Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Safleoedd Posib’

Mae’r cyfle i gyflwyno safleoedd ymgeisiol i’w hystyried yn lle’r Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych (CDLl) 2018 - 2033 bellach wedi cau. Bydd unrhyw un sy’n dymuno i’w safle i gael ei ystyried ac sydd heb gael ei gyflwyno eto, angen cyflwyno cynrychiolaeth mewn da bryd i’r cyfnod ymgynghori Dogfen I'w Harchwilio Gan Y Cyhoedd. Bydd hynny’n debygol o gymryd lle ddiwedd 2023.

Mae angen safleoedd ymgeisiol er mwyn mynd i’r afael â’r galw am ystod o ddefnydd tir gan gynnwys tai / preswyl, gwaith, manwerthu, hamdden ac eraill.

Rhwng 6 Awst a 26 Tachwedd 2018, rhoddodd y Cyngor wahoddiad i bartïon â diddordeb i gyflwyno tir i’w ystyried ar gyfer ei gynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) nesaf Sir Ddinbych 2018- 2033. Cafodd cyfanswm o 203 o geisiadau eu derbyn gan y Cyngor, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnydd preswyl.

Fe dderbyniom 36 safle ymgeisiol newydd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018 tan 2033 (CDLl).

Nid yw’r broses ar gyfer cyflwyno safle ymgeisiol ar gyfer y CDLl yr un fath â chyflwyno cais cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Nid yw cyhoeddi safle ymgeisiol yn golygu y bydd y safle’n cael ei ystyried yn awtomatig fel tir i’w ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Nid yw’r rhain yn safleoedd a ffefrir ar gyfer eu datblygu ar y cam hwn yn y broses o lunio’r cynllun.

Ceir rhagor o wybodaeth yn y dogfennau canlynol:

Derbyniodd pob safle ymgeisiol gyfeirnod safle unigol ac maent wedi'u rhestru fesul anheddiad ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol.

Isod gallwch ddod o hyd i restr o’r holl aneddiadau lle mae’r safleoedd wedi cael eu derbyn. Bydd clicio ar enw'r anheddiad yn agor dogfen newydd sy'n dangos manylion y safle, gan gynnwys map lleoliad.   

Sylwch, os nad ellir dod o hyd i anheddiad ar y rhestr isod, golyga hyn nad yw’r Cyngor wedi derbyn unrhyw geisiadau o’r ardal benodol hon.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd pob safle sydd wedi’u cyflwyno i’w hystyried ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cael eu hasesu’n llawn.

Bydd y Cynllun i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn cynnwys y safleoedd ymgeisiol y mae’r Cyngor yn debygol o’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018 i 2033.

Dysgwch fwy am y camau nesaf ar gyfer llunio’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.