Oedi yn yr brosesu ceisiadau ac ymholiadau cynllunio

Mae oedi sylweddol ar hyn o bryd wrth i ni brosesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio ac ymholiadau ffurfiol, gan fod llai o staff yn y Tîm Cefnogi a’r Tîm Swyddogion. 

Mae baich achosion uchel iawn gan swyddogion, ond maent yn gweithio’n galed i brosesu’r holl geisiadau cynllunio a’r ymholiadau ffurfiol cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf, gofynnwn i chi edrych ar y wefan yn y lle cyntaf, gan fod yr holl wybodaeth a’r ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi ar y wefan.

Bydd y swyddogion yn cysylltu â’r ymgeiswyr/ asiantiaid os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt neu os bydd ganddynt unrhyw wybodaeth i’w rhannu. Os ydych chi wedi penodi asiant i weithredu ar eich rhan, dylech gysylltu â’ch asiant i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn y lle cyntaf, gan y bydd swyddogion yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r asiant yn unig, fel y nodwyd ar y ffurflen gais. 

Gwneir ceisiadau am ragor o amser a Datganiadau Isadeiledd Gwyrdd (os nad ydynt wedi’u cyflwyno eisoes) drwy ohebiaeth llythyrau cydnabod. Byddem yn hynod ddiolchgar pe baech yn ymateb i’r ceisiadau hyn yn ysgrifenedig, drwy anfon e-bost at planning@denbighshire.gov.uk, gan nodi rhif cyfeirnod a chyfeiriad safle’r cais.

Mae angen Datganiadau Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer penderfynu ar bob cais cynllunio. Os nad oes un wedi’i gyflwyno, bydd y Swyddog yn cysylltu â chi yn nes ymlaen yn y broses i ofyn amdano a bydd hyn yn arwain at ragor o oedi yn y broses.

Gan fod Swyddogion yn rhoi blaenoriaeth i’r ceisiadau cynllunio a’r ymholiadau ffurfiol y talwyd amdanynt, bydd llai o gyswllt dros y ffôn ac e-bost a bydd oedi ynghlwm â hynny. Ni all swyddogion ymateb i ymholiadau anffurfiol na chynnig cyngor ynghylch yr angen am ganiatâd cynllunio a byddant yn cyfeirio cwsmeriaid at y tudalennau Cynllunio ar wefan y Cyngor am ragor o gyngor a gwybodaeth. Fel arall, efallai eich bod yn dymuno cysylltu ag asiant cynllunio neu bensaer am gyngor.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster a achosir gan yr oedi, ond hoffem atgoffa cwsmeriaid, os ydyn nhw’n bwrw ymlaen ag unrhyw ddatblygiadau heb y caniatâd sydd ei angen, eu bod yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain:

Siarter cydymffurfiaeth cynllunio