Defnyddio eich llyfrgell

Ymuno â’r llyfrgell

Gallwch ymuno ar-lein neu drwy ymweld â’ch llyfrgell leol.

Os ydych chi’n ymuno ar-lein, gallwch gael mynediad at e-Lyfrau, e-Lyfrau Sain, cylchgronau, papurau newydd, ac adnoddau ar-lein ar unwaith.

P’un a ydych yn ymuno ar-lein neu wyneb yn wyneb, bydd yn rhaid i chi ymweld â’ch llyfrgell leol a dod â rhyw fath o gerdyn adnabod gyda’ch enw a’ch cyfeiriad arno gyda chi i dderbyn eich cerdyn aelodaeth llyfrgell.

Gallwch ymuno yn rhad ac am ddim, ond mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am gerdyn newydd os byddwch yn ei golli.

Benthyg Llyfrau

Bydd arnoch chi angen eich cerdyn llyfrgell i fenthyg llyfr. Unwaith y byddwch wedi dewis eich llyfrau, ewch â nhw at y ddesg yn y llyfrgell a rhowch eich cerdyn llyfrgell i aelod o staff. Mae gan rai o’n llyfrgelloedd orsafoedd hunanwasanaeth sy’n eich galluogi i fenthyg a dychwelyd llyfrau eich hunain. Gofynnwch i aelod o staff ddangos i chi sut i’w defnyddio.

Faint o lyfrau allaf eu benthyg?

Gallwch fenthyg hyd at 20 o lyfrau gyda’ch cerdyn llyfrgell. Gallwch hefyd ddefnyddio eich aelodaeth llyfrgell i lawrlwytho hyd at 10 o e-Lyfrau ac E-Lyfrau Sain ar Borrowbox.

A ydw i’n gallu dychwelyd llyfr i lyfrgell arall?

Os na fedrwch chi gyrraedd eich llyfrgell leol, gallwch ddychwelyd llyfrau i unrhyw lyfrgell gyhoeddus yng ngogledd Cymru.

A godir unrhyw ffioedd am ddychwelyd llyfrau’n hwyr?

Nid chodir unrhyw ffioedd am ddychwelyd llyfrau’n hwyr, fodd bynnag, bydd gofyn i chi dalu am y gost o brynu llyfr newydd os nad ydych yn ei ddychwelyd o fewn 12 wythnos. Byddwch yn derbyn yr arian hwn yn ôl unwaith y bydd y llyfr wedi’i ddychwelyd.

A allaf adnewyddu llyfr?

Gallwch adnewyddu eitemau hyd at ddeg gwaith mewn unrhyw gangen neu ar-lein drwy gatalog ar-lein y Gwasanaeth Llyfrgell, gyda’ch rhif cerdyn llyfrgell a’ch PIN. Gallwch adnewyddu eitemau dros y ffôn yn ystod oriau agor, sicrhewch fod gennych eich cerdyn llyfrgell wrth law. Os oes rhywun arall wedi cadw eitem yr ydych chi wedi’i fenthyg, ni fydd modd i chi ei adnewyddu.

Sut ydw i’n cael PIN?

Os yw eich cyfrif benthyciwr yn cynnwys cyfeiriad e-bost, gallwch ofyn am PIN newydd drwy ein catalog ar-lein. Fel arall, gallwch gysylltu ag un o’n llyfrgelloedd, neu anfon e-bost atom ni. Bydd gofyn i chi gadarnhau manylion personol megis dyddiad geni neu gyfeiriad eich cartref.

Beth os nad yw’r llyfr sydd ei eisiau arnaf yn fy llyfrgell leol?

Fel aelod o lyfrgelloedd Sir Ddinbych, gallwch fenthyg llyfrau o unrhyw lyfrgell gyhoeddus yng ngogledd Cymru a’u casglu o’ch llyfrgell leol yn rhad ac am ddim. Gallwch wneud cais am lyfrau drwy’r catalog ar-lein 24/7 neu drwy eich llyfrgell leol.

Beth os na allaf gyrraedd y llyfrgell?

Os na allwch gyrraedd y llyfrgell yn sgil salwch, anabledd neu gyfrifoldebau gofalu, gall ein Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref ddanfon llyfrau i chi. Cysylltwch â Llyfrgell Rhuthun ar 01824 705274.

Beth arall allaf ei wneud yn y llyfrgell?

Argraffu yn y llyfrgell

Gallwch argraffu’n uniongyrchol o’ch dyfais gan ddefnyddio ein cyfleuster argraffu cwmwl, neu gallwch fewngofnodi ar un o’n cyfrifiaduron cyhoeddus. Byddwch angen eich rhif cerdyn llyfrgell a’ch PIN. Codir tâl am argraffu.

Wi-Fi

Mae ein llyfrgelloedd i gyd yn cynnig Wi-Fi cyhoeddus am ddim hefyd.

Astudio

Mae gan bob un o’n llyfrgelloedd fyrddau astudio ac mae ardaloedd digidol unigol ar gael mewn rhai llyfrgelloedd hefyd os oes arnoch chi angen rhywle preifat i fynychu cyfarfod neu gwrs ar-lein.

Archebu ystafell gyfarfod

Mae ystafelloedd cyfarfod y gallwch eu harchebu ar gael am ffi ym mhob un o’n llyfrgelloedd. Cysylltwch â’r llyfrgell berthnasol am ragor o wybodaeth.