Esboniad o'ch bil treth y cyngor

Gwybodaeth am eich bil treth y cyngor.

Gwybodaeth am dreth y cyngor ar gyfer 2024/2025 

Taliadau treth y cyngor

Gweld y taliadau treth y cyngor ar gyfer pob Band Eiddo yn Sir Ddinbych.

Talu Treth y Cyngor

Mae’n rhaid i chi dalu treth y cyngor erbyn y dyddiad a nodir ar eich bil.

Mwy o wybodaeth am dalu

Gostyngiadau ac esemptiadau

Mae gostyngiadau ac esemptiadau ar gael a allai ostwng eich bil treth y cyngor.

Edrychwch ar y gostyngiadau a'r esemptiadau sydd ar gael

Newidiadau yn eich amgylchiadau

Os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a allai newid y swm sy'n daladwy gennych neu os ydych wedi symud tŷ, mae'n rhaid i chi ein hysbysu cyn gynted ag sy'n bosibl.

Rhowch wybod i ni am newid yn eich amgylchiadau

Bandiau eiddo

Mae’r swm a dalwch yn dibynnu ar y band sydd wedi cael ei ddyrannu i’ch tŷ yn unol â’i werth ar 1 Ebrill 2003.

Cyfrifwn bob band prisio fel cyfran o'r Dreth Gyngor o'i gymharu â Band D, er enghraifft, tâl Band A yw 6/9fed o dâl Band D.

Mae cyfran y dreth gyngor sydd yn cael ei dalu gan bob Band am 2023/2024 yn y tabl canlynol:

Edrychwch ar y gwerthoedd a manylion sut i apelio yn erbyn band eiddo.

Crynodeb o dreth y cyngor ar gyfer Sir Ddinbych yn eiddo band D

Apelio yn erbyn eich bil treth y cyngor

Gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru (gwefan allanol) os ydych yn credu nad ydych yn atebol i dalu treth y cyngor oherwydd:

  • nad ydych yn credu mai chi yw'r person atebol
  • bod eich eiddo wedi'i eithrio rhag treth y cyngor
  • rydym wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrifo’ch bil

Os ydych yn herio lefel eich band neu os ydych yn gwneud math arall o apêl yn erbyn taliad, mae’n rhaid i chi ddal i dalu’r bil presennol nes bo’r apêl wedi’i setlo.

Gofynnwch am fil mewn fformat arall

Mae biliau treth y cyngor ar gael mewn Braille, print bras ac ar gryno ddisg sain. Os hoffech dderbyn eich bil mewn fformat arall, ffoniwch 01824 706000.

I le mae’r arian yn mynd

Mae treth y cyngor yr ydych yn ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu'r gwasanaethau mwyaf lleol yn Sir Ddinbych ac yn cael ei rhannu rhwng tri awdurdod;

  • 80% Cyngor Sir Ddinbych
  • 17% Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • 3% Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned

Ffeithiau a Ffigyrau

Ar gyfer 2024/2025 bydd bil treth y cyngor ar gyfartaledd yn £2,090.11 (yn seiliedig ar eiddo cyffredinol Band D), o’i gymharu â £1,927.84 yn 2023/2024, mae hyn yn gynnydd o 8.42%.

Cynnydd yn Nhreth y Cyngor
Awdurdod2023/20242024/2025Cynnydd
Cyngor Sir Ddinbych £1,535.35 £1,678.75 9.34% 
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru £333.09 £349.65 4.97% 
Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned (Cyfartaledd) £59.40 £61.71 3.90% 
Cyfanswm yr addasiad £1,927.84 £2,090.11 8.42%

Cyllideb Refeniw

Ein cyllideb ar gyfer 2024/25 yw £271.022 miliwn sy’n £20.229 miliwn yn fwy na chyllideb y llynedd o £250.793 miliwn.

Mae hyn yn cael ei rannu fel y ganlyn:

  • Chwyddiant / Pwysau: +£24,896,000
  • Grantiau bellach wedi’u cynnwys neu eu trosglwyddo allan o'r setliad: +£5,566,000
  • Buddsoddiad i gefnogi penderfyniadau blaenorol y Cyngor/Cabinet: +£150,000
  • Effeithlonrwydd/Arbedion: -£10,383,000

Mae’r gyllideb o £271.022m yn £11.598m uwchben yr Asesiad Gwario Safonol sef £259.424m – amcangyfrif Llywodraeth Cymru o’r hyn sydd ei angen i ddarparu ‘lefel gwasanaeth safonol’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gadael y penderfyniad terfynol ar lefel y gwariant a threth y cyngor i gynghorau i’w galluogi i fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg darpariaeth gwasanaethau ac i gydnabod methiant yn null dyrannu arian y Cynulliad.

Cyllid Cyngor Sir Ddinbych

Mae cyllid Cyngor Sir Ddinbych yn dod o:

  • Llywodraeth Cymru 53%
  • Grantiau penodol 16%
  • Treth y Cyngor 19%
  • Incymau eraill 12%
  • Cyllid wrth Gefn 0%
Balansau

Dechreuodd y Cyngor y flwyddyn gyda balansau cyffredinol o £5.531m.

Gosodwyd cyllideb 2024/2025 heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

Gwariant cyfalaf

Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at wariant ar asedau, megis gwelliannau i’r ffyrdd, a ddisgwylir i gael budd a fydd yn para mwy na blwyddyn.

Mae gan daliadau a wneir i sefydliadau allanol ac unigolion fuddion tymor hir tebyg, megis tal grantiau gwella cartrefi, yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf hefyd

Yn 2024/25, disgwylir y bydd gwariant o £65.8 miliwn. Bydd gwariant sylweddol ar gynlluniau amddiffyn arfordir, ailfodelu’r gwasanaeth gwastraff, a gwaith adeiladu ysgolion, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch.

Gellir dadansoddi eitemau mawr o wariant cyfalaf disgwyliedig fel y ganlyn:

  • Gwaith Adeiladu Ysgolion gan gynnwys Iechyd a Diogelwch: £7.7m
  • Grantiau Gwelliannau i Dai: £1.5m
  • Priffyrdd, Fflyd, Pontydd a Gwaith i Leddfu Llifogydd: £7.2m
  • Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn: £9.2m
  • Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl: £24.3m
  • Cynlluniau Codi’r Gwastad: £4m
  • Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol a Mân addasiadau: £1.8m
  • Gosod dwy ysgubor halen: £1.8m
  • Cynlluniau gostwng carbon: £2m
  • Gwasanaeth Gwastraff a depos: £0.9m
  • Cynlluniau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin: £2.6m
  • Cyfanswm yr Eitemau Sylweddol: £62.7m
  • Arall: £3.1m
  • Cyfanswm y Rhaglen Arfaethedig: £65.8m
Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2024/2025
Gyllideb 2023/2024
GwasanaethGwariant GrosIncwmGwariant Net
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion £98,491,000 £9,135,000 £89,356,000
Addysg a Gwasanaethau Plant £39,854,000 £16,288,000 £23,566,000
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd £29,826,000 £12,562,000 £17,264,000
Gwasanaethau Cyllid ac Archwilio £5,068,000 £2,274,000 £2,794,000
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd £18,810,000 £8,195,000 £10,615,000
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd £81,083,000 £21,939,000 £59,143,000
Gwasanaethau Cymorth Eraill £23,468,000 £6,528,000 £16,940,000
Corfforaethol ac Amrywiol £53,299,000 £29.271,000 £24,028,000
Codi Cyfalaf £20,534,000 £0 £20,534,000
Ardollau £6,780,000 £0 £6,780,000
Cyfanswm £377,214,000 £106,192,000 £271,022,000

Y cynnydd blynyddol sydd ei angen yn Nhreth y Cyngor i ariannu gwasanaethau'r cyngor yw 8.23%, gyda 1.11% ychwanegol i ariannu cyfran Sir Ddinbych o'r cynnydd yn yr ardoll gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Ariennir gan:
  • Ariannu Llywodraeth Cymru: £200,795,000
  • Talwr Treth y Cyngor: £70,227,000
  • Defnydd o Gweddillion: 0

Cyfanswm: £271,022,000

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gosod eu helfen eu hunain o Dreth y Cyngor (a elwir yn praesept).

Ar gyfer 2024/2025 maent wedi penderfynu cynyddu’r cyllid o 7.40%, sy’n arwain at gynnydd yn elfen treth y cyngor o 4.97%.

Mae’r elfen hon tu hwnt i reolaeth y cyngor Sir.

Mae'r tabl canlynol yn dangos taliadau 2024/2025 ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru:

Taliadau 2024/2025 ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
Band trethTaliadau ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
A £233.10
B £271.95
C £310.80
D £349.65
E £427.35
F £505.05
G £582.75
H £699.30
I £815.85

Mae’r elfen hon tu hwnt i reolaeth y cyngor Sir.

Dysgwch ragor ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (gwefan allanol)

Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned

Mae gan gynghorau dinas, tref a chymuned awdurdod i osod eu helfennau treth y cyngor eu hunain.

Praesept

Y praesept yw cyfran y cyngor dinas, tref a chymuned o dreth y cyngor. Mae’r galw praesept yn mynd i’r awdurdod bilio, sy’n casglu treth ar gyfer y cyngor dinas, tref a chymuned. Mae’r praesept yn cael ei drosi i swm fesul band treth y cyngor sy’n cael ei ychwanegu at y bil treth y cyngor.

Telir y swm net (y praesept) i’r cynghorau dinas, tref a chymuned mewn dau randaliad fesul chwe mis.

2024/2025 praesept a thaliadau cyngor tref, dinas neu gymuned
Dinas, tref neu chymunedSwm y praeseptTâl cyngor tref, dinas neu gymuned
Aberwheeler £5,000 £27.93
Betws Gwerfil Goch £4,075 £25.00
Bodelwyddan £49,000 £58.30
Bodfari £15,981 £74.68
Bryneglwys £6,255 £35.34
Cefn Meiriadog £7,104 £33.99
Clocaenog £6,300 £49.61
Corwen £125,000 £121.12
Cyffylliog £12,990 £51.96
Cynwyd £9,530 £32.41
Dinbych £245,388 £66.00
Derwen £7,710 £30.00
Dyserth £50,500 £42.65
Efenechtyd £7,626 £25.34
Gwyddelwern £3,728 £16.00
Henllan £16,380 £42.00
Llanarmon yn Ial £23,562 £38.00
Llanbedr Dyffryn Clwyd £20,160 £39.30
Llandegla £9,951 £31.00
Llandrillo £9,745 £29.89
Llandyrnog £12,372 £23.48
Llanelidan £6,048 £33.98
Llanfair Dyffryn Clwyd £30,000 £46.01
Llanferres £18,960 £44.61
Llangollen £165,350 £86.98
Llangynhafal £5,250 £14.50
Llanrhaeadr £17,457 £33.00
Llantysilio £12,345 £46.94
Llanynys £9,000 £23.81
Nantglyn £6,807 £39.81
Prestatyn £531,712 £67.25
Rhuddlan £199,211 £116.70
Y Rhyl £572,094 £57.85
Rhuthun £177,332 £68.87
Llanelwy £157,419 £94.77
Trefnant £6,330 £8.94
Tremeirchion £19,700 £29.10

Dysgwch sut i gysylltu â chyngor dinas, tref a chymuned

Gwybodaeth am dreth gyngor y flwyddyn flaenorol

Gwybodaeth am dreth y cyngor ar gyfer 2023/2024

Ffeithiau a Ffigyrau

Ar gyfer 2023/2024 bydd bil treth y cyngor ar gyfartaledd yn £1,927.84 (yn seiliedig ar eiddo cyffredinol Band D), o’i gymharu â £1,853.45 yn 2022/2023, mae hyn yn gynnydd o 4.01%.

Cynnydd yn Nhreth y Cyngor
Awdurdod 2022/2023 2023/2024 Cynnydd
Cyngor Sir Ddinbych £1,479.16 £1,535.35 3.80% 
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru £316.80 £333.09 5.14% 
Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned (Cyfartaledd) £57.49 £59.40 3.33% 
Cyfanswm yr addasiad £1,853.45 £1,927.84 4.01%

Cyllideb Refeniw

Ein cyllideb ar gyfer 2023/2024 yw £250.793m sy’n £17.097m yn fwy na chyllideb llynedd o £233.696m.

Mae hyn yn cael ei rannu fel y ganlyn:

  • Chwyddiant / Pwysau: +£23,421,000
  • Grantiau bellach wedi’u cynnwys neu eu trosglwyddo allan o'r setliad: +£148,000
  • Buddsoddiad i gefnogi penderfyniadau blaenorol y Cyngor/Cabinet: +£500,000
  • Effeithlonrwydd/Arbedion: -£6,972,000

Mae’r gyllideb o £250.793m yn £2.631m uwchben yr Asesiad Gwario Safonol sef £248.162m – amcangyfrif Llywodraeth Cymru o’r hyn sydd ei angen i ddarparu ‘lefel gwasanaeth safonol’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gadael y penderfyniad terfynol ar lefel y gwariant a threth y cyngor i gynghorau i’w galluogi i fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg darpariaeth gwasanaethau ac i gydnabod methiant yn null dyrannu arian y Cynulliad.

Cyllid Cyngor Sir Ddinbych

Mae cyllid Cyngor Sir Ddinbych yn dod o:

  • Llywodraeth Cymru 52%
  • Grantiau penodol 17%
  • Treth y Cyngor 18%
  • Incymau eraill 13%
Balansau

Dechreuodd y Cyngor y flwyddyn gyda balansau cyffredinol o £7.135m.

Gosodwyd cyllideb 2023/2024 heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

Gwariant cyfalaf

Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at wariant ar asedau, megis gwelliannau i’r ffyrdd, a ddisgwylir i gael budd a fydd yn para mwy na blwyddyn.

Mae gan daliadau a wneir i sefydliadau allanol ac unigolion fuddion tymor hir tebyg, megis tal grantiau gwella cartrefi, yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf hefyd

Yn 2023/2024 disgwylir y bydd gwariant o £91.7m. Bydd gwariant sylweddol ar gynlluniau amddiffyn arfordir, ailfodelu’r gwasanaeth gwastraff, a gwaith adeiladu ysgolion, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch.

Gellir dadansoddi eitemau mawr o wariant cyfalaf disgwyliedig fel y ganlyn:

  • Gwaith Adeiladu Ysgolion gan gynnwys Iechyd a Diogelwch: £10.4m
  • Grantiau Gwelliannau i Dai: £1.5m
  • Priffyrdd, Fflyd, Pontydd a Gwaith i Leddfu Llifogydd: £6.1m
  • Ailddatblygu Adeiladau’r Frenhines: £2.9m
  • Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn: £16.5m
  • Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl: £35.1m
  • Cynlluniau Codi’r Gwastad: £3.3m
  • Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol a Mân addasiadau: £2.5m
  • Gosod dwy ysgubor halen: £1.1m
  • Cynlluniau gostwng carbon: £0.3m
  • Gwasanaeth Gwastraff a depos: £10.2m
  • Arall: £1.8m
Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2023/2024
Gyllideb 2023/2024
Gwasanaeth Gwariant Gros Incwm Gwariant Net
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion £94,140,000 £9,700,000 £84,440,000
Addysg a Gwasanaethau Plant £36,747,000 £15,309,000 £21,438,000
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd £30,073,000 £12,464,000 £17,609,000
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo £10,511,000 £4,667,000 £5,844,000
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd £18,909,000 £7,401,000 £11,508,000
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol £72,028,000 £20,454,000 £51,573,000
Gwasanaethau Cymorth Eraill £19,009,000 £4,061,000 £14,948,000
Corfforaethol ac Amrywiol £51,385,000 £29,271,000 £22,114,000
Codi Cyfalaf £15,255,000 £0 £15,255,000
Ardollau £6,064,000 £0 £6,064,000
Cyfanswm £354,119,000 £103,326,000 £250,793,000
Ariennir gan:
  • Ariannu Llywodraeth Cymru: £188,024,000
  • Talwr Treth y Cyngor: £62,769,000
  • Defnydd o Gweddillion: 0

Cyfanswm: £250,793,000

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gosod eu helfen eu hunain o Dreth y Cyngor (a elwir yn praesept).

Ar gyfer 2023/2024 maent wedi penderfynu cynyddu’r cyllid o 5.86%, sy’n arwain at gynnydd yn elfen treth y cyngor o 5.14%.

Tâl 2023/2024 ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yw £333.09 (ar gyfer eiddo band D).

Mae’r elfen hon tu hwnt i reolaeth y cyngor Sir.

Dysgwch ragor ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (gwefan allanol)

Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned

Mae gan gynghorau dinas, tref a chymuned awdurdod i osod eu helfennau treth y cyngor eu hunain.

Praesept

Y praesept yw cyfran y cyngor dinas, tref a chymuned o dreth y cyngor. Mae’r galw praesept yn mynd i’r awdurdod bilio, sy’n casglu treth ar gyfer y cyngor dinas, tref a chymuned. Mae’r praesept yn cael ei drosi i swm fesul band treth y cyngor sy’n cael ei ychwanegu at y bil treth y cyngor.

Telir y swm net (y praesept) i’r cynghorau dinas, tref a chymuned mewn dau randaliad fesul chwe mis.

Crynodeb o dreth y cyngor ar gyfer Sir Ddinbych 2023/2024 yn band D
Dinas, tref neu chymuned Swm y praesept Tâl cyngor tref, dinas neu gymuned
Aberwheeler £4,500 £25.14
Betws Gwerfil Goch £3,132 £19.95
Bodelwyddan £45,000 £52.82
Bodfari £8,500 £40.48
Bryneglwys £6,195 £35.00
Cefn Meiriadog £7,104 £35.00
Clocaenog £6,320 £50.97
Corwen £118,300 £117.13
Cyffylliog £12,270 £51.99
Cynwyd £4,986 £17.13
Dinbych £233,442 £66.00
Derwen £7,170 £30.00
Dyserth £48,500 £41.92
Efenechtyd £7,626 £26.12
Gwyddelwern £3,584 £16.00
Henllan £16,422 £42.00
Llanarmon yn Ial £22,440 £37.84
Llanbedr Dyffryn Clwyd £20,160 £40.08
Llandegla £9,984 £31.50
Llandrillo £7,945 £24.83
Llandyrnog £11,784 £22.45
Llanelidan £6,048 £35.79
Llanfair Dyffryn Clwyd £30,000 £46.66
Llanferres £19,250 £46.95
Llangollen £155,677 £83.16
Llangynhafal £5,000 £14.37
Llanrhaeadr £17,490 £33.00
Llantysilio £11,640 £46.01
Llanynys £9,000 £24.59
Nantglyn £6,483 £38.82
Prestatyn £497,299 £63.74
Rhuddlan £183,039 £106.48
Y Rhyl £555,954 £57.85
Rhuthun £164,775 £65.65
Llanelwy £139,902 £90.26
Trefnant £5,255 £6.94
Tremeirchion £18,500 £27.33
Gwybodaeth am dreth y cyngor ar gyfer 2022/2023

Bandiau eiddo

Mae’r swm a dalwch yn dibynnu ar y band sydd wedi cael ei ddyrannu i’ch tŷ yn unol â’i werth ar 1 Ebrill 2003.

Cyfrifwn bob band prisio fel cyfran o'r Dreth Gyngor o'i gymharu â Band D, er enghraifft, tâl Band A yw 6/9fed o dâl Band D.

Mae cyfran y dreth gyngor sydd yn cael ei dalu gan bob Band am 2022/2023 yn y tabl canlynol:

Cyfran y dreth gyngor 2022/2023
Band eiddo Cyfran y dreth gyngor Lluosog
A £986.11 6/9
B £1,150.46 7/9
C £1,314.81 8/9
D £1,479.16 9/9
E £1,807.86 11/9
F £2,136.56 13/9
G £2,465.27 15/9
H £2,958.32 18/9
I £3,451.37 21/9

I le mae’r arian yn mynd

Mae treth y cyngor yr ydych yn ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu'r gwasanaethau mwyaf lleol yn Sir Ddinbych ac yn cael ei rhannu rhwng tri awdurdod;

  • 80% Cyngor Sir Ddinbych
  • 17% Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • 3% Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned

Ffeithiau a Ffigyrau

Ar gyfer 2022/2023 bydd bil treth y cyngor ar gyfartaledd yn £1,853.45 (yn seiliedig ar eiddo cyffredinol Band D), o’i gymharu â £1,797.52 yn 2021/2022, mae hyn yn gynnydd o 3.11%.

Cynnydd yn Nhreth y Cyngor
Awdurdod 2021/2022 2022/2023 Cynnydd
Cyngor Sir Ddinbych £1,436.76 £1,479.16 2.95% 
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru £305.55 £316.80 3.68% 
Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned (Cyfartaledd) £55.21 £57.49 4.13% 
Cyfanswm yr addasiad £1,797.52 £1,853.45 3.11%

Cyllideb Refeniw

Ein cyllideb ar gyfer 2022/2023 yw £233.696m sy’n £16.878m yn fwy na chyllideb llynedd o £216.818m.

Mae hyn yn cael ei rannu fel y ganlyn:

  • Chwyddiant / Pwysau: +£15,956,000
  • Grantiau bellach wedi’u cynnwys neu eu trosglwyddo allan o'r setliad: +£275,000
  • Buddsoddiad i gefnogi penderfyniadau blaenorol y Cyngor/Cabinet: +£1,281,000
  • Effeithlonrwydd/Arbedion: -£634,000

Mae’r gyllideb o £233.696m yn £0.810m uwchben yr Asesiad Gwario Safonol sef £232.886m – amcangyfrif Llywodraeth Cymru o’r hyn sydd ei angen i ddarparu ‘lefel gwasanaeth safonol’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gadael y penderfyniad terfynol ar lefel y gwariant a threth y cyngor i gynghorau i’w galluogi i fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg darpariaeth gwasanaethau ac i gydnabod methiant yn null dyrannu arian y Cynulliad.

Cyllid Cyngor Sir Ddinbych

Mae cyllid Cyngor Sir Ddinbych yn dod o:

  • Llywodraeth Cymru 52%
  • Grantiau penodol 17%
  • Treth y Cyngor 18%
  • Incymau eraill 13%
  • Cyllid wrth Gefn 0%
Balansau

Dechreuodd y Cyngor y flwyddyn gyda balansau cyffredinol o £7.135m.

Gosodwyd cyllideb 2022/23 heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

Gwariant cyfalaf

Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at wariant ar asedau, megis gwelliannau i’r ffyrdd, a ddisgwylir i gael budd a fydd yn para mwy na blwyddyn.

Mae gan daliadau a wneir i sefydliadau allanol ac unigolion fuddion tymor hir tebyg, megis tal grantiau gwella cartrefi, yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf hefyd

Yn 2022/2023 disgwylir y bydd gwariant o £48.7m. Bydd gwariant sylweddol ar gynllun amddiffyn arfordirol, Gofal Ychwanegol ac ar ailfodelu’r gwasanaeth gwastraff. Gellir dadansoddi eitemau mawr o wariant cyfalaf disgwyliedig fel y ganlyn:

  • Gwaith Adeiladu Ysgolion gan gynnwys Iechyd a Diogelwch: £11.9m
  • Grantiau Gwelliannau i Dai: £1.2m
  • Priffyrdd, Fflyd, Pontydd a Gwaith i Leddfu Llifogydd: £5.1m
  • Cynlluniau i Amddiffyn yr Arfordir: £3.6m
  • Ailddatblygiadau canol tref: £3.5m
  • Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol a'n addasiadau: £3m
  • Cynlluniau Lleihau Carbon: £1.1m
  • Y Gwasanaeth Gwastraff a Depos: £12.9m
  • Cynlluniau gofal ychwanegol: £5.1m
Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2022/2023
Gyllideb 2022/2023
Gwasanaeth Gwariant Gros Incwm Gwariant Net
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion £87,394,000 £5,745,000 £81,649,000
Addysg a Gwasanaethau Plant £33,681,000 £15,206,000 £18,475,000
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd £30,358,000 £14,343,000 £16,015,000
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo £10,432,000 £4,578,000 £5,854,000
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd £17,338,000 £7,193,000 £10,145,000
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol £60,559,000 £17,399,000 £43,160,000
Gwasanaethau Cymorth Eraill £18,277,000 £4,114,000 £14,163,000
Corfforaethol ac Amrywiol £52,508,000 £29,271,000 £23,237,000
Codi Cyfalaf £15,617,000 £0 £15,617,000
Ardollau £5,381,000 £0 £5,381,000
Cyfanswm £331,545,000 £97,849,000 £233,696,000
Ariennir gan:
  • Ariannu Llywodraeth Cymru: £173,640,000
  • Talwr Treth y Cyngor: £60,056,000
  • Defnydd o Gweddillion: £0

Cyfanswm: £233,696,000

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gosod eu helfen eu hunain o Dreth y Cyngor (a elwir yn praesept).

Ar gyfer 2022/2023 maent wedi penderfynu cynyddu’r cyllid o 3.94%, sy’n arwain at gynnydd yn elfen treth y cyngor o 3.68%.

Tâl 2022/2023 ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yw £316.80

Mae’r elfen hon tu hwnt i reolaeth y cyngor Sir.

Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned

Mae gan gynghorau dinas, tref a chymuned awdurdod i osod eu helfennau treth y cyngor eu hunain.

Praesept

Y praesept yw cyfran y cyngor dinas, tref a chymuned o dreth y cyngor. Mae’r galw praesept yn mynd i’r awdurdod bilio, sy’n casglu treth ar gyfer y cyngor dinas, tref a chymuned. Mae’r praesept yn cael ei drosi i swm fesul band treth y cyngor sy’n cael ei ychwanegu at y bil treth y cyngor.

Telir y swm net (y praesept) i’r cynghorau dinas, tref a chymuned mewn dau randaliad fesul chwe mis.

Crynodeb o dreth y cyngor ar gyfer Sir Ddinbych 2022/2023 yn band D
Dinas, tref neu chymuned Swm y praesept Tâl cyngor tref, dinas neu gymuned
Aberwheeler £3,750 £21.07
Betws Gwerfil Goch £3,112 £19.95
Bodelwyddan  £40,000 £47.62
Bodfari  £7,400 £35.07
Bryneglwys £6,255 £35.95
Cefn Meiriadog £6,720 £32.00
Clocaenog £6,320 £50.16
Corwen £100,463 £99.96
Cyffylliog £12,270 £51.99
Cynwyd £4,986 £17.62
Dinbych £230,208 £66.00
Derwen £6,000 £25.10
Dyserth £48,500 £41.24
Efenechtyd £7,626 £26.48
Gwyddelwern £4,050 £18.00
Henllan £16,128 £42.00
Llanarmon yn Ial £22,440 £37.71
Llanbedr Dyffryn Clwyd £20,160 £40.00
Llandegla £9,984 £32.00
Llandrillo £6,613 £20.35
Llandyrnog £11,222 £21.92
Llanelidan £6,048 £36.22
Llanfair Dyffryn Clwyd £30,000 £48.62
Llanferres £18,500 £45.01
Llangollen £149,900 £80.29
Llangynhafal £6,500 £19.01
Llanrhaeadr £15,840 £30.00
Llantysilio £10,929 £43.20
Llanynys £8,856 £24.00
Nantglyn £6,138 £36.98
Prestatyn £494,622 £63.74
Rhuddlan £169,280 £98.88
Y Rhyl £552,383 £57.66
Rhuthun £160,132 £63.52
Llanelwy £109,736 £72.10
Trefnant £5,255 £7.66
Tremeirchion £18,000 £26.71
Gwybodaeth am dreth y cyngor ar gyfer 2021/2022

Bandiau eiddo

Bandiau eiddo 2020/2021 a 2021/2022
Band eiddo 2020/2021 2021/2022 Lluosog
A £922.77 £957.84 6/9
B £1,076.57 £1,117.48 7/9
C £1,230.36 £1,277.12 8/9
D £1,384.16 £1,436.76 9/9
E £1,691.75 £1,756.03 11/9
F £1,999.34 £2,075.31 13/9
G £2,306.93 £2,394.59 15/9
H £2,768.32 £2,873.51 18/9
I £3,229.71 £3,352.43 21/9

Crynodeb o dreth y cyngor ar gyfer Sir Ddinbych 2021 - 2022 yn band D (PDF, 79KB)

I le mae’r arian yn mynd

Mae treth y cyngor yr ydych yn ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu'r gwasanaethau mwyaf lleol yn Sir Ddinbych ac yn cael ei rhannu rhwng tri awdurdod;

  • 80% Cyngor Sir Ddinbych
  • 17% Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • 3% Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned

Ffeithiau a Ffigyrau

Ar gyfer 2021/2022 bydd bil treth y cyngor ar gyfartaledd yn £1,797.52 (yn seiliedig ar eiddo cyffredinol Band D), o’i gymharu â £1,728.90 yn 2020/2021, mae hyn yn gynnydd o 3.97%.

Cynnydd yn Nhreth y Cyngor
Awdurdod 2020/2021 2021/2022 Cynnydd
Cyngor Sir Ddinbych £1,384.16 £1,436.76 3.80% 
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru £290.61 £305.55 5.14% 
Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned (Cyfartaledd) £54.13 £55.21 1.99% 

Cyllideb Refeniw

Ein cyllideb ar gyfer 2021/22 yw £216.818m sy’n £8.516m yn fwy na chyllideb llynedd o £208.302m.

Mae hyn yn cael ei rannu fel y ganlyn:

  • Chwyddiant / Pwysau: + £9,165,000
  • Grantiau bellach wedi’u cynnwys neu eu trosglwyddo allan o'r setliad: + £1,279,000
  • Buddsoddi mewn blaenoriaethau: + £276,000
  • Effeithlonrwydd/Arbedion: - £2,204,000

Mae’r gyllideb o £216.818m yn £1.066m uwchben yr Asesiad Gwario Safonol sef £215.752m – amcangyfrif Llywodraeth Cymru o’r hyn sydd ei angen i ddarparu ‘lefel gwasanaeth safonol’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gadael y penderfyniad terfynol ar lefel y gwariant a threth y cyngor i gynghorau i’w galluogi i fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg darpariaeth gwasanaethau ac i gydnabod methiant yn null dyrannu arian y Cynulliad.

Cyllid Cyngor Sir Ddinbych

Mae cyllid Cyngor Sir Ddinbych yn dod o:

  • Llywodraeth Cymru 50%
  • Grantiau penodol 18%
  • Treth y Cyngor 18%
  • Incymau eraill 14%
  • Cyllid wrth Gefn 0%
Balansau

Dechreuodd y Cyngor y flwyddyn gyda balansau cyffredinol o £7.135m.

Gosodwyd cyllideb 2021/22 heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

Gwariant cyfalaf

Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at wariant ar asedau, megis gwelliannau i’r ffyrdd, a ddisgwylir i gael budd a fydd yn para mwy na blwyddyn.

Mae gan daliadau a wneir i sefydliadau allanol ac unigolion fuddion tymor hir tebyg, megis tal grantiau gwella cartrefi, yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf hefyd

Yn 2021/22 disgwylir y bydd gwariant o £43.7m. Bydd gwariant sylweddol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl ac ar ailfodelu’r gwasanaeth gwastraff. Gellir dadansoddi eitemau mawr o wariant cyfalaf disgwyliedig fel y ganlyn:

  • Gwaith Adeiladu Ysgolion gan gynnwys Iechyd a Diogelwch: £5.2m
  • Grantiau Gwelliannau i Dai: £1.2m
  • Priffyrdd, Fflyd, Pontydd a Gwaith i Leddfu Llifogydd: £5.1m
  • Cynlluniau i Amddiffyn yr Arfordir: £9.2m
  • Ailddatblygiadau canol tref: £1.1m
  • Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol a'n addasiadau: £2.6m
  • Ysgolion yr 21ain Ganrif: £1.1m
  • Y Gwasanaeth Gwastraff a Depos: £14.1m
  • Cynlluniau gofal ychwanegol: £2.7m
Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2021/2022
Gyllideb 2021/2022
Gwasanaeth Gwariant Gros Incwm Gwariant Net
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion £85,223,000 £9,210,000 £76,013,000
Addysg a Gwasanaethau Plant £31,705,000 £14,031,000 £17,674,000
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd £31,682,000 £14,782,000 £16,900,000
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo £8,967,000 £4,425,000 £4,542,000
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd £16,815,000 £7,211,000 £9,604,000
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol £57,478,000 £17,634,000 £39,844,000
Gwasanaethau Cymorth Eraill £16,771,000 £3,740,000 £13,031,000
Corfforaethol ac Amrywiol £48,385,000 £29,281,000 £19,104,000
Codi Cyfalaf £15,046,000 £0 £15,046,000
Ardollau £5,060,000 £0 £5,060,000
Cyfanswm £317,132,000 £100,314,000 £216,818,000
Ariennir gan:
  • Ariannu Llywodraeth Cymru: £158,632,000
  • Talwr Treth y Cyngor: £58,186,000
  • Defnydd o Gweddillion: 0

Cyfanswm: £216,818,000

Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2020/2021
Gyllideb 2020/21
Gwasanaeth Gwariant Gros Incwm Gwariant Net
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion £81,706,000 £8,546,000 £73,160,000
Addysg a Gwasanaethau Plant £34,979,000 £17,945,000 £17,034,000
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd £32,131,000 £15,209,000 £16,922,000
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo £9,063,000 £4,466,000 £4,597,000
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd £16,738,000 £7,035,000 £9,703,000
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol £55,504,000 £17,523,000 £37,981,000
Gwasanaethau Cymorth Eraill £23,147,000 £11,072,000 £12,075,000
Corfforaethol ac Amrywiol £47,473,000 £29,223,000 £18,250,000
Codi Cyfalaf £13,681,000 £0 £13,681,000
Ardollau £4,899,000 £0 £4,899,000
Cyfanswm £319,321,000 £111,019,000 £208,302,000
Ariennir gan:
  • Ariannu Llywodraeth Cymru: £151,932,000
  • Talwr Treth y Cyngor: £55,685,000
  • Defnydd o Gweddillion: £685,000

Cyfanswm: £208,302,000

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gosod eu helfen eu hunain o Dreth y Cyngor (a elwir yn praesept).

Ar gyfer 2021/22 maent wedi penderfynu cynyddu’r cyllid o 5.84%, sy’n arwain at gynnydd yn elfen treth y cyngor o 5.14%.

Mae’r elfen hon tu hwnt i reolaeth y cyngor Sir.

Dysgwch ragor ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (gwefan allanol)

Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned

Mae gan gynghorau dinas, tref a chymuned awdurdod i osod eu helfennau treth y cyngor eu hunain.

Dysgwch sut i gysylltu â chyngor dinas, tref a chymuned

Gwybodaeth am dreth y cyngor ar gyfer 2020/2021

Bandiau eiddo

Bandiau eiddo 2019/20 a 20/21
Band eiddo 2019/20 2020/21 Lluosog
A £884.72 £922.77 6/9
B £1,032.17 £1,076.57 7/9
C £1,179.63 £1,230.36 8/9
D £1,327.08 £1,384.16 9/9
E £1,621.99 £1,691.75 11/9
F £1,916.89 £1,999.34 13/9
G £2,211.80 £2,306.93 15/9
H £2,654.16 £2,768.32 18/9
I £3,096.52 £3,229.71 21/9

Crynodeb o dreth y cyngor ar gyfer Sir Ddinbych 2020 - 2021 yn band D (PDF, 164KB)

I le mae’r arian yn mynd

Mae treth y cyngor yr ydych yn ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu'r gwasanaethau mwyaf lleol yn Sir Ddinbych ac yn cael ei rhannu rhwng tri awdurdod;

  • 80% Cyngor Sir Ddinbych
  • 17% Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • 3% Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned

Ffeithiau a Ffigyrau

Ar gyfer 2020/21 bydd bil treth y cyngor ar gyfartaledd yn £1,728.90 (yn seiliedig ar eiddo cyffredinol Band D), o’i gymharu â £1,656.96 yn 2019/20; mae hyn yn gynnydd o 4.3%.

Cynnydd yn Nhreth y Cyngor
Awdurdod 2019/20 2020/21 Cynnydd
Cyngor Sir Ddinbych £1,327.08 £1,384.16 4.30% 
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru £278.10 £290.61 4.50% 
Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned (Cyfartaledd) £51.78 £54.13 4.54% 

Cyllideb Refeniw

Ein cyllideb ar gyfer 2020/21 yw £208.302 miliwn sy’n £9.764 miliwn yn fwy na chyllideb llynedd o £198.538m.

Mae hyn yn cael ei rannu fel y ganlyn:

  • Chwyddiant / Pwysau: + £11,889,000
  • Grantiau bellach wedi’u cynnwys neu eu trosglwyddo allan o'r setliad: + £1,794,000
  • Buddsoddi mewn blaenoriaethau: + £529,000
  • Effeithlonrwydd/Arbedion: - £4,448,000

Mae’r gyllideb o £208.302 miliwn yn £2.412 miliwn uwchben yr Asesiad Gwario Safonol sef £205.89 miliwn – amcangyfrif Llywodraeth Cymru o’r hyn sydd ei angen i ddarparu ‘lefel gwasanaeth safonol’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gadael y penderfyniad terfynol ar lefel y gwariant a threth y cyngor i gynghorau i’w galluogi i fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg darpariaeth gwasanaethau ac i gydnabod methiant yn null dyrannu arian y Cynulliad.

Cyllid Cyngor Sir Ddinbych

Mae cyllid Cyngor Sir Ddinbych yn dod o:

  • Llywodraeth Cymru 47.58%
  • Grantiau penodol 18.36%
  • Treth y Cyngor 17.44%
  • Incymau eraill 16.4%
  • Cyllid wrth Gefn 0.22%

Balansau

Dechreuodd y Cyngor y flwyddyn gyda balansau cyffredinol o £7.135 miliwn.

Gosodwyd cyllideb 2020/21 gan ddefnyddio £0.685 miliwn o arian wrth gefn. Mae hyn yn gynaliadwy fel mesur tymor canol, ond nid yw’n ddatrysiad parhaol i ariannu’r bwlch yn y gyllideb.

Gwariant cyfalaf

Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at wariant ar asedau, megis gwelliannau i’r ffyrdd, a ddisgwylir i gael budd a fydd yn para mwy na blwyddyn.

Mae gan daliadau a wneir i sefydliadau allanol ac unigolion fuddion tymor hir tebyg, megis tal grantiau gwella cartrefi, yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf hefyd.

Yn 2020/21, disgwylir y bydd gwariant o £37.2 miliwn. Bydd gwariant sylweddol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl ac ar ailfodelu’r gwasanaeth gwastraff. Gellir dadansoddi eitemau mawr o wariant cyfalaf disgwyliedig fel y ganlyn:

  • Gwaith Adeiladu Ysgolion gan gynnwys Iechyd a Diogelwch: £3.7 miliwn
  • Grantiau Gwelliannau i Dai: £1.2 miliwn
  • Priffyrdd, Fflyd, Pontydd a Gwaith i Leddfu Llifogydd: £3.9 miliwn
  • Cynlluniau i Amddiffyn yr Arfordir: £11.7 miliwn
  • Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol a mân addasiadau: £1.8 miliwn
  • Ysgolion yr 21ain Ganrif: £3 miliwn
  • Y Gwasanaeth Gwastraff a Depos: £10.8 miliwn

Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2020/21

Gyllideb 2020/21
Gwasanaeth Gwariant Gros Incwm Gwariant Net
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion £81,706,000 £8,546,000 £73,160,000
Addysg a Gwasanaethau Plant £34,979,000 £17,945,000 £17,034,000
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd £32,131,000 £15,209,000 £16,922,000
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo £9,063,000 £4,466,000 £4,597,000
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd £16,738,000 £7,035,000 £9,703,000
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol £55,504,000 £17,523,000 £37,981,000
Gwasanaethau Cymorth Eraill £23,147,000 £11,072,000 £12,075,000
Corfforaethol ac Amrywiol £47,473,000 £29,223,000 £18,250,000
Codi Cyfalaf £13,681,000 £0 £13,681,000
Ardollau £4,899,000 £0 £4,899,000
Cyfanswm £319,321,000 £111,019,000 £208,302,000
Ariennir gan:
  • Ariannu Llywodraeth Cymru: £151,932,000
  • Talwr Treth y Cyngor: £55,685,000
  • Defnydd o Gweddillion: £685,000

Cyfanswm: £208,302,000

Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2019/2020

Gyllideb 2019/20
Gwasanaeth Gwariant Gros Incwm Gwariant Net
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion £78,393,000 £9,399,000 £68,994,000
Addysg a Gwasanaethau Plant £29,834,000 £13,825,000 £16,009,000
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd £30,966,000 £15,199,000 £15,767,000
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo £9,273,000 £4,446,000 £4,827,000
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd £16,284,000 £7,009,000 £9,275,000
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol £53,375,000 £17,592,000 £35,783,000
Gwasanaethau Cymorth Eraill £23,554,000 £11,030,000 £12,524,000
Corfforaethol ac Amrywiol £46,124,000 £29,223,000 £16,901,000
Codi Cyfalaf £13,652,000 £0 £13,652,000
Ardollau £4,806,000 £0 £4,806,000
Cyfanswm £306,261,000 £107,723,000 £198,538,000
Ariennir gan:
  • Ariannu Llywodraeth Cymru: £143,637,000
  • Talwr Treth y Cyngor: £52,901,000
  • Defnydd o Gweddillion: £2,000,000

Cyfanswm: £198,538,000

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gosod eu helfen eu hunain o Dreth y Cyngor (a elwir yn praesept).

Ar gyfer 2020/21 maent wedi penderfynu cynyddu’r cyllid o 5.46%, sy’n arwain at gynnydd yn elfen treth y cyngor o 4.5%.

>