Cymorth â Chostau Byw: Teuluoedd 

Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu teuluoedd gyda chostau byw. 

Gwasanaethau a gwybodaeth

30 awr o ofal plant wedi ei ariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed (gwefan allanol)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhieni sy’n gweithio yn gallu cael 30 awr o ofal plant wedi ei ariannu bob wythnos trwy Gynnig Gofal Plant Cymru.

Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi’i ariannu

Efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael 10 awr o addysg am ddim os ydynt yn mynychu cylch chwarae neu feithrinfa ddydd ar ôl eu 3ydd pen-blwydd.

Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i ddarparu ofal plant am ddim yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad a gofrestrwyd i gyflwyno’r rhaglen Dechrau'n Deg.

Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Dysgwch am Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Ddinbych.

Cinio ysgol am ddim

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol fe all eich plentyn chi dderbyn cinio ysgol am ddim.

Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd

I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n cefnogi pobl o oedran gwaith sydd naill ai ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant (gwefan allanol)

Gall Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant helpu â’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gofalu am blentyn.

Budd-dal tai

Efallai y gallwch gael help gyda’ch rhent os ydych chi o’r oedran i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth neu’n byw mewn llety â chymorth.

Cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor

Efallai y bydd gennych yr hawl i ostyngiad ar eich treth cyngor, yn ddibynnol ar eich incwm.

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) (gwefan allanol)

I'r rhai sydd mewn caledi ariannol, mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

Grant Hanfodion Ysgol

Mae modd i rai rhieni dderbyn grant tuag at brynu gwisg ysgol ac offer.

Cludiant am ddim i'r ysgol a'r coleg

Sut i dderbyn cludiant am ddim i'r ysgol a'r coleg.

Pecynnau band eang a ffôn rhatach (gwefan allanol)

Os ydych yn derbyn budd-daliadau'r llywodraeth, gallech fod yn gymwys i gael pecynnau band eang a ffôn cost isel o'r enw Tariffau Cymdeithasol.

Cymorth i fynd ar-lein

Mae ein staff ar gael i’ch cynorthwyo chi â chael mynediad at y byd digidol drwy eich llyfrgell leol.

Urddas mislif

Eitemau mislif am ddim i fyfyrwyr (8 – 18 oed) a phreswylwyr sy’n derbyn budd-dal incwm isel yn Sir Ddinbych.

Dod o hyd i fanc bwyd (gwefan allanol)

Dewch o hyd i’ch banc bwyd Ymddiriedaeth Trussell lleol, eu manylion cyswllt a’u horiau agor.

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cyngor am ddim, cyfrinachol a diduedd ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Cyfrifiannell budd-daliadau (gwefan allanol)

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol a dienw am ddim i wirio pa gymorth ariannol y gallech fod yn gymwys iddo.

Cymorth gyda biliau tŷ a chludiant

Gwybodaeth am y gymorth ar gael gyda biliau tŷ a chludiant.

Fy Nghartref Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Mae Fy Nghartref Sir Ddinbych yn brosiect ymyrraeth gynnar sy'n ceisio gweithio 'i fyny'r afon' gan gynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw un yn Sir Ddinbych, a allai fod yn wynebu trafferthion neu anawsterau yn ymwneud â'u cartref.