Beth ddylwn i ei wneud â phren?
Brigau a changhennau bach (gwastraff gardd)

Gallwch roi brigau a changhennau bach (hyd at 5cm o drwch) yn eich bin olwynion gwyrdd / sachau gwyrdd neu fynd â nhw i’r Parc Ailgylchu fel gwastraff gardd (am ddim).
Gallwn gasglu eich gwastraff gardd bob pythefnos am ffi flynyddol.
Bin gwyrdd.
Sachau gwyrdd.
Darnau mawr o goed a gynhyrchwyd

Ni all darnau mawr o goed a gynhyrchwyd e.e. byrddau decin a phaneli sied fynd i’ch casgliad gwastraff gardd.
Fe allant gael eu hailgylchu yn eich Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.