gwobr ar y diwedd!


28 Mai: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mehefin 2025

Mehefin 2025

4 Mehefin: Mis Pride

Bydd gennym sesiwn ymwybyddiaeth LHDTC+ a gweithgareddau celf a chrefft i ddathlu mis Pride.


11 Mehefin: Celf a chrefft

Crefftau i ddathlu Sul y Tadau.


18 Mehefin: Paned a sgwrs

Sgwrs gyda phobl ifanc am beth hoffent ei wneud yn y chwarter nesaf.


25 Mehefin: Pobi

Cystadleuaeth ble fydd y bobl ifanc yn gwneud ac addurno cacennau bach.

Sesiwn hŷn

Ebrill 2025

Ebrill 2025

3 Ebrill: Paned a sgwrs

Cyfle i bobl ifanc gael paned a bisgedi a thrafod gyda’r Tîm Gwaith Ieuenctid unrhyw bryderon neu syniadau sydd ganddynt yr hoffent ddod â nhw i’r clwb.


10 Ebrill: Sesiwn coginio a bwyta

Cyfle i bobl ifanc helpu i baratoi, coginio a bwyta cibabs cyw iâr.


17 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


24 Ebrill: Gwyliau’r Pasg

Ar gau dros y Pasg - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mai 2025

Mai 2025

1 Mai: Prosiect (wythnos 1)

Ymweliad gan staff o Brosiect Ieuenctid Sir Ddinbych i gynnig cymorth a chyngor gydag ysgrifennu CV, ymgeisio am swyddi a dod o hyd i hyfforddiant.


8 Mai: Prosiect (wythnos 2)

Bydd Prosiect Ieuenctid Dinbych yn ymuno â ni eto, y tro hwn i edrych ar fwyta’n iach ac i wneud smwddis ffrwythau.


15 Mai: Prosiect (wythnos 3)

Bydd ein hymweliad olaf gan Brosiect Ieuenctid Dinbych yn edrych ar fwyta o fewn cyllideb.


22 Mai: Paned a sgwrs

Sesiwn grefftau a thrafodaeth i edrych ar beth mae teulu yn ei olygu i ni a phwysigrwydd cyfeillgarwch a chefnogi eraill.


29 Mai: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mehefin 2025

Mehefin 2025

4 Mehefin: Noson gwis

Cwis llawn hwyl gyda siocled poeth.


11 Mehefin: Noson gemau

Cyfle i bobl ifanc herio ei gilydd ar wahanol gonsolau ac amrywiaeth o gemau.


18 Mehefin: Parti pitsa

Cyfle i bobl ifanc ddod ynghyd i helpu i baratoi, coginio a bwyta pitsas.


25 Mehefin: Paned a sgwrs

Cyfle i bobl ifanc gael paned a bisgedi a thrafod gyda’r Tîm Gwaith Ieuenctid unrhyw bryderon neu syniadau sydd ganddynt yr hoffent ddod â nhw i’r clwb.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Clwb ieuenctid Dinbych (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda Clwb ieuenctid Dinbych (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Playstation
  • Cegin
  • Deunyddiau celf a chrefft

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Andrew Williams ydi Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ardal Dinbych a Rhuthun. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo fo wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Clwb ieuenctid Dinbych
HWB Dinbych
Smithfield Road
Dinbych
LL16 3UW

Cysylltwch â clwb ieuenctid Dinbychh arlein

Ffôn: 01824 703820

Rhif ffôn symudol Andrew Willams: 07833 255607

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.